Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyflwynir ystadegau ar gyfer gwahanol fathau o swyddi, ac unwaith yn unig y mae pob unigolyn wedi’i gyfrif. Mae hyn yn golygu, os yw person yn gweithio ar draws sawl practis, mai dim ond unwaith y caiff ei gyfrif. Yn ogystal, cyflwynir ystadegau ar staff cyfwerth ag amser llawn am y tro cyntaf.

Mae'r datganiad hwn yn cynnwys dadansoddiad o feddygon teulu a staff eraill y practis yn ôl oedran, rhyw, ethnigrwydd a sgiliau yn y Gymraeg. Cyhoeddir tablau data ychwanegol ar StatsCymru.

Prif ffynhonell y data yw System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu (WNWRS). Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Crynodeb

Bu cynnydd bach yn nifer y meddygon teulu sy'n gweithio mewn practisau cyffredinol ar draws Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae amcangyfrifon newydd a chadarn yn dangos bod nifer y meddygon teulu cyfwerth ag amser llawn sy’n gwbl gymwysedig oddeutu 68% o’r cyfanswm pennau.   

Contractau parhaol a phatrwm oriau rhan-amser oedd gan y rhan fwyaf o feddygon teulu. Roedd y rhan fwyaf yn bartneriaid neu'n ddarparwyr, er bod nifer y meddygon teulu cyflogedig wedi cynyddu 19% ers mis Mawrth 2020.

Yn y chwarter hyd at 31 Rhagfyr 2021, roedd y sesiynau locwm a gofnodwyd drwy Locum Hub Wales yn cyfrif am 7.4% o’r cyfanswm cyfwerth ag amser llawn ar gyfer meddygon teulu cwbl gymwysedig.

Roedd bron i un meddyg teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau) ar gyfer pob 1,350 o bobl yng Nghymru neu, o ddefnyddio ffigurau cyfwerth ag amser llawn, bron i un meddyg teulu ar gyfer pob 2,000 o bobl yng Nghymru.

Mae nifer y meddygon dan hyfforddiant yn parhau i gynyddu gyda mwy o gofrestryddion nag erioed o'r blaen.

Mae nifer y staff eraill yn y practis (nad ydynt yn feddygon teulu) yn parhau i gynyddu hefyd, a hynny’n bennaf oherwydd cynnydd mewn staff sy’n rhoi gofal uniongyrchol i gleifion, a staff gweinyddol. Mae nifer y nyrsys yn parhau'n sefydlog.

Roedd mwy na hanner y meddygon teulu yn fenywod ac roedd bron i 95% o staff eraill y practisau yn fenywod. Roedd ychydig dros 80% o feddygon teulu o gefndir ethnig gwyn ac roedd 13% o ethnigrwydd Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig. Mae tua un o bob deg o'r holl staff a gyflogir mewn practisau cyffredinol yn siarad Cymraeg i safon uwch neu hyfedr.

Prif bwyntiau

Yng Nghymru, ar 31 Rhagfyr 2021, roedd:

  • 390 o bractisau meddygon teulu yn weithredol
  • 2,353 o feddygon teulu cwbl gymwysedig, sef 1,611 (neu 68.5%) cyfwerth ag amser llawn o’r cyfanswm pennau; mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon cyflogedig, ymarferwyr wrth gefn a staff locwm gweithredol yn unig
  • 427 o gofrestryddion mewn practis cyffredinol (meddygon teulu dan hyfforddiant) sef 385 (neu 90.0%) cyfwerth ag amser llawn
  • 7,955 o staff eraill y practis (nad ydynt yn feddygon teulu) sef 5,728 (neu 72.0%) cyfwerth ag amser llawn

Ar ôl dadansoddi yn ôl mathau penodol o feddygon teulu a grwpiau o staff, roedd:

  • 2,033 o feddygon teulu, sef 1,480 (neu 72.8%) cyfwerth ag amser llawn; mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr a meddygon teulu cyflogedig yn unig
  • 28 o feddygon teulu wrth gefn, sef 11 (neu 39.7%) cyfwerth ag amser llawn
  • 410 o feddygon teulu locwm, sef 119 (neu 29.1%) cyfwerth ag amser llawn; ni chaiff staff locwm eu cyfrif oni bai eu bod yn weithredol a bod contractau wedi'u cofnodi ar eu cyfer yn system Locum Hub Wales rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2021
  • 1,410 o nyrsys cofrestredig, sef 1,015 (neu 72.0%) cyfwerth ag amser llawn
  • 1,264 o staff gofal uniongyrchol i gleifion, sef 876 (neu 69.3%) cyfwerth ag amser llawn
  • 5,349 o staff gweinyddol neu staff practis anghlinigol eraill, sef 3,837 (neu 71.7%) cyfwerth ag amser llawn

Meddygon teulu cwbl gymwysedig

Ceir diffiniadau llawn o’r mathau o feddygon teulu yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg. Yn yr adran hon dim ond data ar gyfer meddygon teulu sydd â chontractau fel partner, darparwr, meddyg teulu cyflogedig, meddyg teulu wrth gefn neu locwm sydd wedi’u cynnwys. Ni chaiff staff locwm eu cyfrif oni bai eu bod yn weithredol yn ystod y chwarter a bod contractau wedi'u cofnodi ar eu cyfer yn system Locum Hub Wales.

Os oes gan feddyg teulu fwy nag un math o gontract, dim ond unwaith y caiff ei gyfrif fel 'meddyg teulu cwbl gymwysedig' ond caiff yr holl oriau eu cyfrif tuag at y rhif cyfwerth ag amser llawn.

Mae cyfwerth ag amser llawn yn cyfateb i 37.5 awr, neu 9 sesiwn o 4.167 awr, yr wythnos ar gyfer meddygon teulu cwbl gymwysedig. Os caiff un meddyg teulu cwbl gymwysedig gontract i weithio mwy na 37.5 awr, bydd ei rif cyfwerth ag amser llawn yn fwy nag 1.

Image
Mae nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig wedi cynyddu rhywfaint ers 31 Mawrth 2020, hyd yn oed pan ddiystyrir effaith cynnwys niferoedd meddygon locwm. Mae dros 2,000 o feddygon teulu cwbl gymwysedig wedi bod ar gael ym mhob chwarter ers 31 Rhagfyr 2020. Roedd 1,611 o feddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn ar 31 Rhagfyr 2021. Mae hyn yn cyfateb i 68.5% o'r cyfanswm cyfrif pennau yn gweithio oriau amser llawn.

Y rheswm dros y cynnydd yn nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig ym mis Mehefin 2021 yw bod data am staff locwm ar gael o'r dyddiad hwn. Mae nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig wedi cynyddu rhywfaint ers 31 Mawrth 2020, hyd yn oed pan ddiystyrir effaith cynnwys niferoedd meddygon locwm. Mae dros 2,000 o feddygon teulu cwbl gymwysedig wedi bod ar gael ym mhob chwarter ers 31 Rhagfyr 2020.

Mae'r data diweddaraf yn dangos bod 2,353 o feddygon teulu cwbl gymwysedig yn gweithio yng Nghymru ar 31 Rhagfyr 2021. Mae hyn yn ostyngiad bychan (1.0%) o’r chwarter blaenorol, ond yn gynnydd o 2.3% o'r un chwarter y llynedd (gan ddiystyru meddygon locwm i sicrhau cymhariaeth deg). 

Roedd 1,611 o feddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn ar 31 Rhagfyr 2021. Mae hyn yn cyfateb i 68.5% o'r cyfanswm cyfrif pennau yn gweithio oriau amser llawn.

O ystyried meddygon teulu parhaol, cwbl gymwysedig yn unig, roedd 2,061 o unigolion wedi'u contractio i weithio, sef 1,492 o feddygon teulu cyfwerth ag amser llawn, neu 72.4% o'r cyfanswm cyfrif pennau. Mae’r mesur hwn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, staff cyflogedig a staff wrth gefn ond nid yw’n cynnwys staff locwm.

Image
Ar 31 Rhagfyr 2021, roedd 5.1 o feddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn am bob 10,000 o'r boblogaeth yng Nghymru. Roedd nifer y meddygon teulu cyfwerth ag amser llawn am bob 10,000 o'r boblogaeth yn gymharol debyg ar draws yr holl fyrddau iechyd.

Ar 31 Rhagfyr 2021, roedd 5.1 o feddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn am bob 10,000 o'r boblogaeth yng Nghymru. Roedd nifer y meddygon teulu cyfwerth ag amser llawn am bob 10,000 o'r boblogaeth yn gymharol debyg ar draws yr holl fyrddau iechyd heblaw Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a oedd â'r rhif cyfwerth ag amser llawn uchaf am bob 10,000 o'r boblogaeth, sef 5.9. Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd â'r isaf, sef 4.8.

Meddygon teulu yn ôl math o gontract

Gellir categoreiddio meddygon teulu yn ôl y mathau o gontract sydd ganddynt. Mae diffiniadau ar gyfer pob math o feddyg teulu wedi'u cynnwys yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Os oes gan feddyg teulu gontractau lluosog o fewn yr un math, caiff ei gyfrif unwaith yn y nifer o’r math hwnnw ond bydd pob awr yn cael ei chyfrif yn y cyfanswm cyfwerth ag amser llawn.

Os oes gan feddyg teulu gontractau lluosog o wahanol fathau, caiff ei gyfrif unwaith yn y nifer ar gyfer pob math a bydd yr oriau ar gyfer pob math o gontract yn cael eu cynnwys yn y nifer cyfwerth ag amser llawn ar gyfer y math perthnasol o gontract yn unig.

Oherwydd hyn, mae nifer y 'meddygon teulu cwbl gymwysedig' cyfwerth ag amser llawn yn hafal i’r swm cyfwerth ag amser llawn ar gyfer partneriaid/darparwyr, meddygon teulu cyflogedig, meddygon teulu wrth gefn a meddygon teulu locwm. Fodd bynnag, nid yw’r cyfanswm pennau yn hafal i gyfanswm y gwahanol fathau o feddygon teulu.

Image
Roedd y rhan fwyaf o feddygon teulu ar 31 Rhagfyr 2021 yn bartneriaid/darparwyr, gyda chyfanswm o 1,463 o unigolion. Yn ogystal, roedd 573 ar gyflog, 28 o feddygon wrth gefn, 410 o feddygon locwm, 427 o gofrestryddion a 38 F2.

Roedd y rhan fwyaf o feddygon teulu ar 31 Rhagfyr 2021 yn bartneriaid/darparwyr, gyda chyfanswm o 1,463 o unigolion. Roedd 1,127 o bartneriaid/darparwyr cyfwerth ag amser llawn, sy'n cyfateb i 77.0% o'r unigolion yn gweithio oriau amser llawn.

Fel arfer, roedd meddygon teulu cyflogedig yn gweithio llai o oriau na phartneriaid/darparwyr, ac roedd y swm cyfwerth ag amser llawn ar eu cyfer yn cyfateb i 61.7% o'u cyfanswm pennau. Roedd y swm cyfwerth ag amser llawn ar gyfer meddygon teulu wrth gefn yn cyfateb i 39.7% o’u cyfanswm pennau.  

Roedd 410 o staff locwm, a oedd â chontractau wedi'u cofnodi ar Locum Hub Wales, ac roedd y rhain yn gweithio cyfwerth â 119 o swyddi amser llawn (neu 29.1% o'r cyfanswm pennau). Ni fydd unrhyw waith locwm nad oedd wedi’i gofnodi ar Locum Hub Wales yn cael ei gyfrif yn y data hyn. Gall hyn gynnwys gwaith locwm mewn practisau a reolir gan fyrddau iechyd. 

Roedd 427 o gofrestryddion sy’n cyfateb i 385 cyfwerth ag amser llawn (neu 90.0% o'r cyfanswm pennau) a 38 o feddygon F2 dan hyfforddiant sy’n cyfateb i 38 cyfwerth ag amser llawn (neu 100.0% o'u cyfanswm pennau).

Nodweddion meddygon teulu cwbl gymwysedig

Mae'r adran hon yn cynnwys data am feddygon teulu sydd â chontractau fel partner, darparwr, meddyg teulu cyflogedig, meddyg teulu wrth gefn neu locwm yn unig.

Image
Roedd dros hanner (58.2%) y nifer o feddygon teulu cwbl gymwysedig yn fenywod ac roedd 41.8% yn ddynion. Roedd y nifer cyfwerth ag amser llawn o feddygon teulu benywaidd cwbl gymwysedig yn 53.7%, sef 4.5 pwynt canran yn is na'r cyfanswm pennau; ar gyfer dynion, roedd y nifer cyfwerth ag amser llawn yn 46.3%, sef 4.5 pwynt canran yn uwch na'r cyfanswm pennau.

Roedd dros hanner (58.2%) y nifer o feddygon teulu cwbl gymwysedig yn fenywod ac roedd 41.8% yn ddynion.

Roedd y nifer cyfwerth ag amser llawn o feddygon teulu benywaidd cwbl gymwysedig yn 53.7%, sef 4.5 pwynt canran yn is na'r cyfanswm pennau; ar gyfer dynion, roedd y nifer cyfwerth ag amser llawn yn 46.3%, sef 4.5 pwynt canran yn uwch na'r cyfanswm pennau. Roedd hyn yn golygu bod gan feddygon teulu gwrywaidd oriau contract hirach na menywod fel arfer. O grynhoi’r holl oriau contract ar gyfer pob meddyg teulu, roedd 90.8% o feddygon teulu benywaidd yn rhan-amser (llai na 37.5 awr yr wythnos), o'i gymharu â 74.9% o feddygon teulu gwrywaidd.

Image
Roedd crynodiad uwch o feddygon teulu benywaidd iau nag o rai gwrywaidd iau a chrynodiad uwch o feddygon teulu gwrywaidd hŷn nag o rai benywaidd hŷn.

Roedd crynodiad uwch o feddygon teulu benywaidd iau nag o rai gwrywaidd iau a chrynodiad uwch o feddygon teulu gwrywaidd hŷn nag o rai benywaidd hŷn.

O'r 1,437 o feddygon teulu cwbl gymwysedig hyd at 49 oed, roedd bron i ddwy ran o dair (64.7%) yn fenywod. O'r 768 o feddygon teulu 50 oed a hŷn, roedd ychydig dros eu hanner (53.8%) yn ddynion.

Image
Roedd wyth o bob deg (neu 82.8%) o feddygon teulu cwbl gymwysedig o gefndir ethnig gwyn. Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig oedd y grŵp ethnig mwyaf o ran  meddygon teulu o gefndir ethnig leiafrifol (13.0% o'r holl feddygon teulu).

Roedd wyth o bob deg (neu 82.8%) o feddygon teulu cwbl gymwysedig o gefndir ethnig gwyn. Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig oedd y grŵp ethnig mwyaf o ran  meddygon teulu o gefndir ethnig leiafrifol (13.0% o'r holl feddygon teulu).

Mae mwy o amrywiaeth ethnig o fewn meddygon teulu nag yn y boblogaeth gyffredinol yng Nghymru, lle’r amcangyfrifir bod 4.8% o bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd neu ehtnig leiafrifol (y flwyddyn a ddaeth i ben fis mis Medi 2021, Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (StatsCymru)).

Image
Dywedodd un o bob deg (9.5%) o feddygon teulu cwbl gymwysedig fod ganddynt sgiliau siarad Cymraeg ar lefel uwch neu hyfedr. Dywedodd tua un o bob ugain (5.1%) fod ganddynt sgiliau siarad Cymraeg ar lefel mynediad i ganolradd, a dywedodd 85.4% nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau siarad Cymraeg o gwbl.

Dywedodd un o bob deg (9.5%) o feddygon teulu cwbl gymwysedig fod ganddynt sgiliau siarad Cymraeg ar lefel uwch neu hyfedr. Dywedodd tua un o bob ugain (5.1%) fod ganddynt sgiliau siarad Cymraeg ar lefel mynediad i ganolradd, a dywedodd 85.4% nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau siarad Cymraeg o gwbl.

Roedd canran y meddygon teulu oedd ag unrhyw sgiliau siarad Cymraeg yn is na’r canran ym mhoblogaeth gyffredinol Cymru. Mae Cyfrifiad 2011 (StatsCymru) yn amcangyfrif bod gan 27% o bobl yng Nghymru rai sgiliau siarad Cymraeg, ac mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (StatsCymru) ym mis Rhagfyr 2021 yn amcangyfrif bod gan 30% o bobl yng Nghymru rai sgiliau siarad Cymraeg.

Staff eraill y practisau

Er mwyn darparu gwasanaethau gofal sylfaenol, mae meddygon teulu'n gweithio'n agos gyda staff eraill y practis gan gynnwys nyrsys, fferyllwyr, rheolwyr, gweinyddwyr ac eraill sy'n ymwneud â gofal uniongyrchol i gleifion. Mae'r adran hon yn darparu data ar nifer y staff a gyflogir mewn mathau eraill o swyddi mewn practisau meddygon teulu.

Fel yn achos meddygon teulu cwbl gymwysedig, mae un cyfwerth ag amser llawn yn cyfateb i gontract o 37.5 awr yr wythnos. Os yw aelod o staff wedi'i gontractio i weithio mwy na 37.5 awr, bydd ei rif cyfwerth ag amser llawn yn fwy nag 1.

Pe bai gan berson gontractau lluosog yn yr un practis neu mewn gwahanol bractisau, dim ond unwaith y byddai’n cael ei gyfrif o ran y cyfanswm pennau, ond byddai'r holl oriau contract yn cael eu cyfrif yn y rhif cyfwerth ag amser llawn.

Image
Mae nifer staff eraill y practisau wedi bod ar gynnydd yn gyffredinol ers 30 Medi 2020, gan gyrraedd uchafbwynt o 7,955 yn y cyfnod diweddaraf sydd ar gael (ar 31 Rhagfyr 2021).Y ffigur ar gyfer staff eraill y practisau oedd 5,728 cyfwerth ag amser llawn ar 31 Rhagfyr 2021. Mae hyn yn cyfateb i 72.0% o'r cyfanswm pennau yn gwneud gwaith amser llawn, ac yn debyg i’r sefyllfa o ran meddygon teulu parhaol cwbl gymwysedig.

Mae nifer staff eraill y practisau wedi bod ar gynnydd yn gyffredinol ers 30 Medi 2020, gan gyrraedd uchafbwynt o 7,955 yn y cyfnod diweddaraf sydd ar gael (ar 31 Rhagfyr 2021).

Roedd y data diweddaraf yn dangos cynnydd bychan o 0.4% ers y chwarter blaenorol (30 Medi 2021), a chynnydd o 5.2% ers yr un dyddiad y llynedd (31 Rhagfyr 2020).

Y ffigur ar gyfer staff eraill y practisau oedd 5,728 cyfwerth ag amser llawn ar 31 Rhagfyr 2021. Mae hyn yn cyfateb i 72.0% o'r cyfanswm pennau yn gwneud gwaith amser llawn, ac yn debyg i’r sefyllfa o ran meddygon teulu parhaol cwbl gymwysedig.

Image
Ar 31 Rhagfyr 2021, y ffigur ar gyfer staff eraill y practisau oedd 18.1 cyfwerth ag amser llawn am bob 10,000 o'r boblogaeth yng Nghymru. Roedd hyn yn amrywio yn ôl bwrdd iechyd, o 27.9 ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys i 15.2 yng Nghaerdydd a'r Fro.

Ar 31 Rhagfyr 2021, y ffigur ar gyfer staff eraill y practisau oedd 18.1 cyfwerth ag amser llawn am bob 10,000 o'r boblogaeth yng Nghymru. Roedd hyn yn amrywio yn ôl bwrdd iechyd, o 27.9 ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys i 15.2 yng Nghaerdydd a'r Fro.

Grwpiau staff eraill y practisau

Gellir categoreiddio staff eraill y practisau yn ôl grwpiau staff. Cyhoeddir data ar fathau o swyddi ym mhob grŵp staff ar StatsCymru.

Pan fydd gan unigolyn fwy nag un contract o fewn yr un grŵp staff, unwaith y caiff ei gyfrif yn y cyfrif pennau ond caiff yr holl oriau contract eu cyfrif yn y rhif cyfwerth ag amser llawn.

Pan fydd gan unigolyn gontractau lluosog o dan wahanol grwpiau staff, caiff ei gyfrif yn y cyfrif pennau ar gyfer pob grŵp staff a chaiff ei oriau contract eu cyfrif yn y niferoedd cyfwerth ag amser llawn ar gyfer y grŵp staff cysylltiedig yn unig.

Image
Roedd 1,410 o nyrsys yn gweithio'r hyn sy'n cyfateb i 1,015 o oriau cyfwerth ag amser llawn. Roedd llai o staff gofal uniongyrchol i gleifion na nyrsys (1,264). Roedd y staff hyn hefyd yn gweithio llai o oriau cyfwerth ag amser llawn na nyrsys (876). Y grŵp staff mwyaf oedd staff gweinyddol/anghlinigol, gyda mwy na 5,000 o unigolion (5,349) ar 31 Rhagfyr 2021.

Roedd y tri grŵp o staff eraill y practis yn gweithio cyfran weddol debyg o oriau amser llawn, o'i gymharu â'r cyfanswm pennau ar gyfer eu grwpiau.  

Roedd 1,410 o nyrsys yn gweithio'r hyn sy'n cyfateb i 1,015 o oriau cyfwerth ag amser llawn. Mae hyn yn 72.0% o'r cyfanswm pennau.

Roedd llai o staff gofal uniongyrchol i gleifion na nyrsys (1,264). Roedd y staff hyn hefyd yn gweithio llai o oriau cyfwerth ag amser llawn na nyrsys (876). Mae hyn yn cyfateb i 69.3% o'r cyfanswm pennau.

Y grŵp staff mwyaf oedd staff gweinyddol/anghlinigol, gyda mwy na 5,000 o unigolion (5,349) ar 31 Rhagfyr 2021. Roedd y staff hyn yn gweithio 3,837 o oriau cyfwerth ag amser llawn, neu 71.7% o'r cyfanswm pennau.

Nodweddion nyrsys, staff gofal uniongyrchol i gleifion a staff gweinyddol/anghlinigol

Image
Menywod yw mwyafrif helaeth (96.9%) y nyrsys mewn practisau cyffredinol. Mae canran y staff benywaidd cyfwerth ag amser llawn ychydig yn llai na'r cyfanswm pennau.

Menywod yw mwyafrif helaeth (96.9%) y nyrsys mewn practisau cyffredinol. Mae canran y staff benywaidd cyfwerth ag amser llawn ychydig yn llai na'r cyfanswm pennau, gan fod gan nyrsys gwrywaidd yn gweithio oriau contract hirach fel arfer.

Image
Yn gyffredinol, mae nifer y nyrsys benywaidd yn cynyddu gydag oedran tan tua 60 oed. Roedd llai nag un o bob ugain (4.0%) o nyrsys benywaidd yn 29 oed neu'n iau; roedd 41.8% rhwng 30 a 49 oed; tra bod dros eu hanner (54.2%) dros 50 oed.

Yn gyffredinol, mae nifer y nyrsys benywaidd yn cynyddu gydag oedran tan tua 60 oed. Roedd llai nag un o bob ugain (4.0%) o nyrsys benywaidd yn 29 oed neu'n iau; roedd 41.8% rhwng 30 a 49 oed; tra bod dros eu hanner (54.2%) dros 50 oed. 

Roedd y rhan fwyaf (53.5%) o nyrsys gwrywaidd rhwng 40 a 55 oed.

Image
Roedd naw o bob deg (89.9%) o staff gofal uniongyrchol i gleifion yn fenywod. Nid yw cyfran y menywod cyfwerth ag amser llawn ond ychydig yn is na'r cyfrif pennau (0.5 pwynt canran).

Roedd naw o bob deg (89.9%) o staff gofal uniongyrchol i gleifion yn fenywod. Nid yw cyfran y menywod cyfwerth ag amser llawn ond ychydig yn is na'r cyfrif pennau (0.5 pwynt canran). Yn fras, roedd gan staff gofal uniongyrchol i gleifion gwrywaidd a benywaidd nifer tebyg o oriau contract.

Image
Ar gyfer staff gofal uniongyrchol i gleifion benywaidd, roedd bron i un o bob deg (9.0%) yn 29 oed neu'n iau; roedd 43.5% rhwng 30 a 49 oed; tra bod ychydig yn llai na’u hanner (47.6%) yn 50 oed neu'n hŷn. Roedd staff gofal uniongyrchol i gleifion gwrywaidd wedi'u gwasgaru'n fwy cyfartal na menywod, gyda chrynodiad o staff rhwng 30 a 40 oed (40.5%).

Nid yw'r berthynas rhwng oedran a chyfrif pennau mor gryf ymhlith staff gofal uniongyrchol i gleifion ag ydyw gyda nyrsys. Mae’r cyfrif pennau wedi’i wasgaru’n fwy cyfartal yn ôl grŵp oedran.

Ar gyfer staff gofal uniongyrchol i gleifion benywaidd, roedd bron i un o bob deg (9.0%) yn 29 oed neu'n iau; roedd 43.5% rhwng 30 a 49 oed; tra bod ychydig yn llai na’u hanner (47.6%) yn 50 oed neu'n hŷn.

Roedd staff gofal uniongyrchol i gleifion gwrywaidd wedi'u gwasgaru'n fwy cyfartal na menywod, gyda chrynodiad o staff rhwng 30 a 40 oed (40.5%).

Image
Roedd tua phedwar ar bymtheg allan o ugain (94.8%) o staff gweinyddol neu anghlinigol mewn practisau cyffredinol yn fenywod. Mae cyfran y menywod cyfwerth ag amser llawn bron yr un fath â'r cyfrif pennau.

Roedd tua phedwar ar bymtheg allan o ugain (94.8%) o staff gweinyddol neu anghlinigol mewn practisau cyffredinol yn fenywod. Mae cyfran y menywod cyfwerth ag amser llawn bron yr un fath â'r cyfrif pennau, felly does fawr o wahaniaeth rhwng yr oriau contract cyfartalog rhwng staff gweinyddol/anghlinigol gwrywaidd a benywaidd.

Image
Roedd staff gweinyddol/anghlinigol wedi'u gwasgaru ar draws bob grŵp oedran ond roedd ganddynt grynodiad uchel o staff 50 neu hŷn. Ar gyfer menywod, roedd mwy na hanner (54.1%) y staff yn 50 oed neu'n hŷn. Roedd nifer cymharol fach o staff gwrywaidd wedi'u gwasgaru'n fwy cyfartal, gydag ychydig dros draean (36.1%) yn 30 oed neu'n iau.

Roedd staff gweinyddol/anghlinigol wedi'u gwasgaru ar draws bob grŵp oedran ond roedd ganddynt grynodiad uchel o staff 50 neu hŷn. Ar gyfer menywod, roedd mwy na hanner (54.1%) y staff yn 50 oed neu'n hŷn. Roedd nifer cymharol fach o staff gwrywaidd wedi'u gwasgaru'n fwy cyfartal, gydag ychydig dros draean (36.1%) yn 30 oed neu'n iau.

Image
Roedd bron i 99% o nyrsys yn dod o grŵp ethnig gwyn. O'r rhai o gefndir ethnig leiafrifol, roedd y rhan fwyaf ohonynt o ethnigrwydd Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (0.7%).

Roedd bron i 99% o nyrsys yn dod o grŵp ethnig gwyn. O'r rhai o gefndir ethnig leiafrifol, roedd y rhan fwyaf ohonynt o ethnigrwydd Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (0.7%).

Image
Roedd bron i 98% o staff gofal uniongyrchol i gleifion yn dod o gefndir ethnig gwyn. O'r rhai o gefndir ethnig leiafrifol, roedd y rhan fwyaf ohonynt o gefndir Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (1.0%).

Roedd bron i 98% o staff gofal uniongyrchol i gleifion yn dod o gefndir ethnig gwyn. O'r rhai o gefndir ethnig leiafrifol, roedd y rhan fwyaf ohonynt o gefndir Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (1.0%).

Image
Roedd bron i 98% o’r staff gweinyddol/anghlinigol yn dod o grŵp ethnig gwyn. O'r rhai o gefndir ethnig leiafrifol, roedd y rhan fwyaf ohonynt o gefndir Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (1.1%).

Roedd bron i 98% o’r staff gweinyddol/anghlinigol yn dod o grŵp ethnig gwyn. O'r rhai o gefndir ethnig leiafrifol, roedd y rhan fwyaf ohonynt o gefndir Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (1.1%).

Roedd gan bob grŵp staff arall ganran is o bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol na phoblogaeth gyffredinol Cymru (4.8% yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2021, Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (StatsCymru)).

Image
Cofnodwyd fod gan un o bob deg (neu 10.1%) o nyrsys sgiliau siarad Cymraeg uwch neu hyfedr. Nododd 6.2% arall bod eu sgiliau rhwng lefel mynediad a chanolradd. Nid oedd gan 83.6% unrhyw sgiliau siarad Cymraeg o gwbl.

Cofnodwyd fod gan un o bob deg (neu 10.1%) o nyrsys sgiliau siarad Cymraeg uwch neu hyfedr. Nododd 6.2% arall bod eu sgiliau rhwng lefel mynediad a chanolradd. Nid oedd gan 83.6% unrhyw sgiliau siarad Cymraeg o gwbl.

Image
Roedd gan 12.0% o'r staff sgiliau ar lefel uwch neu hyfedr, ac roedd gan 6.8% sgiliau rhwng lefel mynediad a chanolradd. Cofnododd 81.2% o'r staff nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau siarad Cymraeg o gwbl.

Cofnodwyd bod gan gyfran uwch o staff gofal uniongyrchol i gleifion sgiliau siarad Cymraeg nag unrhyw grŵp arall o staff. Roedd gan 12.0% o'r staff sgiliau ar lefel uwch neu hyfedr, ac roedd gan 6.8% sgiliau rhwng lefel mynediad a chanolradd. Cofnododd 81.2% o'r staff nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau siarad Cymraeg o gwbl.

Image
Cofnodwyd fod gan lai nag un o bob deg (7.4%) o staff gweinyddol neu anghlinigol sgiliau Cymraeg ar lefel uwch neu hyfedr. Nododd 6.2% arall bod ganddynt sgiliau rhwng lefel mynediad a chanolradd. Nid oedd gan 86.4% unrhyw sgiliau siarad Cymraeg o gwbl.

Cofnodwyd fod gan lai nag un o bob deg (7.4%) o staff gweinyddol neu anghlinigol sgiliau Cymraeg ar lefel uwch neu hyfedr. Nododd 6.2% arall bod ganddynt sgiliau rhwng lefel mynediad a chanolradd. Nid oedd gan 86.4% unrhyw sgiliau siarad Cymraeg o gwbl.

Roedd canran staff eraill y practisau sydd ag unrhyw sgiliau siarad Cymraeg yn is na’r canran ym mhoblogaeth Cymru. Mae Cyfrifiad 2011 (StatsCymru) yn amcangyfrif bod gan 27% o bobl yng Nghymru rai sgiliau siarad Cymraeg, ac mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (StatsCymru) ym mis Rhagfyr 2021 yn amcangyfrif bod gan 30% o bobl yng Nghymru rai sgiliau siarad Cymraeg.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Bydd gwybodaeth fanwl am yr ystadegau yn y datganiad hwn yn cael ei chyhoeddi mewn adroddiad ansawdd yn ystod gwanwyn 2022.

Geirfa

Practis cyffredinol

Mae practis cyffredinol yn cynnig gwasanaethau meddygol gofal sylfaenol ar ran y bwrdd iechyd lleol, gydag o leiaf un ymarferydd meddygol cyffredinol cymwysedig sy'n gallu rhagnodi meddyginiaeth a lle gall cleifion gofrestru a chael eu cadw ar restr. At ddibenion y datganiad hwn, mae'r term practis cyffredinol yn cyfeirio at brif feddygfeydd yn unig ac nid yw'n cynnwys carchardai, canolfannau'r fyddin, sefydliadau addysg, canolfannau gofal arbenigol na chanolfannau galw i mewn.

Meddygon teulu cwbl gymwysedig

Mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon teulu cyflogedig, meddygon teulu wrth gefn a meddygon teulu locwm yn unig. Mae'r rhain yn feddygon teulu cwbl gymwysedig sydd wedi’u cofrestru ar Restr Cyflawnwyr Meddygol Cymru, ond bydd gan rai (meddygon teulu wrth gefn yn arbennig) gontractau â llai o oriau a bydd rhai (staff locwm) yn cael eu contractio i weithio dros dro. Dim ond pan oeddent yn weithredol yn ystod y chwarter a’u sesiynau wedi'u cofnodi ar Locum Hub Wales y caiff staff locwm eu cyfrif. Felly ni fydd unrhyw feddyg locwm sydd wedi'i gofrestru ar Gofrestr Gweithwyr Locwm Cymru, ond sydd heb gofnodi unrhyw sesiynau yn ystod y chwarter, yn cael ei gyfrif yn y niferoedd (cyfrif pennau) na'r nifer cyfwerth ag amser llawn.

Meddygon teulu parhaol cwbl gymwysedig

Mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon teulu cyflogedig a meddygon teulu wrth gefn yn unig. Mae'r rhain yn feddygon teulu cwbl gymwysedig gyda chontractau parhaol.

Ymarferydd cyffredinol

Mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr a meddygon teulu cyflogedig yn unig (h.y. heb gynnwys meddygon teulu locwm, cofrestryddion mewn practis cyffredinol, a meddygon teulu wrth gefn). Y rhain yw'r rhan helaethaf o'r gweithlu ac yn hanesyddol dyma'r mesur mwyaf sefydlog o’r gweithlu meddygon teulu. Mae meddygon teulu wrth gefn wedi’u heithrio oherwydd eu bod yn nifer bach o feddygon teulu sy'n gweithio ar gontractau penodol gyda llai o oriau.

Meddyg teulu sy’n bartner neu’n ddarparwr

Ymarferwyr sydd wedi ymrwymo i gontract gyda bwrdd iechyd lleol i ddarparu gwasanaethau i gleifion. Y rhain fel arfer yw'r meddygon teulu ar y lefel uchaf mewn practis. Yn benodol, mae meddygon teulu sy’n ddarparwyr naill ai'n unig ymarferydd; neu’n bartner mewn partneriaeth a'r bartneriaeth honno’n gontractwr; neu’n gyfranddaliwr mewn cwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau a'r cwmni hwnnw’n gontractwr.

Meddyg teulu cyflogedig

Meddygon teulu sy'n cael eu cyflogi a'u talu drwy gyflog gan y practis cyffredinol. Gall meddygon teulu cyflogedig hefyd gael eu cyflogi gan fyrddau iechyd yn uniongyrchol i weithio mewn practisau a reolir gan fyrddau iechyd.

Meddyg teulu wrth gefn

Meddyg teulu cofrestredig sydd wedi ymuno â'r Cynllun Meddygon Teulu Wrth Gefn. Nod hyn yw helpu i ddal gafael ar feddygon sy'n gweithio mewn practisau cyffredinol, ac fel arfer mae'n berthnasol i feddygon teulu sydd naill ai'n agosáu at oedran ymddeol neu sydd angen mwy o hyblygrwydd yn eu gwaith mewn practis cyffredinol. Dim ond hyd at 4 sesiwn glinigol yr wythnos y gall meddyg teulu wrth gefn eu gweithio mewn practis.

Meddyg Teulu Locwm

Meddyg teulu sy'n dirprwyo dros dro mewn practis, a hynny fel arfer i gyflenwi ar gyfer meddyg teulu sy’n absennol. Yn y datganiad ystadegol hwn, dim ond os ydynt wedi gweithio yn ystod y chwarter, a’u sesiynau wedi’u cofnodi ar Locum Hub Wales, y caiff staff locwm eu cyfrif. Nid yw unrhyw feddyg locwm sydd wedi'i gofrestru i weithio yng Nghymru ond sydd heb ddarparu unrhyw sesiynau yn ystod y chwarter yn cael ei gyfrif yn y cyfrif pennau na'r nifer cyfwerth ag amser llawn.

Locum Hub Wales

gwasanaeth sy’n galluogi practisau meddygon teulu ar draws Cymru i hysbysebu eu swyddi gwag tymor byr, a dewis ac archebu meddyg teulu locwm, y mae ei ddewisiadau'n cyfateb i rai'r practis, a hynny’n gyflym ac yn effeithlon. Nid yw'n ofynnol i staff locwm archebu sifftiau drwy Locum Hub Wales os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny. Fodd bynnag, rhaid i feddygon teulu locwm ymuno â Chofrestr Locwm Cymru Gyfan (ar Locum Hub Wales) a rhaid iddynt gofnodi manylion y sifftiau y maent wedi’u gweithio er mwyn cael eu cynnwys yn y Cynllun Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol (GMPI) o 1 Chwefror 2021.

Rheolir y Cynllun Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol (GMPI), gan Wasanaethau Cyfreithiol a Risg Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru fel rhan o Gyfarwyddydau’r Cynllun Esgeuluster Clinigol ar gyfer Ymddiriedolaethau'r GIG a’r Byrddau Iechyd Lleol (Gweinyddu) (Cymru) 2019 a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cynllun Esgeuluster Clinigol) (Cymru) 2019.

Cofrestrydd mewn practis cyffredinol

Weithiau fe'i gelwir yn feddyg teulu dan hyfforddiant. Mae’r rhain yn feddygon cymwysedig sy'n hyfforddi i fod yn feddygon teulu drwy gyfnod o hyfforddiant mewn practis cyffredinol ac mewn ysbytai. Yn hanesyddol, yng Nghymru roedd y rhaglen hyfforddi yn cynnwys 18 mis mewn swyddi ysbyty a gymeradwywyd a 18 mis mewn practis cyffredinol; fodd bynnag, o 2019 newidiodd y rhaglen hyfforddi i 12 mis mewn swyddi ysbyty a 24 mis mewn practis cyffredinol. Mae hyn yn esbonio rhywfaint o'r cynnydd yn nifer y cofrestryddion ers 2019. Mae’r contract safonol ar gyfer cofrestrydd yn 40 awr yr wythnos (yn hytrach na 37.5 awr), felly mae eu horiau cyfwerth ag amser llawn yn seiliedig ar wythnos 40 awr.

Meddygon F2

Meddygon sydd â chofrestriad GMC llawn yn eu hail flwyddyn o hyfforddiant meddygol ôl-raddedig. Maent wedi cwblhau eu blwyddyn sylfaen gyntaf a byddant yn cylchdroi drwy dri arbenigedd. Byddent fel arfer yn gwneud gwaith clinigol dan oruchwyliaeth ond nid ydynt yn hyfforddi i fod yn feddygon teulu. Mae contract safonol ar gyfer meddyg F2 yn 40 awr yr wythnos (yn hytrach na 37.5 awr), felly mae eu horiau cyfwerth ag amser llawn yn seiliedig ar wythnos 40 awr.

Partneriaeth

Trefniant ariannol rhwng dau neu ragor o gyrff y mae'n rhaid i un ohonynt fod yn ymarferydd cyffredinol.

Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS)

Yw’r contract y mae pob practis cyffredinol yng Nghymru yn darparu gwasanaethau drwyddo ar ran y bwrdd iechyd lleol.

Staff eraill y practis

Yr holl staff nad ydynt yn feddygon teulu a gyflogir drwy gontract gyda phractis cyffredinol. Mae 3 chategori o staff eraill y practis: nyrsys, staff gofal uniongyrchol i gleifion a staff gweinyddol/anghlinigol.

Nyrsys

Yn cynnwys nyrs practis, ymarferydd nyrsio uwch, nyrs arbenigol, nyrs practis â rôl estynedig, partner nyrsio, nyrs dan hyfforddiant a nyrs sy’n cyflenwi meddyginiaeth.

Gofal uniongyrchol i gleifion

Fel arfer mae hyn yn cynnwys unrhyw un sy'n ymwneud yn uniongyrchol â darparu gofal i gleifion ond nad yw'n nyrs nac yn feddyg teulu. Mae hyn yn cynnwys: cynorthwyydd gofal iechyd, cyflenwr meddyginiaeth, technegydd fferyllol, parafeddyg, therapydd galwedigaethol, fferyllydd, phlebotomydd, cwnselydd, ffisiotherapydd, cydymaith meddygol, cynorthwyydd gofal iechyd ar brentisiaeth, therapydd arall, therapydd cwnsela, phlebotomydd ar brentisiaeth, dietegydd, gweithiwr cymorth iechyd, ymarferydd llesiant seicolegol, gweithiwr cyswllt rhagnodi cymdeithasol a gofal uniongyrchol arall i gleifion.

Gweinyddol/anghlinigol

Unrhyw un sy'n ymwneud â gweinyddu neu drefnu'r practis. Mae hyn yn cynnwys: partner rheoli, derbynnydd, prentis, rheolwr, ysgrifennydd meddygol, teleffonydd, staff ystadau ac ategol, uwch-reolwr, cyfarwyddwr cyllid a staff gweinyddol arall.

Grwpiau ethnigrwydd

Mae'r tabl isod yn dangos y grwpiau ethnigrwydd unigol sydd wedi'u cynnwys yn y grwpiau ethnig a gyflwynir yn y datganiad hwn.

Grŵp ethnig Ethnigrwydd
Gwyn Gwyn Prydeinig
Gwyn Gwyn Gwyddelig
Gwyn Gwyn - Unrhyw gefndir Gwyn arall
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig - Indiaidd
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig - Pacistanaidd
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig - Bangladeshaidd
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig - Unrhyw gefndir Asiaidd arall
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig Malaysiaidd
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig Tsieineaidd
Du neu Ddu Prydeinig Du neu Ddu Prydeinig - Affricanaidd
Du neu Ddu Prydeinig Du neu Ddu Prydeinig - Caribïaidd
Du neu Ddu Prydeinig Cefndir Du Arall
Du neu Ddu Prydeinig Nigeraidd Du
Grŵp Ethnig Cymysg / Lluosog Cymysg - Gwyn a Du Affricanaidd
Grŵp Ethnig Cymysg / Lluosog Cymysg Gwyn / Asiaidd
Grŵp Ethnig Cymysg / Lluosog Cymysg Gwyn / Du Caribïaidd
Grŵp Ethnig Cymysg / Lluosog Cefndir cymysg arall
Grwpiau Ethnig Eraill Grŵp ethnig arall
Heb ei nodi/Anhysbys Ddim yn hysbys
Heb ei nodi/Anhysbys Heb ei nodi
Heb ei nodi/Anhysbys Wedi gwrthod

Cadw data System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu yn gyfredol

Prif ffynhonnell y data yw System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru (WNWRS). Daw data hefyd o system Locum Hub Wales (ar gyfer staff locwm), Cofnod Staff Electronig y GIG (ar gyfer cofrestryddion a hyfforddeion F2) ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru (ar gyfer practisau meddygon teulu gweithredol).

Dechreuwyd cymryd o data o WNWRS ar 31 Mawrth 2020 ac yna cafodd ei echdynnu bob chwarter ar ddiwrnod olaf y mis. Mae data ar gyfer yr holl staff, ar wahân i staff locwm, yn rhoi 'ciplun’ o weithlu practisau cyffredinol ar y dyddiad penodol hwnnw. Gan mai gwaith dros dro yw gwaith locwm, mae'r data hynny yn y datganiad hwn yn adlewyrchu'r cofnod contractau ar Locum Hub Wales ar gyfer y chwarter sy'n dod i ben ar ddyddiad y ciplun.  

Ar gyfer dyddiad pob ciplun, disgwylir i bractisau gadarnhau bod eu data yn WNWRS yn gyfredol yn ystod y chwarter sy'n arwain at y ciplun. Dylai hyn roi adlewyrchiad cywir o'r gweithlu ar ddyddiad y ciplun. Os nad yw practis yn mewngofnodi i WNWRS i weld ei ddata nac yn addasu data yn ystod y chwarter diweddaraf, yna caiff ei gyfrif fel practis nad yw wedi cadarnhau bod ei ddata yn gyfredol.

  • Data 31 Rhag 2021: Ni wnaeth 30 o bractisau o'r 390 o bractisau gweithredol gadarnhau bod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at 31 Rhag 2021.
  • Data 30 Medi 2021: Nid wnaeth 11 o bractisau o'r 391 o bractisau gweithredol gadarnhau bod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at 30 Medi 2021.     
  • Data 30 Meh 2021: Cadarnhaodd pob practis gweithredol fod eu data'n gyfredol yn y chwarter hyd at 30 Meh 2021.
  • Data 31 Maw 2021: Ni wnaeth 9 practis o'r 396 o bractisau gweithredol gadarnhau bod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at 31 Maw 2021.
  • Data 31 Rhag 2020: Ni wnaeth 36 o bractisau o'r 396 o bractisau gweithredol gyda staff gadarnhau bod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at 31 Rhag 2020.
  • Data 30 Medi 2020: Ni wnaeth 6 practis o'r 399 o bractisau gweithredol gadarnhau bod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at 30 Medi 2020 (cadarnhawyd ddiwethaf rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020).
  • Data 30 Meh 2020: Ni wnaeth 46 o bractisau o’r 402 o bractisau gweithredol gyda staff gadarnhau bod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at 30 Meh 2020 (cadarnhawyd ddiwethaf rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2020). Ni wnaeth 50 practis arall addasu eu data yn y chwarter hyd at 30 Meh 2020 (er iddynt edrych ar y data yn y chwarter hwnnw). Diweddarodd 3 practis eu data yn fuan ar ôl dyddiad y ciplolwg (ar 2 Gorffennaf).
  • Data 31 Maw 2020: Ni wnaeth 2 o'r 404 o bractisau gweithredol gyflenwi data neu ni wnaethant gadarnhau bod eu data’n gyfredol yn WNWRS. Darparodd y practisau hyn ddata cychwynnol drwy daenlen Excel ddiwedd 2019, a ddefnyddiwyd i rag-boblogi WNWRS cyn i'r system fynd yn fyw ar gyfer practisau. Felly defnyddiwyd y data a ddarparwyd yn y daenlen gychwynnol ar gyfer y ddau bractis hyn.

Cyfrifo data cyfwerth ag amser llawn, a’u cyfyngiadau

Mae'r mesur cyfwerth ag amser llawn yn fesur o lwyth gwaith pob aelod o staff a fynegir fel rhif cyfwerth ag amser llawn ac sydd wedi'i agregu ar gyfer y gweithlu cyfan. Ar gyfer yr holl staff ac eithrio cofrestryddion a meddygon F2, mae 1.0 cyfwerth ag amser llawn yn hafal i waith llawn amser o 37.5 awr yr wythnos, mae 0.5 cyfwerth ag amser llawn yn hafal i 18.75 awr yr wythnos. Mae gan gofrestryddion a meddygon F2 gontractau 40 awr yr wythnos fel arfer, felly mae 1.0 cyfwerth ag amser llawn yn hafal i 40 awr ar gyfer y mathau hyn o swyddi.

Cyfrifir ‘cyfwerth ag amser llawn’ gan ddefnyddio'r eitem ddata 'oriau dan gontract' yn WNWRS. Os yw'r eitem ddata hon yn wag, defnyddir yr eitem ddata 'oriau a weithiwyd' yn lle hynny. Mae'r ddwy eitem ddata hyn yn dda iawn ar draws pob math o swydd, ond mae rhywfaint o ddata ar goll ac mae hyn yn debygol o olygu bod y niferoedd cyfwerth ag amser llawn yn y datganiad ystadegol hwn yn amcangyfrif ychydig yn is na’r gwir nifer.

Yn dilyn gwaith helaeth gan Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG, dim ond 12 o feddygon teulu a 30 o staff eraill y practisau a oedd heb oriau wedi'u cofnodi yn y echdyniad data 31 Rhagfyr 2021. Mae’n bosibl fod gan rai o’r staff hyn gontract dim oriau, ond mae’n debygol mai cofnodion anghyflawn yw rhai ohonynt.

Gan fod cyfran y data coll yn isel yn echdyniad 31 Rhagfyr 2021, mae'r eitemau data ar gyfer oriau dan gontract ac oriau gwaith wedi bod drwy broses sicrhau ansawdd drylwyr ac maent o ansawdd digonol i'w cyhoeddi yn y datganiad ystadegol hwn.

Cyfyngiadau’r data ar nodweddion staff

Nid yw oedran, rhyw, ethnigrwydd a sgiliau Cymraeg wedi'u cofnodi ar gyfer pob person sy'n gweithio mewn practis cyffredinol. Mae'r dadansoddiad a gyflwynir, felly, yn ddadansoddiad rhannol ar sail y staff y mae eu gwybodaeth ar gael. Cyhoeddir canran y data sydd ar goll ar bob siart.

Noder nad yw'n ofynnol i staff locwm gofnodi'r wybodaeth hon wrth gofnodi gwaith drwy Locum Hub Wales, ac felly y rhain sydd i’w cyfrif am gyfran fawr o feddygon teulu cwbl gymwysedig nad oes gwybodaeth hysbys ar eu cyfer.  

Ar gyfer y nodweddion rhyw, dim ond y data lle cofnodwyd staff fel 'gwryw' neu 'fenyw' sydd wedi'i gynnwys yn y siartiau. Ar hyn o bryd, nid oes gan y system casglu data opsiynau i gofnodi 'arall/anhysbys’ yn yr un categori. Mae hyn yn golygu nad oedd modd inni wananiaethu’n gadarn rhwng achos lle dewisodd y person beidio â datgelu ei ryw ac achos lle y cofnodwyd rhyw fel ‘arall’. Mae data ar gyfer y categorïau hyn i'w cael yn nhablau StatsCymru; fodd bynnag, ein nod yw gweithio gyda darparwyr data i wella hyn mewn rhifynnau yn y dyfodol.

Yn yr un modd, mae rhai materion yn codi wrth wahaniaethu rhwng grŵp ethnig anhysbys a grŵp ethnig heb ei ddatgan. Ein nod hefyd yw gwella hyn mewn rhifynnau yn y dyfodol.

Mae nifer bach o achosion lle nad yw nodweddion yn gyson o chwarter i chwarter. Er enghraifft, mae nifer bach o achosion lle mae oedran person wedi newid mwy nag 1 o un chwarter i'r llall. Mae hyn yn effeithio ar ymarferwyr cyffredinol a staff eraill y practisau a dylid cadw hyn mewn cof wrth ddefnyddio ystadegau am nodweddion staff.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Bwriedir diweddaru'r datganiad blynyddol hwn gan ddefnyddio data ar gyfer mis Medi 2022, a fydd yn debygol o gael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2023. Byddai hwn wedyn yn dod yn ddatganiad blynyddol ar y cylch hwn. Bob chwarter bydd tablau StatsCymru yn parhau i gael eu diweddaru, a byddant yn cynnwys cyfansymiau lefel uchel a data cyfwerth ag amser llawn ar gyfer meddygon teulu a staff practis ehangach.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 117/2022