Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer y cleifion cofrestredig a dosbarthiad oedran y gweithlu, ar 31 Rhagfyr 2020, 31 Mawrth a 30 Mehefin 2021.

Prif ffynhonnell y data a ddefnyddir yw’r System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS). Cymerwyd y data o'r system hon a bu'n destun prosesau dilysu llawn gan Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG. Mae ystadegau o'r ffynhonnell hon ar eu dechrau, felly mae'r datganiad hwn yn cael ei ddosbarthu fel ystadegau arbrofol.

Prif bwyntiau ar 30 Mehefin 2021

  • 392 o bractisau meddygon teulu gweithredol.
  • 2,002 o ymarferwyr meddygon teulu (gan gynnwys partneriaid, darparwyr a meddygon teulu cyflogedig ond gan eithrio cofrestryddion, ymarferwyr cyffredinol wrth gefn a meddygon locwm).
  • 367 o gofrestryddion practisau meddygon teulu (hyfforddeion mewn rhaglen hyfforddi arbenigol i feddygon teulu, wedi’u lleoli mewn practis meddyg teulu ar hyn o bryd).
  • 28 o ymarferwyr cyffredinol wrth gefn (meddyg teulu yn y cynllun ymarferwyr cyffredinol wrth gefn, dim ond yn gallu ymarfer hyd at 4 sesiwn glinigol yr wythnos). 
  • Mae data bellach yn cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf ar gyfer locymiaid sy'n gweithio mewn practisau (o 30 Mehefin 2021). Caiff y rhain eu casglu wrth i’r locymiaid gofnodi manylion eu sifftiau ar system Locum Hub Wales. Fe wnaeth 412 o feddygon teulu locwm wneud sifft ar 30 Mehefin 2021.
  • 1,408 o nyrsys cofrestredig.
  • 1,237 o staff gofal uniongyrchol i gleifion.
  • 5,345 o staff gweinyddol neu anghlinigol arall mewn meddygfeydd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Saesneg yn unig

Gweithlu practis cyffredinol: 31 Rhagfyr 2020 i 30 Mehefin 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 85 KB

ODS
85 KB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099