Neidio i'r prif gynnwy

Araith gan Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Rhoddwyd yr araith yng Nghynhadledd y Rhwydwaith Ysgolion Arloesi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bore da. Mae’n bleser mawr gennyf fod yma gyda chi heddiw.

A bod yn blwmp ac yn blaen: credaf mai diwygio addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol.

Mae’r genhadaeth genedlaethol hon, a fydd yn un o themâu allweddol fy nghyfnod fel Ysgrifennydd Addysg, yn cynnwys dysgwyr o bob oedran, proffesiwn addysgu unedig sy’n ymrwymedig i ragoriaeth a phrifysgolion a cholegau o’r radd flaenaf sy’n meithrin y berthynas fwyaf cadarn â chyflogwyr, partneriaid rhyngwladol a chymunedau yng Nghymru.

Nid oes neb yn bwysicach i’r genhadaeth hon na chi, ein hysgolion arloesi. Hoffwn ddiolch i chi am fod yma heddiw ac am eich ymrwymiad i wella addysg i blant a phobl ifanc ein gwlad. Mae ein canlyniadau yn yr haf yn dangos bod llawer wedi’i gyflawni, ond gwyddom, mi wn, fod llawer mwy i’w wneud os ydym am gyflawni ein huchelgais o gael system addysg o’r radd flaenaf.

Cwricwlwm eang, cytbwys, cynhwysol a heriol newydd i Gymru, wedi’i adeiladu ar sylfeini cadarn, sydd wrth wraidd yr hyn yr hoffwn ei gyflawni dros ein plant a’n pobl ifanc. Felly rwyf yn falch iawn o fod yma heddiw i sôn am yr uchelgais honno a’m hymrwymiad innau i’r agenda diwygio addysg.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous. Mae diwygio’r cwricwlwm yn cynnig cyfle gwych i’r sector addysg yng Nghymru ond mae hefyd yn her sylweddol i bawb sy’n ymwneud â’r gwaith hwn – yn enwedig i chi, yr ysgolion arloesi.

Mae eich ymrwymiad a’ch ymwneud gweithredol yn hanfodol er mwyn inni greu cwricwlwm sy’n ennyn diddordeb ac sy’n atyniadol i’n dysgwyr ond y gellir ei gymhwyso yn yr ystafell ddosbarth hefyd.

Felly hoffwn ddiolch ichi am dderbyn yr her a chytuno i fod ar flaen o gad yn hyn o beth.

Fel y gwyddoch, nododd Cwricwlwm i Gymru: cwricwlwm am oes ymateb Llywodraeth Cymru i Dyfodol Llwyddiannus a chafodd gefnogaeth drawsbleidiol pan gafodd ei gyhoeddi.

Mae’n disgrifio sut y caiff y cwricwlwm newydd ei ddatblygu gyda chi - gweithwyr proffesiynol addysg ledled Cymru, gyda’r nod o fod ar gael erbyn mis Medi 2018 a’i ddefnyddio i gefnogi dysgu ac addysgu o 2021.

Rwyf yn cefnogi’r weledigaeth honno a gwn, gyda’ch cymorth chi, y byddwn yn llunio cwricwlwm sydd o’r radd flaenaf ac sy’n gallu diwallu anghenion ein plant a’n pobl ifanc am flynyddoedd lawer i ddod.

Fel rhan o’r weledigaeth hon, rwyf yn argyhoeddedig bod yn rhaid inni wrando ar weithwyr proffesiynol ac yn enwedig chi, yr ysgolion arloesi, ar bob cam o’r broses. Rwyf am adael i athrawon fwrw ati i addysgu a gadael i arweinwyr arwain. Rwyf hefyd am wrando ar rieni a phlant fel y bydd eu huchelgeisiau hwythau yn llywio ein hagenda. Maent yn mynnu cael y gorau o’n system addysg, a hynny’n gwbl briodol. Dyna pam mae’n rhaid inni ganolbwyntio’n ddi-syfl ar sicrhau bod y sylfeini’n gywir, ar godi safonau a sicrhau ein bod yn uchelgeisiol ac yn hyderus wrth ddiwygio.

Mae’r digwyddiad hwn yn gam pwysig yn y broses. Bydd dwyn yr holl ysgolion arloesi ynghyd yn un rhwydwaith yn golygu y bydd modd rhannu a chyfuno eich gwybodaeth, eich arbenigedd a’ch profiad fel bod y rhwydwaith unedig i Ysgolion Arloesi mor effeithiol ag y bo modd.

Er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i’n dysgwyr, bydd angen ichi gydweithio, a chael eich llywio gan waith eich gilydd, rhannu arfer da a defnyddio ‘Cwricwlwm i Gymru – Cwricwlwm am Oes’ i’ch tywys.

Bydd gofyn ichi ddefnyddio’r gwaith ymchwil mwyaf diweddar a’r dulliau addysgol gorau o bedwar ban byd. Fel athrawon ac arweinwyr, dylech fod yn fyfyrwyr gydol oes. Dysgu oddi wrth eich gilydd, gwella’n barhaus, ac astudio arfer gorau, boed hynny yn yr ystafell ddosbarth nesaf, yn y gymuned neu ar y cyfandir.

Bydd ‘cydlafurio’ a ‘cydweithredu’ yn sicrhau y caiff y cyfoeth o arfer da yr ydych yn ei ddal ac yn ei gasglu ei rannu a rhaid cofio’r geiriau hynny bob amser wrth inni anelu at ein nod cyffredin.

Bydd fy swyddogion, wrth gwrs, yn eich cynorthwyo yn hyn o beth drwy drefnu mwy o ddigwyddiadau i ysgolion arloesi, a defnyddio arbenigedd perthnasol a chymorth proffesiynol arall pan fyddwn, gyda’n gilydd, yn nodi bod angen hynny.

A byddwn yn parhau i ariannu’r trefniant i’ch rhyddhau o ddyletswyddau ysgol fel y gallwch barhau i ganolbwyntio ar y gwaith hollbwysig hwn. Yn gyfnewid am hynny wrth gwrs disgwyliaf ichi gyflawni’r ymrwymiad a wnaed gennych.

Rydym wedi gweld dechrau da eisoes. Mae llawer o waith sylfaenol wedi’i wneud ac mae sylfeini’r cwricwlwm newydd wedi’u gosod.

Ac, wrth gwrs, mae’r Arloeswyr Digidol wedi bod yn bwrw ymlaen â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, yr oedd yn bleser gennyf ei lansio’n ffurfiol yn gynharach heddiw yn Ysgol Bro Edern, un o’r ysgolion Arloesi Digidol.

Nodwyd yr angen am Fframwaith Cymhwysedd Digidol fel mater o frys yn adroddiad y Grwp Llywio TGCh annibynnol yn 2013 a chan yr Athro Graham Donaldson yn Dyfodol Llwyddiannus.

Dyna pam y rhoddwyd blaenoriaeth i’r gwaith o ddatblygu’r Fframwaith.

Gan mai hon yw’r elfen gyntaf o’r cwricwlwm newydd sydd ar gael, hoffwn longyfarch pawb a fu ynghlwm wrth y gwaith, nid yn unig am ddatblygu cynnyrch o safon ond am wneud hynny o fewn amserlen dynn iawn. Diolch yn fawr.

Gallwch ymfalchïo yn y ffaith ichi helpu i sefydlu Fframwaith a fydd yn rhoi Cymru ar y blaen o ran integreiddio sgiliau digidol ar draws y cwricwlwm.

Mae cymhwysedd digidol yn sgil hanfodol yn y byd sydd ohoni. Bydd yn un o dri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd.

Mae’r Fframwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau digidol sy’n ddefnyddiol mewn bywyd bob dydd ac y gellir eu trosglwyddo i fyd gwaith.

Mae wedi’i ddylunio ar gyfer holl blant Cymru. Mae’n cwmpasu datblygu sgiliau o’r camau cyntaf, gan gynnwys ‘Ar Drywydd Dysgu’ a hefyd yn herio ein pobl ifanc fwy abl a thalentog.

Gwn y bydd yr Arloeswyr Digidol sydd wedi datblygu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn rhannu mwy am hyn gyda chi yn nes ymlaen heddiw, ynghyd â’r Athro Tom Crick.

Hoffwn ddiolch i Tom sydd wedi bod yn ddylanwad mawr o ran symud yr agenda hon yn ei blaen ac sydd wedi rhoi cymorth ac arbenigedd drwy gydol y broses.

Fe gytunwch, mae’n siwr gennyf, fod y Fframwaith yn gynnyrch trawiadol. Ond hoffwn bwysleisio nad diwedd stori’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol mohoni.

Bydd angen i Rwydwaith yr Ysgolion Arloesi, a phartneriaid megis y Consortia Rhanbarthol, barhau i gydweithio i nodi’r canlynol:

  • pa gymorth sydd ei angen ar ymarferwyr
  • ble y dylid targedu cymorth; a
  • pha ddeunyddiau ac adnoddau sydd eu hangen i helpu pob ymarferydd ac athro i ddefnyddio’r Fframwaith yn effeithiol

yn ogystal â gweithio i integreiddio’r Fframwaith â Meysydd Dysgu a Phrofiad wrth iddynt gael eu datblygu.

Bydd hon yn broses barhaus, a fydd yn ymateb i anghenion y proffesiwn, gyda Chynnig Dysgu Proffesiynol cychwynnol i helpu ymarferwyr i weithredu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, a fydd ar waith o’r adeg hon y flwyddyn nesaf.

Gwyddom fod sgiliau digidol yn hanfodol i’n holl bobl ifanc. Bydd angen iddynt gystadlu yn economi wybodaeth y dyfodol – gan weithio gyda thechnoleg a thrwy dechnoleg nad yw hyd yn oed wedi cael ei dyfeisio eto.

Ni all neb ragweld sut beth fydd y dechnoleg honno ymhen 10 mlynedd na’r ffordd y bydd yn rhyngweithio â’r byd.

Ond gwyddom y bydd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn helpu ein plant a’n pobl ifanc i ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fynd ati i lunio’r dyfodol yn hyderus yn hytrach na bod yn ddefnyddwyr goddefol.

Mae’n elfen bwysig mewn pecyn o fesurau rydym yn eu rhoi ar waith i wella dysgu digidol. Yn y misoedd sydd i ddod byddaf yn ymhelaethu ar y ffordd y gallwn weithio gyda’n gilydd i roi mwy o brofiad o sgiliau i’n plant a’n pobl ifanc, megis codio o oedran cynnar:

  • rhagwelaf y bydd disgyblion yn cael gwell mynediad at weithdai codio a chlybiau codio ledled Cymru
  • rhagwelaf fwy o ymgysylltu â busnesau a chyflogwyr o ran darparu dysgu digidol; a
  • rhagwelaf lefelau newydd o gymorth i chi a’ch cydweithwyr fel y gallwch chwarae rhan lawn yn yr agwedd gyffrous hon ar ein system addysg.

Un o elfennau cyntaf y cymorth hwn yw adnodd hunanasesu, wedi’i ddatblygu gydag ysgolion arloesi, er mwyn helpu athrawon i nodi eu blaenoriaethau o ran cymorth. Byddwch yn gallu cael gafael arno pan fyddwch yn mewngofnodi i Hwb nesaf.

Bydd Hwb hefyd yn cynnal nifer o adnoddau sy’n gysylltiedig â meysydd penodol o’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Mae adnoddau newydd, sy’n cefnogi agweddau eraill ar y cwricwlwm, wedi cael eu hychwanegu i Hwb ers dechrau’r tymor. Mae hyn yn cynnwys tri modiwl newydd ar ddiogelu a gyhoeddwyd yr wythnos hon, mewn partneriaeth â’r NSPCC.

Bydd yr adnoddau hyn yn helpu athrawon i gadw dysgwyr yn ddiogel.

Fel rhan o’n hymdrech i wella’r hyn a gynigir gan Hwb o hyd, rydym hefyd wedi gwella’r adnoddau adrodd ac asesu i gefnogi asesu ar gyfer dysg a bydd nodwedd Ystafelloedd Dosbarth newydd Hwb yn galluogi dysgwyr i gydweithredu mewn amgylchedd ar-lein diogel.

Bydd Hwb, wrth gwrs, yn parhau i fod yn adnodd cymorth pwysig i bob athro – gofynnaf ichi annog pawb yn eich ysgolion a’ch rhwydweithiau i’w ddefnyddio a’n helpu i’w wella o hyd.

Wrth i fwy a mwy o ysgolion ddefnyddio gwasanaethau megis Hwb a Hwb+ a chymwysiadau cwmwl, mae’n hollbwysig bod ysgolion yn cael mynediad cyflym, diogel a dibynadwy i’r rhyngrwyd.

Mae mynediad i’r rhyngrwyd yn ei gwneud yn bosibl i athrawon roi gwersi dynamig a diddorol, i ddisgyblion wneud gwaith ymchwil a chyflwyno gwaith ar-lein ac i rieni olrhain cynnydd eu plentyn.

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi, o ganlyniad i’r buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru o dan Raglen Grant Dysgu yn y Gymru Ddigidol, fod dros 1400 o ysgolion yng Nghymru bellach wedi cysylltu ar gyflymder o 10 megabit yr eiliad o leiaf i ysgolion cynradd a 100 megabit yr eiliad o leiaf i ysgolion uwchradd,

sef y mwyafrif llethol o ysgolion yng Nghymru. Fodd bynnag, ni allai nifer fach o ysgolion fanteisio ar y buddsoddiad cychwynnol hwn oherwydd y costau peirianneg sifil sylweddol a oedd yn angenrheidiol.

Dyna pam y cytunais â’r Prif Weinidog y dylai mynediad at wasanaethau cyflym iawn i bob ysgol gael ei flaenoriaethu yn y rhaglen genedlaethol.

Gan weithio gyda rhaglen Cyflymu Cymru byddwn yn sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn cael mynediad i’r gwasanaethau ar y rhyngrwyd sydd eu hangen arnynt i roi’r addysg orau bosibl. Na phoener, byddaf yn pwyso er mwyn sicrhau bod y datblygiad hwn yn mynd rhagddo mor fuan â phosibl.

Gan edrych yn ehangach na’r byd digidol, ac ar fore llawn cyhoeddiadau, mae’n bleser gennyf gyhoeddi lansiad y Pasbort Dysgu Proffesiynol datblygedig i’r gweithlu addysg.

Mae ar gael ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg ac mae’n nodwedd allweddol o’n dull gweithredu Dysgu a Chymorth Proffesiynol. Mae’n un o’r conglfeini o ran cefnogi a datblygu ein system hunanwella.

Am y tro cyntaf gall ymarferwyr yng Nghymru gofnodi eu dysgu proffesiynol mewn un portffolio ar-lein diogel sy’n dal ei holl ddysgu proffesiynol ac yn cefnogi eu twf proffesiynol.

Bydd y Pasbort Dysgu Proffesiynol yn sylfaen i lwybrau gyrfa ymarferwyr ac yn eu helpu i gofnodi’r cyfleoedd dysgu proffesiynol mwyaf priodol, myfyrio arnynt a’u nodi fel eu bod yn parhau i ddatblygu eu hymarfer. Mae hefyd yn cefnogi dysgu proffesiynol ‘rhwng cymheiriaid’.

Ond dim ond os bydd pawb yn ei ddefnyddio y bydd yn gwneud gwahaniaeth i ddysgu proffesiynol a dylanwadu ar ymarfer myfyriol. Felly ewch ati i’w ddefnyddio, da chi, a helpwch ni i’w ddatblygu a’i lunio er mwyn adlewyrchu’ch anghenion dros amser.

Rwyf am sicrhau bod yr ychydig flynyddoedd nesaf yn cael eu defnyddio i’ch helpu chi a phob ymarferydd i fod yn barod i ddefnyddio’r cwricwlwm newydd.

Mae’r Pasbort Dysgu Proffesiynol wedi’i gynllunio i helpu ymarferwyr i ddatblygu. Rydym eisoes yn gwybod mai ansawdd addysgu yw’r ffactor pwysicaf o ran codi safonau, ac ail agos yw arweinyddiaeth effeithiol.

Felly mae’n hanfodol bod athrawon, a’r rhai sy’n cefnogi ac yn arwain addysgu, yn meddu ar y sgiliau i roi’r addysg orau bosibl i ddysgwyr.

Bydd llawer ohonoch wedi mynychu’r gweithdai ar Safonau Addysgu Proffesiynol gyda Mick Waters felly byddwch yn ymwybodol o ddatblygiadau newydd pwysig.

Mae’r safonau newydd hyn yn casglu’r sgiliau a’r ymddygiadau sydd eu hangen ar ein hathrawon er mwyn iddynt ymateb i heriau cwricwlwm newydd a chynnal statws addysgu fel proffesiwn gwerthfawr.

Bydd angen i’n safonau newydd lwyddo mewn sawl ffordd:

  • bydd angen iddynt fod yn borthgeidwad i’r proffesiwn er mwyn inni ddenu’r athrawon gorau posibl i Gymru a helpu i greu proffesiwn egnïol sy’n perfformio’n dda;
  • bydd angen iddynt ysbrydoli a thanio brwdfrydedd drwy roi ffocws ar ddysgu a thwf proffesiynol gydol gyrfa, gan gynnwys datblygu arweinwyr ar bob lefel; a
  • bydd angen iddynt danio uchelgais athrawon – dros eu proffesiwn ac, yn hollbwysig, dros eu holl ddysgwyr.

Ni all rhywbeth mor hanfodol gael ei ddatblygu ar wahân – dyna pam rydym yn cynnwys llawer ohonoch yn y gwaith hwn.

Mae’n nodwedd o’r ffordd rydym yn gweithio yng Nghymru ein bod yn gwrando ar y proffesiwn ac yn adeiladu ar y profiad cyfoethog sy’n bodoli yn ein hysgolion a bydd hynny’n gynyddol wir.

Dros y misoedd sydd i ddod bydd Ysgolion Arloesi a darparwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon sydd wedi gwirfoddoli yn treialu’r safonau newydd er mwyn darganfod beth sy’n gweithio a byddwn yn defnyddio’r adborth hwn i lywio datblygiadau ymhellach.

Rwyf yn ymwybodol i rai ohonoch gychwyn yn gynnar y bore yma er mwyn dod ynghyd a chynllunio sut y bydd hyn yn digwydd! Y bwriad yw y byddwn yn barod i ymgynghori’n ehangach cyn cyflwyno’r safonau newydd o fis Medi 2017.

Byddaf yn dilyn hynt y gwaith hwn gyda diddordeb ac edrychaf ymlaen at glywed sut mae’n datblygu.

Mae eich cyfraniad amhrisiadwy fel ymarferwyr, ynghyd â’r sylfaen dystiolaeth gadarn a ddarparwyd gan yr Athro Donaldson yn Dyfodol Llwyddiannus ac arbenigedd a chymorth pobl fel yr Athro Tom Crick a’r Athro John Furlong, consortia rhanbarthol ac Estyn yn gwneud i mi deimlo’n hyderus bod Cymru ar y trywydd cywir i greu cwricwlwm a system addysg a fydd yn gwasanaethu ei dysgwyr yn llwyddiannus am flynyddoedd lawer i ddod.

Byddwch chi, ynghyd â chonsortia rhanbarthol, yn datblygu pecyn o fesurau i helpu ymarferwyr i fabwysiadu a defnyddio cwricwlwm newydd a fydd yn hyblyg ac yn ymatebol i’r heriau sy’n deillio o’r newid cynyddol gyflym ym mhob agwedd ar ein cymdeithas, yng Nghymru a ledled y byd.

Ond mae’n rhaid i athrawon gael eu grymuso i’w gyflwyno, felly bydd mesurau megis mynediad gwell i’r rhyngrwyd cyflym iawn, y Pasbort Dysgu i Ymarferwyr a’r safonau addysgu proffesiynol newydd yn creu’r amgylchedd lle y gall addysgu gwych ffynnu.

Gwyddom oll fod heriau o’n blaenau, ond rhaid eu hwynebu yn hytrach na’u hosgoi. Rydym yn gwneud dewisiadau pwysig ynglyn â’n gallu ar y cyd i lunio system addysg sy’n gyfoes, yn rhagorol ac yn arloesol.

Gyda’n gilydd gallwn ennyn diddordeb dysgwyr, gyda’n gilydd gallwn ehangu gorwelion dysgwyr, gyda’n gilydd gallwn adeiladu gwell dyfodol i blant Cymru.