Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Tasglu Cymoedd yn ystyried rhoi mwy o fynediad i Wi-Fi’r sector cyhoeddus i bobl sy’n byw yn y Cymoedd a chreu ap trafnidiaeth gymunedol i gleifion y GIG, sy’n debyg i Uber.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyflwynwyd y ddau gynllun fel rhan o weledigaeth ddigidol ar gyfer y Cymoedd yng nghyfarfod diweddaraf y tasglu yng Nghwm Dulais yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Un o flaenoriaethau Ein Cymoedd, Ein Dyfodol, y cynllun cyflawni ar gyfer y Tasglu Gweinidogol, yw datblygu gweledigaeth ddigidol drwy gydweithio â chymunedau i nodi sut y gellir defnyddio technoleg i sicrhau gwell canlyniadau i bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd.

Dyma rai o’r cynigion sy’n cael eu hystyried;

  • Ap tebyg i Uber i gleifion sydd angen teithio i apwyntiadau ysbyty a thriniaethau. Byddai hyn yn dod â holl ddarparwyr trafnidiaeth gymunedol ynghyd;
  • Cynllun Wi-Fi cymunedol, sy’n annog canolfannau cymunedol presennol i ganiatáu i bobl leol ddefnyddio’u Wi-Fi;
  • Edrych ar sut i ddefnyddio’r teclyn mapio data ar-lein, Lle, yn well.
Yn y cyfarfod diweddaraf, yng Ngweithdy Dove ym Manwen, fe roddodd yr aelodau eu cymeradwyaeth i’r cynigion ar gyfer y cynlluniau peilot hyn.

Dywedodd Julie James, Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip, sydd hefyd yn arweinydd Llywodraeth Cymru ar seilwaith digidol a chynhwysiant:

“Mae Cymru wastad wedi gwneud yn well na’r disgwyl ar y llwyfan byd eang o ran arloesi yn y maes digidol. Mae nifer fawr o gwmnïau digidol llwyddiannus yn y De a’r ardal hon, heb sôn am yr arbenigedd sydd gan y prifysgolion yn y sector. Mae gan y Tasglu rôl bwysig o ran sicrhau bod y llwyddiannau hyn o fudd i gymunedau’r Cymoedd.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld sut y mae’r cynlluniau rydym wedi cytuno i’w treialu yn y Cymoedd, sydd wedi’u datblygu yn sgil adborth lleol, yn gwella bywyd pobl sy’n byw ac yn gweithio yma, a  ffyniant economaidd yr ardal.”

Ychwanegodd Ann Beynon, sy’n arwain ar gyflenwi’r elfennau digidol o Ein Cymoedd, Ein Dyfodol:

“Rydym yn ymwybodol iawn o ba mor gyflym y mae technoleg ddigidol yn datblygu ar draws y byd, a sut y mae hynny yn trawsnewid ein ffordd ni o fyw, o weithio ac o gymdeithasu.

“Yr her i ni yw rhoi hyn ar waith yn sgil ein profiadau ni mewn bywyd a’i ddefnyddio mewn ffordd sy’n ysgogi manteision go iawn.

“Mae yna sector digidol fywiog yma yn y De, sy’n mynd o nerth i nerth. Ategir hynny gan gynlluniau hyfforddiant a sgiliau digidol sy’n cael eu datblygu gan y Cyngor Dysgu a Sgiliau ar y cyd â chyflogwyr lleol a darparwyr hyfforddiant a thrwy fuddsoddiad sylweddol gan y llywodraeth yn y seilwaith digidol.  

“Rydym yn benderfynol o fanteisio ar y cyfoeth o wybodaeth sydd ar gael i ni, a gwneud y mwyaf o’r buddsoddiad hwnnw wrth i ni ddatblygu gweledigaeth ddigidol gyfer y Cymoedd i’r dyfodol.”