Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am bob aelod o staff a gyflogir mewn practisau meddyg teulu yng Nghymru, gan gynnwys meddygon teulu, a nyrsys ar 29 Chwefror 2020.

Prif ffynhonnell y data yw System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS) sydd wedi cymryd lle’r cyfrifiad Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol fel y brif ffynhonnell ar gyfer ystadegau ynglŷn â gweithlu meddygfeydd. Dyma’r tro cyntaf i ddata gael eu defnyddio o’r system hon ac felly mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i glustnodi’n Ystadegau Arbrofol.

Prif bwyntiau

Yng Nghymru, ar 29 Chwefror 2020, roedd 404 o bractisau meddygon teulu gyda:

  • 1,972 o ymarferwyr meddygon teulu (gan gynnwys partneriaid, darparwyr a meddygon teulu cyflogedig ond gan eithrio cofrestryddion, ymarferwyr cyffredinol wrth gefn a meddygon locwm)
  • 296 o gofrestryddion practisau meddygon teulu (hyfforddeion mewn rhaglen hyfforddi arbenigol i feddygon teulu, wedi’u lleoli mewn practis meddyg teulu ar hyn o bryd)
  • 15 o ymarferwyr cyffredinol wrth gefn (meddyg teulu yn y cynllun ymarferwyr cyffredinol wrth gefn, dim ond yn gallu ymarfer hyd at 4 sesiwn glinigol yr wythnos)
  • 769 o feddygon locwm wedi’u cofrestru i ymarfer yng Nghymru (nid oes data ar gael ar y nifer gwirioneddol sy’n gweithio ar hyn o bryd).
  • 1,413 o nyrsys cofrestredig
  • 1,123 o staff gofal uniongyrchol i gleifion
  • 5,126 o staff gweinyddol neu anghlinigol arall mewn meddygfeydd

Adroddiadau

Gweithlu practis cyffredinol, ar 29 Chwefror 2020 (ystadegau arbrofol) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 654 KB

PDF
Saesneg yn unig
654 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Gweithlu practis cyffredinol, ar 29 Chwefror 2020 (ystadegau arbrofol): tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 54 KB

ODS
Saesneg yn unig
54 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.