Gwybodaeth am nifer y cleifion cofrestredig a dosbarthiad oedran y gweithlu, ar 30 Mehefin 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gweithlu practis cyffredinol
Prif ffynhonnell y data a ddefnyddir yw’r System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS). Dyma’r tro eildro i ddata gael ei gyrchu o’r system hon ac mae wedi bod yn destun prosesau dilysu llawn gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a NHS Digital. Mae ystadegau o'r ffynhonnell hon ar eu dechrau, felly mae'r datganiad hwn yn cael ei ddosbarthu fel Ystadegau Arbrofol.
Prif bwyntiau
Yng Nghymru, ar 30 Mehefin 2020, roedd 403 o bractisau meddygon teulu gyda:
- 1,943 o ymarferwyr meddygon teulu (gan gynnwys partneriaid, darparwyr a meddygon teulu cyflogedig ond gan eithrio cofrestryddion, ymarferwyr cyffredinol wrth gefn a meddygon locwm)
- 291 o gofrestryddion practisau meddygon teulu (hyfforddeion mewn rhaglen hyfforddi arbenigol i feddygon teulu, wedi’u lleoli mewn practis meddyg teulu ar hyn o bryd)
- 17 o ymarferwyr cyffredinol wrth gefn (meddyg teulu yn y cynllun ymarferwyr cyffredinol wrth gefn, dim ond yn gallu ymarfer hyd at 4 sesiwn glinigol yr wythnos)
- 810 o feddygon locwm wedi’u cofrestru i ymarfer yng Nghymru (nid oes data ar gael ar y nifer gwirioneddol sy’n gweithio ar hyn o bryd)
- 1,398 o nyrsys cofrestredig
- 1,119 o staff gofal uniongyrchol i gleifion
- 5,120 o staff gweinyddol neu anghlinigol arall mewn meddygfeydd
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gweithlu practis cyffredinol, ar 30 Mehefin 2020 (ystadegau arbrofol): tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 56 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.