Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Prif ffynhonnell y data a ddefnyddir yw’r System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS) sydd wedi’i gyflenwi a’i ddilysu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau’r GIG.

Prif bwyntiau

Yng Nghymru, ar 31 Mawrth 2024

  • 374 o bractisau meddygon teulu yn weithredol, sef gostyngiad o 9 (2.4%) ers 31 Mawrth 2023.
  • 1,541 o feddygon teulu cwbl gymwysedig CALl, sef gostyngiad o 43 (2.7%) ers 31 Mawrth 2023. Mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon teulu cyflogedig, meddygon teulu wrth gefn a staff locwm gweithredol yn unig.
  • 429 o gofrestryddion mewn practis cyffredinol (meddygon teulu dan hyfforddiant) CALl, sef cynnydd o 11 (2.6%) ers 31 Mawrth 2023.
  • 5,951 o staff eraill practisau CALl, sef cynnydd o 40 (0.7%) ers 31 Mawrth 2023.

Ar ôl dadansoddi yn ôl mathau penodol o feddygon teulu a grwpiau o staff

  • 1,390 o ymarferwyr cyffredinol CALl, sef gostyngiad o 53 (3.7%) ers 31 Mawrth 2023. Mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr a meddygon teulu cyflogedig yn unig.
  • 11 o feddygon teulu wrth gefn CALl, sef gostyngiad o 1 ers 31 Mawrth 2023.
  • 140 o feddygon teulu locwm CALl, sef cynnydd o 11 (8.9%) ers 31 Mawrth 2023. Mae'r holl locwm a oedd yn weithgar yn y chwarter bellach wedi cael eu cyfrif, gan gynnwys gwaith locwm mewn practisau a reolir gan y bwrdd iechyd lleol na chafodd eu cofnodi drwy Locum Hub Wales. Gweler yr adroddiad ansawdd am ragor o wybodaeth.
  • 1,039 o nyrsys cofrestredig CALl, sef gostyngiad o 3 (0.3%) ers 31 Mawrth 2023.
  • 955 o staff gofal uniongyrchol i gleifion CALl (sef staff nad ydynt yn feddygon teulu nac yn nyrsys ond sy’n darparu gwasanaethau iechyd i gleifion, megis cynorthwywyr gofal iechyd, cyflenwyr meddyginiaeth a fferyllwyr), sef cynnydd o 8 (0.9%) ers 31 Mawrth 2023.
  • 3,957 o staff gweinyddol neu staff practis anghlinigol eraill CALl, sef cynnydd o 35 (0.9%) ers 31 Mawrth 2023.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Sabir Ahmed
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099