Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cymorth gan Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru yn gweld rhai o gwmnïau datblygu gemau a meddalwedd mwyaf blaenllaw Cymru yn mynd i gynulliad blynyddol mwyaf y diwydiant gemau yn San Francisco.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd deg cwmni o Gymru, gan gynnwys Copa, Good Gate Media a Sugar Creative yn cysylltu â 28,000 o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant gemau o bob cwr o’r byd yng Nghynhadledd Datblygwyr Gemau, sy’n dechrau ar 18 Mawrth, i rwydweithio, rhannu syniadau, gwneud cysylltiadau busnes newydd a llunio dyfodol y diwydiant.

Gwerth y diwydiant gemau yn y DU yn 2023 oedd £7.6 biliwn. Mae Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu cwmnïau o Gymru yn y sector i dyfu a masnachu’n rhyngwladol, yn ogystal â chefnogi cyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddiadau.

Ar ôl y daith fasnach y llynedd i’r Gynhadledd Datblygwyr Gemau, aeth cwmnïau gemau o Gymru yn eu blaen i sicrhau cytundebau gwerth dros £1.35 miliwn, gyda rhagor o gytundebau yn yr arfaeth.

Mae’n golygu bod y sector gemau wedi dod yn ganolfan i weithwyr proffesiynol medrus yng Nghymru, gan gynnwys datblygwyr gemau, dylunwyr ac artistiaid, sydd i gyd yn cyfrannu at greu gemau blaengar sydd wedi cael eu canmol yn fyd-eang.

Mae hefyd yn gatalydd ar gyfer mewnfuddsoddiadau. Ar ôl gwneud cysylltiadau â Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru yng Nghynhadledd Datblygwyr Gemau 2022, penderfynodd cwmni gemau arbenigol yn yr Unol Daleithiau, Rocket Science, sefydlu ei bencadlys Ewropeaidd newydd yng Nghymru.

Mae’r cwmni wedi ymrwymo i greu 50 o swyddi medrus â chyflog uchel ar gyfer graddedigion yn y diwydiant gemau yn ei ganolfan yng Nghaerdydd. Ers sefydlu’r stiwdio newydd fis Awst diwethaf, mae wedi lansio ‘Atomic Theory’ yn ddiweddar, gwasanaeth newydd sy'n gwneud datblygiadau i gemau sydd eisoes ar y farchnad ac atebion peirianneg UI / UX ar gyfer datblygwyr a chyhoeddwyr blaenllaw ledled y byd.

Dywedodd cyd-sylfaenydd Rocket Science, Thomas Daniel:

Mae’r Gynhadledd Datblygwyr Gemau yn ddigwyddiad arwyddocaol yn y diwydiant gemau, gan ddod â’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau allweddol o gwmnïau dylanwadol at ei gilydd.

Mae’n wych bod taith fasnach Llywodraeth Cymru a chymorth ariannol gan Cymru Greadigol wedi galluogi Rocket Science i fod yn rhan o’r digwyddiad hwn. Mae bod yng nghanol yr holl weithgarwch yn darparu cyfleoedd ardderchog ar gyfer rhwydweithio, dysgu ac arddangos talent Cymru yn y diwydiant gemau.

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

Mae bellach dros 3.2 biliwn o chwaraewyr gemau ledled y byd ac mae gan y sector ddyfodol cyffrous yma yng Nghymru. Mae’n rhan annatod o’n heconomi a’n diwylliant, ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r gyrfaoedd uchelgeisiol y mae pobl yn eu meithrin yn y sector yma yng Nghymru.   

Rwyf wrth fy modd bod Cymru Greadigol yn parhau i gefnogi cymuned ffyniannus o fusnesau arloesol, gan fanteisio i’r eithaf ar dalent leol i sicrhau llwyddiant rhyngwladol. Mae ein Cenhadaeth Economaidd yn bodoli i helpu pobl ifanc i gynllunio dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru. Mae’r cwmnïau sy’n mynd i San Francisco yn rhan o’r siwrnai honno ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw!

Mae Wales Interactive yn gwmni sydd wedi ennill gwobrau sy’n cyhoeddi gemau fideo annibynnol a ffilmiau rhyngweithiol. Dywedodd y sylfaenydd a’r Cyfarwyddwr, Richard Pring:

Rydym wedi mynychu’r Gynhadledd Datblygwyr Gemau bob blwyddyn am y deg mlynedd diwethaf ac mae wedi bod yn allweddol wrth feithrin cysylltiadau a chynyddu proffil ein gemau.

Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Cymru Greadigol am ei chymorth wrth ein helpu i ddod yn gwmni sy’n datblygu ac yn cyhoeddi gemau fideo annibynnol a ffilmiau rhyngweithiol – cwmni sydd wedi ennill gwobrau – drwy’r Gronfa Ddatblygu.

Mae hyn wedi ein galluogi i sefydlu nid yn unig stiwdio gemau ffyniannus ond hefyd un hynod lwyddiannus, gyda’n prosiectau’n arwain at dair buddugoliaeth BAFTA Cymru a nifer o wobrau eraill yn y sector adloniant a gemau.

Yn 2023, lansiodd Cymru Greadigol y Gronfa Ddatblygu, sydd ar gael i gefnogi cwmnïau teledu, animeiddio, gemau, a thechnoleg ymgolli yng Nghymru i ddatblygu prosiectau a chysyniadau yn llawn – gan gynyddu’r tebygolrwydd y bydd prosiect yn cael ei gomisiynu, ei gymeradwyo a’i gynhyrchu. 

Ar hyn o bryd, gall cwmnïau gemau yng Nghymru sydd am ddatblygu cynyrchiadau a fwriedir ar gyfer cynulleidfaoedd rhyngwladol gael cyllid gan Cyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol, gyda’r bwriad o gefnogi twf Cymru fel cyrchfan ar gyfer cynhyrchu cynnwys o’r radd flaenaf.