Heddiw, bydd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a'r Dirprwy Weinidog Twristiaeth yr Arglwydd Elis-Thomas yn datgelu dyfodol cyffrous newydd ar gyfer yr economi ymwelwyr yng Nghymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chynllun pum mlynedd i dyfu'r economi ymwelwyr, gan hoelio sylw ar gryfderau Cymru – ei thirluniau, ei diwylliant a'i lleoedd.
Bydd y strategaeth newydd, Croeso i Gymru: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-25, yn cael ei chefnogi gan ddwy gronfa. Cronfa newydd £10m, Pethau Pwysig i fuddsoddi mewn a seilwaith twristiaeth, yn ogystal â’r Gronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru gwerth £50m ar gyfer cynhyrchion o ansawdd uchel sy'n gallu trawsnewid enw da.
Bydd Croeso i Gymru a'r cyllid newydd yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r prif heriau sy'n wynebu'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, sef natur dymhorol, gwariant a gwasgariad.
Wrth lansio'r weledigaeth newydd heddiw ym Mhorthcawl, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
"Dros y degawd diwethaf, mae twristiaeth yng Nghymru wedi trawsnewid, ond mae lle o hyd am dwf pellach yn ein heconomi ymwelwyr ac rydym am gefnogi hynny.
"Mae ein cynllun newydd â'i flaenoriaethau yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng twf economaidd a'n llesiant ehangach fel gwlad. Y nod yw datblygu profiadau o ansawdd uchel y gellir eu mwynhau drwy gydol y flwyddyn sy'n dda i ymwelwyr a'r cymunedau sy'n eu croesawu. Gall twf cynaliadwy sicrhau manteision o ran iechyd, yr amgylchedd a diwylliant drwy ddiogelu a hyrwyddo ein cryfderau.
"Mae'r diwydiant yn wynebu heriau, gan gynnwys Brexit. Credwn mai'r ymateb gorau i Brexit yw parhau gyda'n busnes craidd - cydnabod potensial parhaus twristiaeth i weithredu fel sylfaen ar gyfer economi Cymru drwy drosglwyddo neges gadarnhaol o Gymru.
Mae Croeso i Gymru yn amlygu dau brif syniad 'Bro' a 'Byd' - sicrhau bod twristiaeth yn iawn ar lefel leol, gan fod yn ddigon uchelgeisiol i wneud yn siŵr bod y cynnig twristiaeth yng Nghymru yn cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol.
Mae'r prif gamau gweithredu dros y pum mlynedd nesaf yn cynnwys:
- cronfa £10m i fuddsoddi mewn Pethau Pwysig i gefnogi'r seilwaith twristiaeth hollbwysig, sy'n rhan o ddarparu profiadau o ansawdd uchel i ymwelwyr rhwng 2020 a 2025
- canolbwyntio ar gynhyrchion o ansawdd uchel sy'n gallu trawsnewid enw da. Bydd Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth sydd werth £50m, a ddarperir mewn partneriaeth â Banc Datblygu Cymru, yn helpu i ariannu prosiectau buddsoddi cyfalaf a fydd yn hybu enw da Cymru
- gan adeiladu ar lwyddiant y strategaeth ddigwyddiadau, bydd Digwyddiadau Cymru yn cael ei sefydlu i ddatblygu, cynyddu a denu digwyddiadau diwylliannol, busnes a chwaraeon. Mae hyn yn cydnabod y rôl y mae digwyddiadau yn ei chwarae drwy gydol y flwyddyn o ran denu pobl i Gymru
- bydd Croeso Cymru yn hoelio sylw ar gynhyrchion ac ar ddatblygu profiadau sy'n adlewyrchu cryfderau anhygoel Cymru fel gwlad
- bydd Croeso Cymru yn gwneud yn siŵr bod ei ymdrechion marchnata yn canolbwyntio ar dwristiaeth yn ystod cyfnodau tawel, gan annog pobl i wario mwy yng Nghymru a gwasgaru manteision twristiaeth
- bydd dwy flwyddyn thematig newydd yn cael eu cyhoeddi ar gyfer 2022 a 2024
Mae bron un person ym mhob 10 ar draws Cymru yn gweithio mewn twristiaeth sy'n rhoi swyddi i bobl ar draws y wlad. Mae twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa gref ac ar drywydd i gyflawni 10% o dwf a nodwyd yn darged saith mlynedd yn ôl.
Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae Cymru wedi croesawu'r niferoedd uchaf erioed o ymwelwyr y DU a gwelwyd 14% o dwf unwaith eto mewn twristiaeth ddomestig y llynedd.
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:
"Rydym am adeiladu ar ein llwyddiant diweddar ac erbyn 2025 rydym am gael ein hadnabod fel lle sy'n cynnig antur o'r radd flaenaf, iaith a diwylliant creadigol, a thirluniau gwarchodedig anhygoel yn ogystal â lle sydd am ofalu am yr holl bethau hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Hoffwn ddiolch i'r diwydiant am y rhan y mae wedi chwarae o ran datblygu'r cynllun newydd hwn a'i flaenoriaethau. Mae wedi bod yn glir ynghylch y ffaith bod twf hirdymor ein sector yn dibynnu ar ofalu am y pethau hynny sy'n denu pobl yma yn y lle cyntaf. Bydd marchnadoedd y dyfodol yn disgwyl hyn hefyd.