Gwybodaeth am nifer y cleifion cofrestredig a dosbarthiad oedran y gweithlu, ar 30 Medi 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gweithlu practis cyffredinol
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif ffynhonnell y data a ddefnyddir yw’r System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS) sydd wedi'i gyflenwi a'i ddilysu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG. Mae ystadegau o'r ffynhonnell hon ar eu dechrau, felly mae'r datganiad hwn yn cael ei ddosbarthu fel ystadegau arbrofol.
Prif bwyntiau
- 391 o bractisau meddygon teulu gweithredol.
- 2,038 o ymarferwyr meddygon teulu (gan gynnwys partneriaid, darparwyr a meddygon teulu cyflogedig ond gan eithrio cofrestryddion, ymarferwyr cyffredinol wrth gefn a meddygon locwm).
- 426 o gofrestryddion practisau meddygon teulu (hyfforddeion mewn rhaglen hyfforddi arbenigol i feddygon teulu, wedi’u lleoli mewn practis meddyg teulu ar hyn o bryd).
- 28 o ymarferwyr cyffredinol wrth gefn (meddyg teulu yn y cynllun ymarferwyr cyffredinol wrth gefn, dim ond yn gallu ymarfer hyd at 4 sesiwn glinigol yr wythnos).
- 1,397 o nyrsys cofrestredig.
- 1,252 o staff gofal uniongyrchol i gleifion.
- 5,338 o staff gweinyddol neu anghlinigol arall mewn meddygfeydd.
- Roedd gwaith 459 o feddygon locwm wedi’i gofnodi’n weithredol o fewn system Hyb Locwm Cymru rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2021.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Saesneg yn unig
Gweithlu practis cyffredinol, ar 30 Medi 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 23 KB
ODS
23 KB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.
Gwefan StatsCymru
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099