Diffinnir y rhain fel gweithwyr critigol ar gyfer profion coronafeirws.
Cynnwys
Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol
Holl staff y GIG a gofal cymdeithasol, gan gynnwys:
- meddygon, nyrsys, bydwragedd, parafeddygon, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal, a staff rheng flaen eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys sefydliadau gwirfoddolwyr sy'n ymwneud â rhyddhau cleifion o'r ysbyty, cludiant a throsglwyddiadau ysbytai
- gweinyddu, cymorth a'r staff arbenigol sydd eu hangen i gynnal sector iechyd a gofal cymdeithasol y DU gan gynnwys y gweithwyr hynny yn y trydydd sector mewn lleoliadau GIG/Gofal
- y rhai sy'n gweithio fel rhan o'r gadwyn gyflenwi iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cynhyrchwyr a dosbarthwyr meddyginiaethau, ac offer diogelu meddygol a phersonol,
- staff rheng flaen Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG (staff rhoi gwaed, nyrsys arbenigol ar gyfer rhoi organau, staff sy'n rhedeg gwasanaethau apheresis therapiwtig yn ysbytai'r GIG)
- y rhai sy'n darparu cymorth ategol i weithwyr y GIG (fel llety mewn gwesty ar gyfer staff y GIG)
Diogelwch y cyhoedd (gweithwyr brys) a gweithwyr diogelwch cenedlaethol
- Heddlu Trafnidiaeth Prydain ac Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau
- Gweithwyr y Gwasanaeth Tân ac Achub (gan gynnwys staff cymorth)
- Sifiliaid y Weinyddiaeth Amddiffyn, contractwyr a phersonél y lluoedd arfog (y rhai sy'n hanfodol i gyflawni canlyniadau amddiffyn critigol a diogelwch cenedlaethol ac sy'n hanfodol i'r ymateb i bandemig y coronafeirws), gan gynnwys staff meddygol amddiffyn
- Staff yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, y rhai sy'n cynnal diogelwch ffiniau, staff carchardai a'r gwasanaeth prawf a rolau diogelwch cenedlaethol eraill, gan gynnwys tramor
- Heddlu a staff cymorth
- staff sefydliadau sydd eu hangen yn agweddau diogelwch cenedlaethol dŵr yng Nghymru
Gweithwyr llywodraeth leol a chenedlaethol
- holl staff llywodraeth leol
- holl Weision Sifil Llywodraeth Cymru a'r DU sydd wedi'u lleoli yng Nghymru
- gweithwyr rheng flaen Awdurdodau Lleol, gweithwyr cyngor, gweithwyr trydydd sector a sefydliadau ymbarél sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed, dioddefwyr cam-drin domestig, a'r digartref a'r rhai sy'n cysgu ar y stryd (a staff gwesty sy'n cefnogi'r grwpiau hyn, gweler Gweithwyr Gwasanaethau Cyhoeddus Allweddol)
- gwasanaethau sy'n darparu triniaeth camddefnyddio sylweddau reng flaen
Gweithwyr addysg a gofal plant
- pob gweithiwr mewn lleoliad gofal plant (i gynnwys meithrinfeydd dydd, crèches, gwarchodwyr plant, grwpiau chwarae, Cylch Meithrin, clybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau)
- darlithwyr Addysg Bellach (AB) ac Addysg Uwch (AU)
- gweithwyr cymdeithasol
- gweithwyr proffesiynol addysg arbenigol
- staff cymorth ar y safle mewn ysgolion, lleoliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch fel arlwyo, glanhawyr, gofalwyr, staff cynnal a chadw, pawb sy'n ymwneud â chynorthwyo ysgolion/sefydliadau AB/AU i weithredu
- athrawon
- hyfforddwyr ac aseswyr Dysgu Seiliedig ar Waith
Bwyd a nwyddau angenrheidiol eraill
Personél hanfodol ym maes cynhyrchu a dosbarthu bwyd, diod a nwyddau hanfodol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- y rhai sy'n ymwneud â chynhyrchu, prosesu, dosbarthu, gwerthu a chyflenwi bwyd megis, ond heb fod yn gyfyngedig i: weithwyr Lladd-dai, Pysgota (cychod â chriw), Ffermwyr, Proseswyr Llaeth, manwerthwyr, gweithgynhyrchwyr, dosbarthwyr Bwyd; storio (gan gynnwys oer a chanolfannau), milfeddygon anifeiliaid bwyd
- unigolion sy'n cynorthwyo gwasanaethau cynhyrchu, profi a blaen y diwydiant bwyd fel rolau peirianneg neu gynnal a chadw, rheoli ansawdd, profi bwyd a chysylltiadau â chwsmeriaid
- y rhai sy'n hanfodol i ddarparu nwyddau hanfodol eraill, megis y gadwyn gyflenwi feddygol a gweithwyr dosbarthu, gan gynnwys fferyllfeydd a phrofion cymunedol, a meddyginiaethau milfeddygol mewn rolau cynhyrchu bwyd ac iechyd y cyhoedd
- gweithwyr sy'n hanfodol i barhad symudiadau hanfodol a storio nwyddau fel gyrwyr casglu a danfon, masnachwyr amaethyddol a chludwyr
- gwasanaethau amaethyddol hanfodol h.y. cneifwyr defaid, tocwyr traed, trochwyr defaid, cadwyni cyflenwi
Gweithwyr trafnidiaeth
Y sawl sy'n cadw dulliau cludo teithwyr a chludo nwyddau - awyr, dŵr, ffyrdd a rheilffyrdd yn gweithredu yn ystod yr ymateb i'r coronafeirws a'r sawl sy'n gweithio ar systemau cludiant y mae cadwyni cyflenwi yn mynd drwyddynt er enghraifft:
- gweithredwyr bysiau
- Staff Maes Awyr Caerdydd (Rheolwyr Traffig Awyr, Dynion Tân, Staff Diogelwch, Criw'r Tir ac ati),
- asiantau, ymgynghorwyr a chontractwyr priffyrdd
- Swyddogion Patrolio Priffyrdd
- staff gweithredol y porthladd a gweithredwyr cludo (i gynnwys gyrwyr a chynnal a chadw/llwytho ac ati)
- gweithwyr porthladdoedd
- Morwyr
- Tacsi/PHV
- Swyddogion Ystafell Reoli Traffig Cymru
- Staff Trên/Network Rail - gweithredwr trenau/gorsafoedd neu reolwr seilwaith rheilffyrdd
- Gweithwyr Trafnidiaeth Cymru
- Gweithwyr sy'n ymwneud â chludo nwyddau ar y ffyrdd, gan gynnwys gyrwyr, ond rolau sy'n allweddol i barhau â gweithrediadau
- Gweithwyr sy'n ymwneud â warysau, dosbarthu a chyflenwi
Gweithwyr cyfleustodau, cyfathrebu a gwasanaethau ariannol
- personél ardystiedig sydd eu hangen ar gyfer gwaith ar bibellau nwyol (gan gynnwys nwyon meddygol)
- gweithwyr sy'n ymgymryd â gweithgareddau technegol neu ddiagnostig mewn safleoedd trydydd parti eraill
- staff ystafell reoli cynhyrchu ynni/atgyweirio asedau/cynnal a chadw, a chontractwyr cadwyn gyflenwi allweddol
- staff hanfodol sy'n gweithio yn y sector niwclear sifil, cemegion, dur, telathrebu (fel gwasanaethau hanfodol gweithrediadau rhwydwaith, peirianneg maes, staff canolfannau galwadau, seilwaith TG a data, 999 a 111), gwasanaethau post a chyflenwi, darparwyr taliadau a sectorau gwaredu gwastraff
- technoleg gwybodaeth a sector seilwaith data a chyflenwadau diwydiant sylfaenol i barhau yn ystod yr ymateb i'r coronafeirws
- newyddiadurwyr a darlledwyr sy'n adrodd am goronafeirws neu sy’n darparu darllediadau gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys cwmnïau sydd yn gweithio i, neu ar ran, ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus
- sectorau olew, nwy, trydan a dŵr (gan gynnwys carthffosiaeth)
- staff sydd eu hangen ar gyfer darpariaeth gwasanaethau ariannol hanfodol (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, weithwyr mewn banciau, cymdeithasau adeiladu a seilwaith y farchnad ariannol)
Gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus allweddol
Staff gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, fel:
- Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion - milfeddygon, staff technegol ac iechyd planhigion
- Elusennau a gweithwyr sy'n darparu gwasanaethau rheng flaen hanfodol
- Swyddogion gorfodi AEA
- Arolygwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd
- Staff gwesty sy'n cefnogi grwpiau sy'n agored i niwed
- Arolygwyr Hylendid Cig
- Ymatebwyr i Ddigwyddiadau a Staff Maes CNC
- Carchardai, y gwasanaeth prawf, staff llysoedd a thribiwnlysoedd, y farnwriaeth
- staff iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd, fel nyrsio iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol
- staff crefyddol
- Arolygwyr yr RSPCA a gweithwyr lles anifeiliaid eraill
- Staff Elusen Wledig (rheng flaen)
- Staff sy'n ymwneud â gwaith diogelwch ar domenni glo
- Staff sy'n ymwneud â chynllunio at argyfwng ac ymateb
- Y rhai sy'n gyfrifol am reoli'r ymadawedig h.y. gweithwyr marwdai a chartref angladdau
- Y rhai sy'n gyfrifol am adeiladu neu gynnal a chadw adeiladau gwasanaethau cyhoeddus
- technegwyr milfeddygol a staff cymorth
- Milfeddygon - i gynnwys anifeiliaid fferm, anifeiliaid anwes a cheffylau