Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg – anerchiad yng nghynhadledd Fforwm Polisi Cymru, 21 Ionawr 2020.
Ers dechrau yn y rôl hon, rydw i wedi bod ar genhadaeth i ddiwygio addysg yng Nghymru. Mae hyn wedi dod yn genhadaeth ein cenedl, sy’n cael ei rhannu gan lywodraeth a gweithwyr proffesiynol. Rwy’ wrth fy modd gyda’r ffordd mae gweithwyr proffesiynol a dysgwyr/myfyrwyr fel ei gilydd wedi bod yn agored i’n ffyrdd newydd o weithio.
Rwy’ am bwysleisio heddiw bod diwygio’r sector ymchwil, addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn rhan o’r genhadaeth ehangach hon. Nid rhywbeth ychwanegol at ein diwygiadau sylweddol i’r cwricwlwm, ond estyniad gwirioneddol o’r weledigaeth hon.
Egwyddor sylfaenol y diwygiadau hyn yw y gall addysgu, dysgu ac ymchwil roi mantais sylweddol i Gymru ar y llwyfan byd-eang.
Gadewch i mi ddweud yn glir, dydy cenhadaeth ein cenedl a’n dyheadau ar gyfer Cymru ddim yn stopio wrth glwyd yr ysgol. Fel cenedl, rhaid i ni sicrhau rhagoriaeth ar bob lefel o addysg, a pharhau i adeiladu ar lwyddiannau presennol a galluogi pob dysgwr i gyflawni eu potensial.
Mae’r sector addysg a hyfforddiant ôl orfodol, fel cynifer o rai eraill, yn wynebu heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen. Mae’n poblogaeth ni yn heneiddio, mae’n bywydau gwaith yn mynd yn hirach ac mae swyddi yn newid yn sydyn.
Bydd ffurf derfynol Brexit, beth bynnag fydd hwnnw, yn siŵr o gael effaith ar y ffordd rydyn ni’n llenwi bylchau o ran sgiliau yng Nghymru.
Mae potensial twf gwyrdd i ddarparu manteision economaidd i Gymru wrth ymateb i’r newid yn yr hinsawdd yn dibynnu’n rhannol arnom ni – i baratoi pobl am swyddogaethau newydd a thechnolegau newydd sydd heb eu dyfeisio eto.
Bydd datblygiadau o ran arloesi digidol hefyd yn cael effaith ddwys a hirdymor ar system sgiliau Cymru ac rydyn ni’n gwybod bod gweithwyr medrus yn fwy abl i addasu i dechnolegau newydd a chyfleoedd sy’n codi yn y farchnad.
Mae lefelau uwch o sgiliau yn ysgogi arloesi, hwyluso buddsoddiad a gwella arweinyddiaeth a rheolaeth. Rhaid i fusnesau Cymru fedru manteisio ar weithlu hyblyg, medrus.
Dyna pam mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol sy’n deg, yn rhagorol, yn ennyn diddordeb ac yn fentrus. Un sy’n ennyn hyder y cyhoedd ac, yn hanfodol, yn paratoi pobl at y dyfodol.
System sy’n annog pobl i ddysgu ac ennill sgiliau drwy gydol eu gyrfaoedd: gan sicrhau opsiynau a chanlyniadau o ansawdd uchel i bawb.
Lansiwyd cynllun peilot y Cyfrif Dysgu Personol ym mis Medi. Cafodd ei lunio i helpu unigolion cyflogedig i gael sgiliau lefel uwch mewn TGCh, adeiladu, peirianneg ac iechyd. Bydd hyn yn galluogi amrywiol ddysgwyr i ymgymryd â’r swyddogaethau gwerthfawr hyn ar lefel uwch na’r hyn fyddai wedi bod yn bosib yn flaenorol.
Ac mewn Addysg Uwch – rwy’ eisoes wedi cyflawni diwygiadau arloesol ac unigryw i gymorth i fyfyrwyr, gan gynnwys cymorth cynhaliaeth sy’n cyfateb i’r cyflog byw cenedlaethol, a chymorth cyfatebol i fyfyrwyr rhan amser ac ôl raddedig – y cyntaf o’i fath yn yr Undeb Ewropeaidd. Rwy’n credu bod hyn yn darparu cyfleoedd newydd a chyffrous i’n prifysgolion a’n myfyrwyr.
Ar ben hynny, rwy’ hefyd yn cyflawni fy addewid i gyflawni cam terfynol diwygiadau Diamond – setliad cyllid cynaliadwy ar gyfer addysg uwch. Mae’r gyllideb ddrafft wedi cadarnhau y bydd y dyraniad sy’n mynd i’r cyngor cyllido addysg uwch yn cynyddu’n sylweddol yn 2020/21 gan ganiatáu i’r cyngor cyllido roi blaenoriaeth i astudiaeth rhan amser, ymchwil o ansawdd, premiymau pynciau drud ac arloesi ac ennyn diddordeb.
Rydyn ni hefyd wedi medru adnabod y galw am sgiliau ar draws Cymru drwy gydweithio’n agos gyda’r tri o Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol. Mae eu gwaith gyda chyflogwyr yn ein helpu i ddeall y prinder a’r bylchau sgiliau yn well, a rhoi sylw iddynt. Sy’n golygu bod modd i ni gyfeirio cyllid sgiliau at y blaenoriaethau sy’n cael eu hamlygu mewn cynlluniau cyflogaeth a sgiliau.
Rwyf am weld mwy o gydweithio o’r fath. Sefydliadau, cyflogwyr a phartneriaethau Cymru yn cydweithio i ymateb i alw rhanbarthol am gyflogaeth a sgiliau. Mae hyn yn helpu’r Llywodraeth i osod blaenoriaethau cyllid, mae’n helpu cyflogwyr, ond yn fwy na dim mae’n helpu’r dysgwyr – drwy ddarparu hyfforddiant ac addysg o ansawdd uchel mewn sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr.
Rhaid i ddysgwyr gael mynediad at gyfres o lwybrau eang a phriodol sy’n caniatáu mynediad at ddysgu ar bob lefel. Rhaid pontio’n esmwyth rhwng llwybrau galwedigaethol, technegol ac academaidd. Rhaid i lwybrau fod yn glir, diwallu anghenion yr unigolyn, ac ystyried blaenoriaethau economaidd a chymdeithasol Cymru. Rhaid i ddewisiadau dysgwyr fod yn seiliedig ar gyngor cadarn ac amserol.
Mae’r blaenoriaethau hyn yn rai sylfaenol ar gyfer ein diwygiadau, sydd wedi symud ymlaen a datblygu’n sylweddol ers adolygiad yr Athro Hazelkorn ac, yn dilyn hynny, ymrwymiadau Llywodraeth Cymru yn Ffyniant i Bawb, a thrwy gytundeb rhyngof a’r Prif Weinidog. Rwy’ wedi dweud yn glir o’r cychwyn fy mod am glywed eich sylwadau a’ch syniadau drwy gydol y broses. Ac rwy’n ddiolchgar iawn i chi am eu rhannu mor hael.
Rwy’n eich sicrhau fy mod i wedi gwrando ar eich sylwadau. A’r adborth a'r sylwadau cefnogol yn gyffredinol a gafwyd gan ddysgwyr o bob oed, darparwyr addysg a chyrff sy’n eich cynrychioli.
Rydyn ni wedi eu defnyddio i ddrafftio deddfwriaeth i alluogi sefydlu Comisiwn newydd – y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, neu CTER.
Byddaf yn cael y fraint o gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon gerbron y Senedd yn ddiweddarach eleni, ac rwy’n edrych ymlaen at wneud popeth posib i sicrhau ein bod yn ei chael yn iawn. Rhaid iddi weithio yn ymarferol a darparu fframwaith i osod llwybr cynaliadwy at y dyfodol.
Os bydd y ddeddfwriaeth yn pasio’n llwyddiannus drwy’r Senedd, fel yr wyf yn gobeithio, disgwylir i CTER gael ei sefydlu yn ystod 2023. Bydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a sefydlwyd bron i 30 mlynedd yn ôl mewn byd gwahanol iawn, yn cael ei ddisodli gan y Comisiwn hwn.
Felly beth fydd y Comisiwn newydd yn ei wneud yn wahanol?
Bydd gan CTER gylch gorchwyl llawer ehangach. Cylch gorchwyl a fydd yn eu harfogi i ddarparu’r fframwaith sydd ei angen ar Gymru i ganiatáu i bob dysgwr gyflawni ei ddyheadau a chael llais yn y ffordd bydd hyn yn digwydd.
Bydd CTER yn cynllunio ar gyfer sector integredig. Bydd yn gwneud hyn drwy alluogi system i hybu a hwyluso cydweithio rhwng darparwyr ar draws y sector ôl-16. Y nod fydd gwasanaethu anghenion dysgwyr, cyflogwyr, y gymuned ehangach a’r economi. Yr unig ffordd o gyflawni hyn fydd drwy system gynllunio a chyllido sy’n gryfach, yn fwy integredig ac yn fwy ymatebol.
Am y tro cyntaf, byddwn yn dwyn ynghyd addysg uwch, addysg bellach, darpariaeth chweched dosbarth prif ffrwd a dysgu yn seiliedig ar waith dan fantell un sefydliad. Rydym am weld mwy o amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgwyr, ac am iddynt fedru symud yn ddirwystr rhwng gwahanol rannau o’r sector.
Rwy’n cydnabod bod ymdrech gynyddol i sicrhau cydweithio rhwng darparwyr, ac rwy’n croesawu’r hyn a wnaed hyd yma. Mae’n bryd i’r fframwaith sefydliadol ddal i fyny, cysoni a medru sefydlu’r agenda newydd uchelgeisiol hon.
Bydd fframwaith newydd CTER ar gyfer y sector eang yma yn parhau i gyfrannu at y nodau sydd wedi’u gosod yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd yn:
- Fframwaith parod at y dyfodol sy’n medru cryfhau sylfeini economaidd a chymdeithasol Cymru mewn cyfnod o newid
- Fframwaith hyblyg sy’n ymateb i ddiddordebau dysgwyr ac anghenion cyflogwyr am addysg a hyfforddiant, ymchwil ac arloesi o ansawdd uchel
- Fframwaith sy’n rhan annatod o’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu, ac yn ychwanegu gwerth atynt, gan gyfrannu at y genhadaeth ddinesig rydych chi wedi fy nghlywed yn siarad amdani mor aml.
Bydd gan CTER, gan weithio mewn partneriaeth agos gyda’r sectorau hyn, yr arfau sydd eu hangen i greu cymdeithas hynod fedrus. Un deg, sy’n cynhyrchu rhagoriaeth a lle nad yw eich cefndir, daearyddiaeth nac amgylchiadau yn pennu eich dyfodol.
Dyma weledigaeth uchelgeisiol, ac mae hynny i’w ddisgwyl. Ond hyd yn oed gyda’r fframwaith deddfwriaethol cywir ac unrhyw nifer o arweinwyr rhagorol yn y dyfodol, rydym yn cydnabod na fydd CTER yn medru cyflawni hyn wrth ei hun.
Bydd rhan fawr o’r gwaith yn hwyluso cydweithrediad, yn chwilio am welliannau a manteision i ddysgwyr. Bydd angen i hyn ddod oddi wrth ddarparwyr dysgu o bob cwr o’r sector, ynghyd â’n cymuned ymchwil sefydledig, sydd ag enw da yn rhyngwladol. Bydd angen iddynt, yn eu tro, weithio mewn partneriaeth gyda’r gweithlu a’r dysgwyr. Mae gan bawb ran i’w chwarae.
Gallai’r rhan honno fod yn ddarparu cwrs gyda’r hwyr mewn canolfan gymunedol, un o’r ystod eang o raddau sydd ar gael, cwrs dysgu o bell neu yn brentisiaeth mewn gweithle.
Rhaid i ni sicrhau cysylltiad gwell fyth rhwng Addysg Bellach ac Addysg Uwch a Phrentisiaethau, a bod y cysylltiad hwnnw yn fwy hyblyg. Rhaid sicrhau llwybrau clir i addysg lefel uwch a chyflogaeth. Rhaid i bawb ddeall y cysylltiad rhwng eu cyfraniad nhw ac eraill. Bydd gan CTER ran i’w chwarae wrth sicrhau hynny.
Rydym am sicrhau, dros y degawd nesaf a thu hwnt, bod gan bobl Cymru yr wybodaeth, y sgiliau a’r cymorth priodol i arwain at lwyddiant a ffyniant unigol a chenedlaethol.
Ac fe fyddwn yn parhau i ddefnyddio a chefnogi’r ddarpariaeth ardderchog sydd eisoes gennym yng Nghymru.
Mae gwledydd eraill yn gwylio yn llawn diddordeb a pharch. Yn 2019, cytunodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd bod y diwygiadau sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, gan gynnwys ein cwricwlwm newydd a’r dull dysgu proffesiynol, yn mynd i’r cyfeiriad cywir.
Mae nifer o’n datblygiadau arloesol yma yng Nghymru wedi’u ffurfio gan bersbectif gwirioneddol ryngwladol. Rwy’ wedi ceisio dysgu gan eraill ers dechrau yn y swydd hon, ac wedi annog fy swyddogion i chwilio am syniadau a thystiolaeth o bob cwr o’r byd.
Rwy’n credu bod y safonau uchel y mae ein hysgolion uwchradd yn ymdrechu i’w cyrraedd yn cynhyrchu oedolion ifanc sydd wedi paratoi’n dda iawn at heriau bywyd fel oedolyn, yn academaidd ac yn gymdeithasol, yn barod am y cam nesaf ar eu taith.
Fy uchelgais yw datblygu system addysg a hyfforddiant ôl orfodol i Gymru sy’n hawdd i’n dysgwyr ei thramwyo ac sy’n cefnogi ein gallu i gystadlu yn y dyfodol ar lwyfan y byd.
Rwy’n benderfynol o weld y diwygiadau hyn yn gwneud cyfraniad mawr i gyflawni’r nodau hyn. Mae gennym flwyddyn gyffrous o’n blaenau gyda chyflwyno’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ac rwy’n edrych ymlaen at gael cydweithio gyda chi wrth i ni ddatblygu a symud ymlaen gyda’n cenhadaeth ar gyfer addysg yng Nghymru.