Neidio i'r prif gynnwy

Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, 10 Mehefin 1921 i 9 Ebrill 2021

Darllenwch am y trefniadau yn dilyn marwolaeth Dug Caeredin

Gwybodaeth am nifer y cleifion cofrestredig a dosbarthiad oedran y gweithlu, ar 30 Medi 2020.

Prif ffynhonnell y data a ddefnyddir yw’r System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS). Cymerwyd y data o'r system hon a bu'n destun prosesau dilysu llawn gan Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG ac NHS Digital. Mae ystadegau o'r ffynhonnell hon ar eu dechrau, felly mae'r datganiad hwn yn cael ei ddosbarthu fel ystadegau arbrofol.

Prif bwyntiau

Yng Nghymru, ar 30 Medi 2020, roedd 399 o bractisau meddygon teulu gyda.

  • 1,963 o ymarferwyr meddygon teulu (gan gynnwys partneriaid, darparwyr a meddygon teulu cyflogedig ond gan eithrio cofrestryddion, ymarferwyr cyffredinol wrth gefn a meddygon locwm).
  • 382 o gofrestryddion practisau meddygon teulu (hyfforddeion mewn rhaglen hyfforddi arbenigol i feddygon teulu, wedi’u lleoli mewn practis meddyg teulu ar hyn o bryd).
  • 24 o ymarferwyr cyffredinol wrth gefn (meddyg teulu yn y cynllun ymarferwyr cyffredinol wrth gefn, dim ond yn gallu ymarfer hyd at 4 sesiwn glinigol yr wythnos). 
  • 828 o feddygon locwm wedi’u cofrestru i ymarfer yng Nghymru (nid oes data ar gael ar y nifer gwirioneddol sy’n gweithio ar hyn o bryd).
  • 1,368 o nyrsys cofrestredig.
  • 1,107 o staff gofal uniongyrchol i gleifion.
  • 5,074 o staff gweinyddol neu anghlinigol arall mewn meddygfeydd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Gweithlu practis cyffredinol, ar 30 Medi 2020 (ystadegau arbrofol): tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 56 KB

ODS
56 KB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099