Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths wedi annog ffermwyr yng Nghymru i chwarae eu rhan wrth ddod o hyd i atebion effeithiol i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae llygredd amaethyddol yn parhau i effeithio ar afonydd, nentydd a chyrff dŵr eraill ledled Cymru. Mae hyn yn niweidiol i iechyd cyhoeddus, yr economi wledig a bioamrywiaeth. 

Ym mis Tachwedd 2018 amlinellodd y Gweinidog ei bwriad i gyflwyno rheoliadau ar gyfer Cymru gyfan. Heddiw cadarnhaodd y Gweinidog y bydd hi'n derbyn cyngor ym mis Ionawr ar gyflwyno deddfwriaeth ar ôl ymchwilio i fesurau amgen gydag is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru, a gafodd ei sefydlu i ganolbwyntio ar lygredd amaethyddol. 

Mae prosiect yn edrych ar opsiynau gwirfoddol, wedi'i ariannu ar y cyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac NFU Cymru, wedi bod ar waith i ddatblygu safon ddŵr ddrafft. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys rhoi cymhellion i wella ansawdd dŵr, drwy alluogi ffermwyr i ddangos y camau maent yn eu cymryd i ddefnyddwyr, manwerthwyr a rheoleiddwyr. 

Dywedodd Lesley Griffiths:

Yn 2018 cyhoeddais i fy mwriad i gyflwyno rheoliadau i'n helpu i fynd i'r afael â'r achosion o lygredd amaethyddol sy'n parhau i ddigwydd yn rhy aml o lawer. Dros flwyddyn yn ddiweddarach, dw i'n parhau i fod yn holl sicr bod angen gweithredu mewn modd pendant. 

Yn ystod y cyfnod hwn rwyf wedi cyllido swyddi swyddogion CNC ym maes llaeth er mwyn sicrhau bod ffermwyr yn derbyn cyngor ar fodloni rheoliadau. Rwyf hefyd wedi gwrando ar farn rhanddeiliaid ynghylch manteision rheoleiddio a’r cyfleoedd posibl a allai ddeillio o ddefnyddio mesurau gwahanol.”

Ym mis Ionawr byddaf yn ystyried y cyngor gan swyddogion ar gyflwyno rheoliadau amaethyddol, yn dilyn trafodaethau pellach ag is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru. 

Dw i am ystyried ymhellach a oes ffordd y gallwn ni roi hyblygrwydd i ffermwyr i gyflawni’r canlyniadau amgylcheddol hanfodol hyn yn y ffordd sydd fwyaf addas i fusnesau unigol.

Mae'n hanfodol bod ffermwyr yn cydnabod maint y broblem yng Nghymru fel mater o frys ac yn defnyddio'r cyfle hwn i ddatblygu atebion amgen.