Araith gan Jerermy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
Diolch yn fawr, gyfeillion.
Mae'n wych cael bod yma fel rhan o ddathliadau deucanmlwyddiant y Drindod Dewi Sant.
Rwy’n deall, nôl yn y 1820au, bod bron i 25 mlynedd wedi pasio o’r cynnig cyntaf i sefydlu'r Brifysgol nes i'r 26 myfyriwr cyntaf gyrraedd Llanbedr Pont Steffan.
Rwy’n gwybod bod rhwystredigaethau achlysurol y dyddiau hyn gyda'r Llywodraeth, CCAUC neu Awdurdodau Lleol o ran penderfyniadau cynllunio a chyllid cyfalaf…
Ond rwy'n credu ein bod yn symud tipyn yn gynt na hynny wrth gael caniatâd ac chyllid yn ei le…
Ar nodyn mwy difrifol, hoffwn ddiolch i Medwin am gael defnyddio'r cyfleusterau yma yn y Technium heddiw.
Fel pob sefydliad addysg uwch rwy'n gwybod bod Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ymateb i'r her o ddarparu dysgu effeithiol i fyfyrwyr a phrentisiaid gradd wrth i ni ddod allan o'r cyfnod tywyll a achoswyd gan y pandemig.
Rwy’n gwybod bod gennych uchelgeisiau cyffrous a diddorol i gryfhau'r cysylltiadau ag addysg bellach a chymwysterau technegol lefel uwch, a byddaf yn dweud gair am bwysigrwydd natur unigryw a chydweithredu ychydig yn ddiweddarach.
Ond yn gyntaf, y teitl (braidd yn eang) a roddwyd i mi ar gyfer fy anerchiad heddiw oedd 'Addysg Uwch yng Nghymru’.
Rwy’n cynnig gwahaniaeth bach, ond arwyddocaol i’r teitl.
Hoffwn ganolbwyntio ar addysg uwch yng Nghymru ac ar gyfer Cymru.
Mae'n adlais o siarter sefydlu Prifysgol Cymru, sy’n dweud:
“Fe fydd ac fe gyfansoddir ac fe sefydlir drwy hyn Brifysgol yng Nghymru ac ar gyfer Cymru”
- Gyda dynion a menywod mor gymwys â’i gilydd;
- Ar gyfer y gogledd, y canolbarth a'r de; ac
- Er mwyn hyrwyddo'r genedl.
Felly, er efallai ein bod y dyddiau hyn yn canolbwyntio ar ehangu mynediad, llesiant cenedlaethol, ac effaith ymchwil, mae cysylltiadau yn ein rhwymo at uchelgeisiau mawr y dynion a'r menywod hynny a helpodd i greu addysg uwch ar gyfer Cymru.
Ac roedd sefydlu Coleg Dewi Sant ddau gan mlynedd yn ôl i roi mynediad i addysg uwch i ordinandiaid eglwys yn Llanbedr Pont Steffan yn enghraifft o sefydliad arbennig yn addysgu dinasyddion ar gyfer y byd (byd yr eglwys yn yr enghraifft honno), wedi'i leoli mewn man penodol yn sgil y pellter (wrth deithio ar geffyl mae’n siŵr) o sefydliadau eraill Rhydychen a Chaergrawnt.
Ac yn union fel oedd gan ordinandiaid Coleg Dewi Sant strwythur i’w pregethau, byddaf yn edrych ar 3 thema heddiw.
Rwy'n mynd i ganolbwyntio ar y canlynol:
- Pwysigrwydd natur unigryw sefydliadau wrth iddynt weithredu o fewn system genedlaethol;
- Pwysigrwydd myfyrwyr fel dinasyddion, gan eu galluogi i dyfu fel dinasyddion iach, addysgedig a chyflogadwy;
- Pwysigrwydd cyfrifoldebau darparwyr i bobl a hefyd i le, yn enwedig ar ôl y pandemig.
Dyletswyddau strategol
Ddau gan mlynedd yn ddiweddarach rydym yn cychwyn ar gyfres o ddiwygiadau trawsnewidiol yng Nghymru. Rwyf am edrych ar rôl addysg uwch y tu hwnt i gwmpas y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Ond hoffwn ddechrau gyda'r Bil, a gymerais drwy drafodion Cyfnod 2 yr wythnos diwethaf, gan ddiolch i'r rheini yma sydd wedi bod yn gweithio mor adeiladol gyda ni ar hyn.
Bydd y dyletswyddau strategol newydd, y ffordd yr ydym yn rhoi ein gwerthoedd a'n huchelgeisiau mewn cyfraith, yn arwain y comisiwn newydd, y sector a'n sefydliadau wrth ganolbwyntio ar lwyddiant a lles dysgwyr, o bob oed, ar draws pob lleoliad ac ym mhob cymuned.
Egwyddorion, gwerthoedd ac uchelgeisiau craidd ar draws addysg uwch a'r sector trydyddol cyfan.
Ymrwymiad o'r newydd i ddysgu gydol oes;
Ffocws ar gyfranogiad ehangach a chyfle cyfartal
Edrych allan ar y byd, gyda chenhadaeth ddinesig glir;
Gwelliant parhaus, ymchwil gystadleuol a chydweithredol;
Ac ehangu'r ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg gan adeiladu ar waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a ddathlodd ei 10 mlynedd cyntaf yr wythnos diwethaf.
A dyma fy neges.
Does dim modd anwybyddu unrhyw un o’r rhain.
Mae’r weledigaeth a’r dyletswyddau hyn yn berthnasol i bob rhan o'r sector trydyddol, a byddaf i a'r comisiwn yn disgwyl i bob prifysgol gyflawni.
Dyma'r tro cyntaf inni roi hanfod addysg drydyddol Cymru mewn cyfraith.
Ond dydy hyn ddim yn cyfyngu, mae’n cynnig cyfle i arloesi.
Mae'n rhoi'r arfau i chi gynnal a gwella ansawdd sefydliadau a sectorau.
Mae'n adlewyrchu'r gorau o'r hyn yr ydym wedi'i werthfawrogi erioed.
Mae'n tynnu ar nerth o'n gwreiddiau cyffredin, colegau a sefydlwyd gan ac ar gyfer dynion a menywod sy'n gweithio; gyda balchder lleol ond yn genedlaethol ac yn rhyngwladol o ran cwmpas; a gweithio gyda diwydiant i ddatblygu arloesedd, technoleg a sgiliau'r gweithlu.
Llwybr clir o weledigaeth sylfaenol addysg uwch yng Nghymru at anghenion a chyfleoedd yr 21ain ganrif a thu hwnt.
Gwreiddiau cyffredin – ond nawr i'w meithrin gan stiward cenedlaethol newydd - y comisiwn.
Gwahaniaethu
A throi wedyn at y tair thema hynny a amlinellais funud yn ôl.
Er bod gennym wreiddiau cyffredin, dydy hynny ddim yn golygu y dylai pob sefydliad gydymffurfio, fel Ikea, i'r un strwythur, maint a ffurf.
Na, ddim o bell ffordd.
Mae pob prifysgol – a choleg – yn gwneud cyfraniad sylweddol i'n nodau cenedlaethol ac i fywyd cenedlaethol yn eu ffordd eu hunain.
Ond mae angen esblygiad pellach o sut rydym yn cydweithio,
Sut rydym yn parchu ac, yn wir, yn gwella ein cryfderau a'n gwahaniaethau,
A sut wrth wneud hynny, rydym yn llwyddo'n genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Bydd y comisiwn yn helpu sefydliadau i adeiladu ar eu cryfderau a'u cenadaethau eu hunain.
Ac ar yr un pryd, bydd yn cefnogi pob un i weithredu ac ategu ei gilydd fel rhan o ddull sector cyfan.
Sefydliadau unigryw, yn gweithio mewn partneriaeth. Partneriaeth rhwng prifysgolion, a rhwng prifysgolion a darparwyr eraill.
Wrth wneud hyn yn iawn, gallwn sicrhau bod:
Myfyrwyr o bob oed â'r mynediad ehangaf posibl i'r cyfleoedd dysgu a hyfforddi llawnaf posibl;
Bod gwaith ymchwil ac arloesi mewn sefydliadau yn rhan o amgylchedd cenedlaethol a rhyngwladol ffyniannus;
A thrwy fod yn gyfrifol ac yn weithgar ym mhob cymuned a rhanbarth, ein bod yn manteisio i'r eithaf ar botensial pob dinesydd, cwmni a chymuned.
Fel y stiward cenedlaethol, bydd y comisiwn yn parchu ymreolaeth.
Rydym yn deddfu ar gyfer hynny.
Bydd yn cefnogi cryfderau, cenhadaeth a darpariaeth sefydliadol, gan gydnabod ein bod i gyd yn elwa o system o sefydliadau ategol cryf.
Wrth ddarparu ar gyfer ystod ehangach o ddysgwyr, ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd a'u bywydau, gallwn weithio gyda'n gilydd ar gyfer ffyniant cenedlaethol a chymunedau ffyniannus.
Mae pob un yn rhannu'r cyfrifoldeb hwn.
Ond bydd sut y caiff hynny ei gyflawni - i ba raddau, ar ba adegau, a gan bwy - yn amrywio o sefydliad i sefydliad.
Rhaid inni fod yn fwy eofn wrth gydnabod bod sefydliadau addysg drydyddol Cymru yn amrywio ac yn wahanol mewn sawl agwedd allweddol ac o ran cefnogi'r amrywiaeth hwnnw.
Maent yn wahanol o ran maint, cenhadaeth, gallu ymchwil, ehangu mynediad, canlyniadau ac yn y blaen.
Anogaf arweinwyr prifysgolion, uwch dimau, cadeiryddion a chyrff llywodraethu i fod yn glir a chanolbwyntio ar y rôl unigryw y gall eich sefydliad penodol ei chwarae o fewn y system drydyddol yng Nghymru.
Rwyf am i gyllid a strategaeth yn y dyfodol gydnabod hyn.
Ond rwyf am i chi ymateb i'r her hon hyd yn oed cyn i ni sefydlu'r comisiwn.
Byddwch yn glir ac yn hyderus o ran pwy ydych chi a beth rydych chi'n ei gyflawni.
Bydd hynny'n sicrhau y gallwn gyd-lunio dull gweithredu sy'n helpu sefydliadau i adeiladu ar eu cenadaethau;
Gan gefnogi eu rôl gyffredin o fewn system genedlaethol;
A chyflawni strategaeth genedlaethol tuag at amcanion cenedlaethol.
Rhaid i hynny fod yn ffordd ymlaen fel system gref a chynaliadwy.
A phan symudwn ymlaen gyda dull gweithredu gwirioneddol ar draws y sector trydyddol, ni allwn gopïo’n uniongyrchol o ffrydiau ariannu a fformiwlâu presennol.
Pan fydd sefydliad yn gweithio’n galed yn ei gymuned i ehangu mynediad ac i ddeall y farchnad lafur leol ac anghenion busnes, caiff ei gefnogi i gynnal a gwella'r gwaith hanfodol hwn.
Rhaid i'r rhai sy'n recriwtio, addysgu a pharhau i ddatblygu ein gweithwyr allweddol gael eu hariannu a'u cefnogi i barhau i arloesi yn y ffordd y maent yn addysgu ac yn hyfforddi.
Mae gan eraill fwy o allu i gynhyrchu ymchwil blaengar ar draws y disgyblaethau. Byddant yn cael eu cefnogi a'u hymestyn i gynnal a chynyddu ansawdd ac effaith, rhywbeth sy'n hanfodol bwysig i'r genedl.
Mae'n iawn bod pob sefydliad yn cyfrannu mewn rhyw ffordd ar draws y meysydd hyn.
Ond bydd y cyfraniadau hynny'n amrywio, yn ôl cryfderau a chenadaethau.
Cenedl fach ydym ni. Gall ein haddysg uwch elwa ar y manteision a ddaw yn sgil hynny. Rhaid inni rannu a mynegi'n well sut mae'r cryfderau hynny'n ategu ei gilydd a bod yn hyderus o'n lle yn y darlun llawn, gan wybod y caiff ei gydnabod.
Wrth inni symud tuag at weithredu'r Bil a'r comisiwn newydd, rwyf am weithio gyda chi ar hyn.
Drwy waith y grŵp sy'n edrych ymlaen tua’r dyfodol, rwy’n gwybod eich bod yn cydnabod yr angen i adeiladu ar gryfderau amrywiol yn y ffordd yr ydych yn gweithio gyda'ch gilydd er budd pobl a lleoedd.
Felly bydd y dull hwn yn hanfodol ar gyfer fy natganiad cyntaf o flaenoriaethau, drwy gynllun strategol y comisiwn, ac ymlaen hyd at gytundebau canlyniadau.
Myfyrwyr fel dinasyddion
Gan symud ymlaen i'r ail thema – myfyrwyr fel dinasyddion.
Yn yr ystafell hon, gallwn i gyd gytuno.
Mae addysg prifysgol yn drawsnewidiol.
Mae'n ehangu'r meddwl, yn adeiladu cyfalaf cymdeithasol a diwylliannol, ac yn meithrin gwybodaeth a sgiliau i'n helpu i lwyddo mewn gwaith, bywyd a chymdeithas.
Ond a ydym yn gwneud digon i fynegi a gwireddu’r manteision hynny?
A ydym wir yn dangos bod prifysgolion Cymru yn cyflawni hyn mewn ffordd ddilys a deniadol?
Yn yr ystafell hon, mae'n amlwg ein bod wedi ein darbwyllo. Ond a yw eich cymunedau, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yn gwybod ac yn deall y gwerth ychwanegol y mae myfyrwyr yn ei gael o'ch prifysgol?
Nid wyf wedi fy argyhoeddi y gallwn ateb y cwestiynau hynny mor gadarnhaol ag y byddem yn dymuno.
Rwy’n gwybod bod pob un ohonoch yn rhannu'r ymrwymiad i feithrin eich myfyrwyr fel dinasyddion gweithgar.
Er y byddwch yn gwneud hynny mewn ffyrdd gwahanol a chyffrous, rwy’n credu y gallwn weithio gyda'n gilydd ar gyfer cynnig a chydnabyddiaeth 'myfyriwr fel dinesydd' cenedlaethol ledled Cymru.
Ble bynnag yr ydych yn astudio, o ble bynnag yr ydych yn dod, beth bynnag yw eich pwnc, mae Cymru'n gwarantu'r canlynol i chi:
Profiadau, gwybodaeth a sgiliau, a fydd yn eich helpu chi i fod yn ddinesydd ymroddedig a chyfrifol.
Cyfrannu'n lleol,
Meithrin lles a gwydnwch,
Cyflogadwyedd a sgiliau,
Cael nerth o gymunedau amrywiol,
A bod yn wir ddinasyddion o Gymru a’r byd.
Rhaid i hyn fod yn rhan o'r contract cymdeithasol newydd rhwng myfyrwyr, prifysgolion a'r genedl.
Gall fod yn fwy personol a lleol wrth gwrs, ond rhaid iddo hefyd fod yn gynnig a gwarant cenedlaethol.
Hoffwn nodi fy mod yn croesawu’r gwaith diweddar a wnaed ar iechyd meddwl myfyrwyr ar draws y sector.
Gan ddwyn UCMC, Prifysgolion Cymru, Colegau Cymru a sefydliadau iechyd meddwl at ei gilydd.
Heb ein hiechyd meddyliol a chorfforol, ni allwn ddechrau cyflawni ein nodau personol ar gyfer dysgu a datblygu.
Mae iechyd meddwl myfyrwyr wedi bod yn flaenoriaeth i'r llywodraeth ers amser maith, ond amlygwyd hyn yn fawr gan yr adroddiad diweddar gan UCAS bod datganiadau iechyd meddwl ymysg ymgeiswyr addysg uwch wedi cynyddu 450% dros y deng mlynedd diwethaf.
Gallaf hefyd gadarnhau fy mod yn edrych i weld sut y gall lles dysgwyr fod yn amod parhaus o gofrestru darparwyr gyda'r comisiwn newydd.
Bydd y comisiwn yn datblygu'r manylion ond rwy'n disgwyl i hyn gynnwys diogelwch rhag aflonyddu a chydnabyddiaeth o'r rôl y mae prifysgolion yn ei chwarae mewn campysau mwy diogel rhag hunanladdiad.
Bydd y comisiwn hefyd yn gyfrifol am gymeradwyo cytundebau canlyniadau gyda cholegau a phrifysgolion.
Rwyf am inni fod mewn sefyllfa lle mae'r sefydliadau hynny, gan adlewyrchu'r ddyletswydd dysgu gydol oes yn y Bil, yn yr arfer o ledaenu eu gwaith yn ehangach, ac adnewyddu eu hymrwymiad i ddysgu gydol oes.
P'un a yw hynny ar-lein, mewn cyrsiau blasu, darlithoedd a seminarau cyhoeddus, neu weithio gyda chyflogwyr a mentrau lleol, mae angen i ni weld ymgysylltu ehangach a dyfnach.
Mae angen i hyn fod yn rymuso gwirioneddol, ymgysylltu democrataidd a datblygu sgiliau. Myfyriwr fel dinesydd. Dinesydd fel myfyriwr.
Mae angen llwybrau dilyniant cliriach ar frys ar feysydd fel arloesi digidol ac iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer pobl sy'n gadael addysg ffurfiol ac sy'n chwilio am gyfleoedd i ailhyfforddi.
Rwy’n disgwyl gweld yr ymrwymiad hwn yn flaenoriaeth allweddol o fewn y cytundebau canlyniadau hynny yn y dyfodol.
Ac rydym wedi gweld cyfranogiad rhan-amser yn cynyddu, wedi'i gefnogi gan ein diwygiadau cyllid myfyrwyr blaengar ac unigryw, ac mewn gwrthgyferbyniad llwyr â Lloegr.
Rwyf am gydnabod cyfraniad y Brifysgol Agored i hyn, a'r cynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr (yn enwedig o gefndiroedd difreintiedig) sy'n astudio gyda'r Brifysgol Agored.
Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni ochel rhag meddwl bod dysgu rhan-amser a dysgu o bell yn golygu un peth.
Nid oes modd i weddill y sector ddweud bod llwybrau dysgu rhan amser a dysgu gydol oes yn 'rhy anodd’.
Mae’n bryd meddwl yn greadigol am hyn.
Llwybrau cryfach a chydberthnasau cryfach o bob math gyda cholegau addysg bellach;
Meddwl o'r newydd am bortffolio ac anghenion sgiliau lleol a rhanbarthol;
A pheidio â chyfyngu gwaith cyfranogi ehangach i bobl ifanc 16-18 oed, meddyliwch am y gweithlu a'r cymunedau lleol.
Wrth gwrs, mae gweithio gydag ysgolion a cholegau i gefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig yn parhau i fod yn flaenoriaeth.
Ac fe fyddwn bob amser yn cefnogi eich gwaith i ymestyn cyrhaeddiad cyfleoedd addysg uwch. Rydym yn gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth i alluogi Llywodraeth Cymru i rannu data prydau ysgol am ddim gydag UCAS, gan gynnwys darparu gwell data i brifysgolion ar ddysgwyr o Gymru sydd, neu sydd wedi bod, yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Ein nod yw i hyn ddigwydd yn y system glirio eleni ac yna bob blwyddyn yn y dyfodol.
Rwyf hefyd wedi gofyn i awdurdodau lleol a cholegau addysg bellach lleol ddod at ei gilydd i sicrhau bod y bobl ifanc mwyaf anghenus yn cael cymorth personol pwrpasol i'w galluogi i symud ymlaen i'w camau nesaf. Rwyf am weld hyn yn arwain at fyfyrwyr mwy amrywiol fyth yng Nghymru. Amrywiol o ran cefndir, ac o ran ethnigrwydd.
Mae cymunedau amrywiol o fyfyrwyr yn hanfodol ar gyfer dinasyddiaeth, ymholi a chryfder ein sefydliadau.
Gallwn fod yn falch ein bod yn cefnogi'r myfyrwyr hynny gyda’r cynnig cyllid mwyaf blaengar yn y Deyrnas Unedig.
Dros y ffin, maent cymryd cam yn ôl wrth ystyried gwneud newidiadau i amodau ad-dalu ôl-raddedig yn ogystal â mynediad i brifysgolion.
Ac er bod y systemau sy’n caniatáu inni wyro oddi wrth hyn yn fwy cyfyngedig nag y byddai unrhyw un ohonom yn ei ddymuno, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i edrych am ffyrdd o gael y pwerau cyflawni ymarferol sy’n cyd-fynd â'n pwerau datganoledig. Ond rwy'n gadarn yn fy ymrwymiad i gefnogi pob myfyriwr, o bob oed a phob modd, gyda chymorth ariannol pan fydd ei angen fwyaf arnynt.
Mae hynny'n flaengar, mae'n ehangu mynediad, mae'n ehangu dysgu ac, yn syml iawn, dyna’r peth iawn i'w wneud.
Asesiad o’r effaith ar yr economi
Nawr rwy’n dod ar fy nhrydydd thema o gyfrifoldeb a chyfraniad i le.
Dros y ddwy ganrif ddiwethaf, mae maint a siâp y sector wedi esblygu.
Mae hynny wedi bod yn beth da.
Mae wedi cyflawni cynnydd.
Cynnydd i unigolion,
Ar gyfer ysgoloriaeth,
Ar gyfer cymunedau ac ar gyfer y wlad.
Rwy’n gwybod y bydd strwythurau a chynghreiriau yn parhau i esblygu, gan fodloni dyheadau academaidd, diwylliannol ac economaidd myfyrwyr.
Fodd bynnag, mae'n anodd rhagweld dyfodol lle gallai prifysgol newydd ddod i'r amlwg.
Ond ni all hynny olygu bod y cymunedau, y trefi a'r siroedd hynny heb gampws prifysgol yn colli’r holl fanteision cysylltiedig.
Ni ddylai daearyddiaeth ein hanes cymdeithasol a diwydiannol atal Abertyleri, Rhydaman neu Amlwch rhag cael eu gwasanaethu gan brifysgol sydd ar eu cyfer.
Pe byddem yn cymryd map o Gymru gydag ôl troed ymdeimlad presennol pob prifysgol o'i chwmpas daearyddol ei hun wedi'i farcio arno, mae arnaf ofn y byddem yn gweld rhannau helaeth o'r wlad heb unrhyw gynrychiolaeth, a rhannau eraill yn cael eu gwasanaethu gan nifer o sefydliadau.
Fel arweinwyr prifysgol, rwy’n gofyn ichi edrych, nid i'r drych ond allan i'ch cymunedau a'ch rhanbarthau.
I ddefnyddio ymadrodd Raymond Williams, rwy'n poeni bod "argyfwng dealltwriaeth”.
Ydych chi'n gwneud digon i sicrhau bod manteision prifysgol yn real ac yn cael eu deall yn eich cymunedau a'ch rhanbarthau?
Rwy’n gwybod bod camau breision wedi'u cymryd o ran sut yr ydych yn gweithio'n sefydliadol ac ar y cyd ar genhadaeth ddinesig, ac rwy’n cymeradwyo hynny.
Ond beth am eich contract cymdeithasol ac economaidd gyda'r cyhoedd a lle y tu hwnt i'ch amgylchoedd cyfagos?
Mae gwaith gwych yn digwydd, ac rwy’n ymwybodol iawn o'r £5 biliwn a mwy o allbwn yr ydych yn ei gynhyrchu bob blwyddyn.
Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, mae angen i fusnesau lleol, entrepreneuriaid a gwasanaethau cyhoeddus deimlo'r gwahaniaeth hwnnw y gallwch ei wneud, ar draws y wlad.
Rydych yn haeddiannol falch eich bod wedi arwain y ffordd ar dalu'r cyflog byw go iawn.
Rwyf am weld yr un balchder dros gaffael lleol a rhanbarthol, presenoldeb corfforol ac arloesedd.
Ac wrth i chi wneud mwy, mae gennych fy nghaniatâd i'w weiddi am hynny o'r toeon.
Ei wneud yn weladwy, ei wneud yn real, ei wneud yn ddealladwy.
Rwy’n gwybod bod llawer ohonoch yn gwneud gwaith da i helpu i gefnogi graddedigion i aros yn yr ardal leol.
Mae llawer ohonoch wedi bod yn rhagweithiol wrth ddefnyddio'r cynnig grant i fyfyrwyr ôl-raddedig i gadw myfyrwyr yng Nghymru, neu i’w denu adref.
Mae hynny'n sicrhau manteision ymchwil, economaidd a diwylliannol.
Ond mae angen i ni weld mwy o hyn.
Ac mae'r Llywodraeth yno i weithio gyda chi, cyflogwyr, awdurdodau lleol ac eraill i ymateb i'r her hon yn uniongyrchol.
Mae amser yn brin heddiw, ond wrth feddwl am yr heriau mawr sydd o’n blaen, rwyf am i chi ddechrau wrth eich traed.
Barn Eleanor Roosevelt am hawliau dynol cyffredinol oedd eu bod yn cychwyn mewn sefyllfaoedd bach, wrth ein traed. Gellir cymhwyso hynny i asedau a manteision eraill hefyd.
Gallwn i gyd fod yn falch o'r effaith ragorol a ddarperir gan ymchwil Prifysgolion Cymru.
Mae’r canlyniadau yn dangos hyn yn glir.
Yn unigol a thrwy'r rhwydwaith arloesi cenedlaethol rwyf am eich gweld yn manteisio ar eich cryfderau amrywiol.
Gan weithio gydag awdurdodau lleol, gwasanaethau cyhoeddus a diwydiant, gallwn barhau i wneud mwy ar ganlyniadau iechyd, anghydraddoldebau, cynaliadwyedd a safonau addysgol uwch.
Dangosodd arolwg diweddar o agweddau'r cyhoedd at brifysgolion yn Lloegr gan y sefydliad UPP a'r Sefydliad Polisi Addysg Uwch fod bron pedwar o bob deg o'r rhai sy'n byw mewn trefi bach, a thros chwarter y rhain sy'n byw mewn pentrefi, yn dweud bod prifysgolion yn ddibwys i'w hardal.
Er mai arolwg yn Lloegr oedd hwn, mae'n tynnu sylw at yr her i chi yma ymgysylltu mwy, ac mewn ffordd well, ar draws eich rhanbarthau.
Ac os ydych chi'n meddwl am y map a grybwyllais yn gynharach, tybed beth fyddai canlyniadau arolwg tebyg yng Nghymru... rwy’ am i chi ofyn yr un cwestiwn i chi'ch hun…
Byddaf yn dychwelyd at y thema hon mewn sgyrsiau yn y dyfodol.
Meddwl yn Rhyngwladol
Yn olaf, rwyf am osod y themâu hyn mewn cyd-destun byd-eang. Nid yw perthyn i le yn golygu bod yn blwyfol, fel y mae mynegiant enwog Eleanor Roosevelt yn dangos i ni.
Mae meddwl yn rhyngwladol yn allweddol i lwyddiant ein prifysgolion a'r cymunedau sy’n eu cynnal.
Mae'r buddsoddiad o £65m yn Taith yn sicrhau y bydd ein dysgwyr a'n staff yn cael cyfleoedd i dreulio amser dramor fel rhan o'u hastudiaethau, ac yn elwa o ddiwylliant, amrywiaeth a dulliau gweithredu rhyngwladol.
Roeddwn wrth fy modd o weld bod pob prifysgol â champws wedi gwneud cais ar gyfer rownd gyntaf Taith. Mae'n wych bod pawb gyda ni ar y daith.
Mae Taith hefyd yn meithrin y manteision hanfodol y mae cymunedau rhyngwladol amrywiol yn eu cynnig i'n campysau a'n cymunedau.
Mae ei chefnogaeth i drefniadau dwyochrog – partneriaethau â theithio i’r ddau gyfeiriad – yn ei gwneud yn glir bod Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid rhyngwladol ar sail parch o’r ddwy ochr, ac mae hynny wedi cael ei ganmol yn Ewrop a ledled y byd.
Bydd prosiectau fel Cymru Fyd-eang – yr ydym yn ddiweddar wedi ymrwymo hyd at £10.28m iddynt dros y pedair blynedd academaidd nesaf – yn helpu i sicrhau ymhellach bod ein henw da rhyngwladol yn tyfu, ac y bydd mwy o fyfyrwyr o dramor yn dewis astudio yma o ganlyniad.
Wrth arwain y ffordd yn rhyngwladol, mae ein prifysgolion hefyd yn helpu i greu cyfleoedd i ddysgwyr a staff ar draws ein sector addysg gyfan.
Bydd rhaglenni fel Taith a Cymru Fyd-eang yn darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer cydweithio rhyngwladol ar draws sectorau nag erioed o'r blaen.
Gan adeiladu ar hynny, bydd gan y Comisiwn rôl newydd o ran hyrwyddo rhagolygon byd-eang, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y manteision i Gymru a ddaw yn sgil addysg ryngwladol yn tyfu yn y blynyddoedd i ddod.
Casgliad
I gloi, gyfeillion,
Ar draws fy nhair thema – cryfderau a gwahaniaethau, myfyrwyr fel dinasyddion, a phobl a lleoedd,
Rhaid inni adnewyddu'r contract cymdeithasol rhwng addysg uwch a chymunedau, dinasyddion a'r wlad.
Rydym yn adeiladu ar sylfeini cadarn, hanes balch a chyfraniad aruthrol yn ystod y pandemig.
Ond mae angen ymrwymiad o'r newydd ar gyfer y dyfodol.
Ymrwymiad i Gymru;
Ar gyfer dadl ac ymgysylltu democrataidd;
Ar gyfer lles a ffyniant cenedlaethol; a
Ar gyfer dysgu gydol oes, ar-lein, yn y gymuned ac yn yr ystafell ddosbarth.
Fel y stiward newydd ar gyfer addysg drydyddol, bydd y Comisiwn yn cefnogi ac yn meithrin pob prifysgol gyda'r diben cymdeithasol newydd hwn.
Mae'n gyfrifoldeb enfawr ond angenrheidiol.
Ac rwy'n gwybod eich bod yn rhannu fy hyder y gallwn gyflawni hyn gyda'n gilydd.
Mae addysg uwch yng Nghymru ar ei chryfaf pan fydd:
Yn gysylltiedig,
Yn amrywiol,
Yn greadigol a mentrus
Ac yn gydweithredol.
Dyma'r amser i adeiladu ar y cryfderau hynny wrth inni ddechrau ar ganrif newydd o addysg uwch ar gyfer Cymru.