Daeth yr ymgynghoriad i ben 10 Ionawr 2014.
Crynodeb o’r canlyniad
Doedd dim ymatebion i'r ymgynghoriad hwn.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Diben yr ymgynghoriad hwn yw rhoi gwybod i chi am y cynlluniau i newid yr enw botanegol ar gyfer rhywogaeth y tomato.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Yn sgil tystiolaeth enetig newydd mae Cod Rhyngwladol y Gyfundrefn Enwi Botanegol wedi’i ddiwygio o ran enw botanegol rhywogaeth y tomato. Bellach caiff ei alw’n ‘Solanum Lycopersicum L.’.
Er mwyn adlewyrchu’r newid hwn cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd Gyfarwyddeb Gweithredu 2013/45/EU. Mae’r Gyfarwyddeb hon yn ei gwneud hi’n ofynnol i Aelod-wladwriaethau ddiweddaru eu deddfwriaeth ddomestig i adlewyrchu’r newid hwn i enw’r tomato.
Yng Nghymru rhaid diwygio dau ddarn o ddeddfwriaeth sef:
- Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012
- Rheoliadau Marchnata Deunydd Planhigion Llysieuol 1995