Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd gweithredu diwydiannol yn effeithio’n sylweddol ar Wasanaethau Iechyd Cymru, wrth i’r cyntaf o streiciau arfaethedig gan staff ddechrau heddiw.
Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi cyhoeddi y bydd ei aelodau yn mynd ar streic ar 15 a 20 Rhagfyr, gyda gweithredu pellach wedi’i gadarnhau y mis hwn gan undeb y GMB.
Yn ystod y gweithredu diwydiannol, mae gwasanaethau’r GIG yn debygol o ymdebygu i’r rhai a ddarperir fel arfer ar wyliau cyhoeddus. Cynghorir pobl sydd angen cymorth brys neu sydd â chyflyrau sy’n bygwth bywyd i fynd i adrannau achosion brys neu gysylltu â’r gwasanaethau brys fel y byddent wedi’i wneud ar unrhyw ddiwrnod arall.
Fel rhan o drafodaethau cyn gweithredu diwydiannol, mae cyflogwyr y GIG ac undebau llafur yn cytuno ar y cyd ar eithriadau rhag y gweithredu, neu ‘randdirymiadau’, er mwyn sicrhau bod gofal brys neu ofal i bobl sydd â chyflyrau sy’n bygwth bywyd yn parhau yn ystod unrhyw streiciau.
Mae apwyntiadau nad ydynt yn rhai brys neu apwyntiadau rheolaidd yn debygol o gael eu gohirio. Bydd byrddau iechyd yn rhoi gwybod i gleifion ac yn ceisio aildrefnu apwyntiadau newydd cyn gynted â phosibl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynghori pobl sydd â chyflyrau nad ydynt yn bygwth bywyd i ddefnyddio gwasanaeth digidol 111 GIG Cymru yn y lle cyntaf. Bydd gwefannau byrddau iechyd lleol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith y streicio ar wasanaethau lleol.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Rydyn ni’n credu y dylai holl weithwyr y sector cyhoeddus gael eu gwobrwyo’n deg am y gwaith pwysig maen nhw’n ei wneud.
“Mae’n anochel y bydd y streiciau sy’n dechrau heddiw yn cael effaith sylweddol ar wasanaethau iechyd Cymru. Ond rydyn ni’n cydnabod teimladau cryf staff, ac mae’r penderfyniad anodd i bleidleisio dros weithredu diwydiannol yn adlewyrchu hynny.
“Er nad oedden ni’n gallu osgoi gweithredu diwydiannol yr wythnos hon, mae’r holl bartneriaid wedi cytuno i ddal ati i siarad a pharhau i gydweithio. Byddwn yn parhau i gydweithio i ddod ag undebau llafur, cyflogwyr a’r llywodraeth ynghyd i sicrhau’r canlyniadau gorau posib i weithwyr gyda’r cyllid sydd ar gael gennym.”