Neidio i'r prif gynnwy

Nifer y meddygon teulu a’r aelodau staff eraill sy'n gweithio mewn practisau cyffredinol yng Nghymru, ar sail nifer yr unigolion a’r nifer cyfwerth ag amser llawn, ar 31 Mawrth 2022.

Prif ffynhonnell y data a ddefnyddir yw’r System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS) sydd wedi'i gyflenwi a'i ddilysu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG.

Prif bwyntiau

Yng Nghymru, ar 31 Mawrth 2022, roedd 389 o bractisau meddygon teulu gyda:

  • 2,324 o feddygon teulu cwbl gymwysedig, sef 1,581.0 cyfwerth ag amser llawn (neu 68.0% o’r cyfanswm pennau); mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon cyflogedig, ymarferwyr wrth gefn a staff locwm gweithredol yn unig
  • 438 o gofrestryddion mewn practis cyffredinol (meddygon teulu dan hyfforddiant) sef 391.5 cyfwerth ag amser llawn (neu 89.4% o’r cyfanswm pennau)
  • 7,976 o staff eraill y practis (nad ydynt yn feddygon teulu) sef 5,759.4 cyfwerth ag amser llawn (neu 72.2% o’r cyfanswm pennau)

Ar ôl dadansoddi yn ôl mathau penodol o feddygon teulu a grwpiau o staff, roedd:

  • 2,019 o feddygon teulu, sef 1,471.8 (neu 72.9% o’r cyfanswm pennau); mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr a meddygon teulu cyflogedig ond ag eithriad a gofrestryddion, ymarferwyr wrth gefn a staff locwm
  • 26 o feddygon teulu wrth gefn, sef 10.2 (neu 39.2% o’r cyfanswm pennau)
  • 384 o feddygon teulu locwm, sef 99.0 cyfwerth ag amser llawn (neu 25.8% o’r cyfanswm pennau)
  • 1,419 o nyrsys cofrestredig, sef 1,027.7 cyfwerth ag amser llawn (neu 72.4% o’r cyfanswm pennau)
  • 1,283 o staff gofal uniongyrchol i gleifion, sef 892.4 cyfwerth ag amser llawn (neu 69.6%o’r cyfanswm pennau); mae hyn yn cynnwys proffesiynau fel fferyllwyr, gweinyddwyr, cynorthwywyr gofal iechyd a ffisiotherapyddion ond nid yw'n cynnwys meddygon teulu na nyrsys
  • 5,348 o staff gweinyddol neu staff practis anghlinigol eraill, sef 3,839.3 cyfwerth ag amser llawn (neu 71.8% o’r cyfanswm pennau)

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Dewi Rees

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.