Gweithio'n hyblyg a rhannu swyddi yn y sector amaethyddol: canllaw
Darlun bras i chi o beth yw gweithio'n hyblyg a rhannu swyddi yn y sector amaethyddol yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Yn berthnasol o 6 Ebrill 2024
Bwriad y canllaw hwn yw rhoi gwybodaeth gyffredinol yn unig. Peidiwch â dibynnu arno fel cyngor cyfreithiol. Siaradwch â chyfreithiwr sy'n gymwys i ddelio â materion cyflogaeth os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Gall trefniadau gweithio hyblyg ei gwneud yn haws i bobl weithio mewn amaethyddiaeth yng Nghymru a dilyn gyrfa mewn amaethyddiaeth. Bydd manteision i gyflogwyr amaethyddol o wneud hyn, gan gynnwys o ran recriwtio a chadw staff. Trwy drefniadau gweithio hyblyg, gall cyflogwyr amaethyddol greu gweithle mwy deniadol a chynhyrchiol.
Mae'r canllaw hwn yn rhoi darlun bras i chi o beth yw gweithio'n hyblyg a rhannu swyddi yn y sector amaethyddol yng Nghymru.
Beth yw gweithio'n hyblyg?
Mae gweithio'n hyblyg yn drefniant sy'n rhoi mwy o reolaeth i weithiwr ar ei oriau gwaith. Gall gynnwys gweithio'n rhan-amser, gweithio oriau cywasgedig a gweithio oriau hyblyg.
Er enghraifft:
Gallai gweithiwr amaethyddol sy'n gweithio 39 awr yr wythnos gytuno â'i gyflogwr i weithio'r oriau hynny dros 4 diwrnod a chael 3 diwrnod i ffwrdd yr wythnos.
Gallai gweithiwr amaethyddol gytuno i weithio 25 awr yr wythnos.
Beth yw rhannu swydd?
Mae rhannu swydd yn fath o drefniant gweithio hyblyg sy'n golygu bod dau neu fwy o bobl yn rhannu cyfrifoldebau un swydd amser llawn. Gellir gwneud hyn mewn sawl ffordd, fel gweithio bob yn ail ddydd neu wythnos, neu weithio oriau gwahanol bob dydd.
Er enghraifft:
Gallai cyflogwr gyflogi dau weithiwr amaethyddol i rannu'r un rôl rhyngddynt, gyda'r naill yn gwneud ei oriau gwaith ar ddechrau'r wythnos a'r llall ar ddiwedd yr wythnos. Bydd y gwaith yn cael ei wneud fel swydd amser llawn, ond gyda dau weithiwr amaethyddol yn lle un.
Manteision gweithio'n hyblyg a rhannu swydd
Mae nifer o fanteision o weithio'n hyblyg a rhannu swyddi yn y sector amaethyddol, gan gynnwys:
- mwy o foddhad i weithwyr ac felly'n haws eu cadw
- cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith
- ystyried cyfrifoldebau gofalu
- cynyddu'r gronfa o ymgeiswyr posibl i'r swydd
- cynyddu cynhyrchiant
- llai o absenoldeb, a
- gwella iechyd a lles
Ystyriaethau cyfreithiol
Mae gan weithiwr amaethyddol sy'n weithiwr cyflog/cyflogai (gweler statws gweithwyr amaethyddol isod) yr hawl i ofyn i'w gyflogwr am drefniadau gweithio hyblyg. Nid oes angen rheswm dros ofyn.
Rhaid iddo ofyn yn ysgrifenedig a nodi'r trefniant gweithio hyblyg yr hoffai ei gael e.e. gweithio'n rhan-amser, gweithio'n hyblyg neu newid oriau gwaith y contract.
Rhaid i gyflogwr ystyried pob cais i weithio'n hyblyg ac ymateb o fewn amser rhesymol, sef fel arfer o fewn dau fis.
Os yw cyflogwr yn bwriadu gwrthod cais yna rhaid iddo drafod â'r gweithiwr cyn gwneud hynny.
Caiff cyflogwyr wrthod cais am un o wyth rheswm busnes dilys yn unig, sy'n cynnwys:
- baich costau ychwanegol (e.e. cost llogi a chyflogi gweithwyr ychwanegol i weithio'r oriau na fydd yn cael eu gweithio)
- effaith andwyol ar allu'r cyflogwr i ateb y galw
- dim modd rhannu'r gwaith ymhlith staff presennol (e.e. neb ar gael i weithio'r oriau yn lle'r gweithiwr)
- os na fydd yn gallu recriwtio staff ychwanegol (e.e. os yw'r cyflogwr yn credu y caiff drafferth recriwtio rhywun i weithio'r oriau yn lle'r gweithiwr)
- effaith niweidiol ar ansawdd
- effaith niweidiol ar berfformiad
- dim digon o waith yn ystod y cyfnodau y mae'r gweithiwr am eu gweithio (e.e. os yw'r gweithiwr yn gofyn am gael gweithio'n hyblyg ar adegau pan na fydd digon o waith iddo, neu na fydd yn ymarferol gwneud y gwaith sydd angen ei wneud ar yr adegau hynny)
- newidiadau strwythurol yn yr arfaeth (e.e. os yw cyflogwr yn ystyried newid trefniadau staffio neu rotas ac ati)
Os bydd cyflogwr yn teimlo bod yn rhaid gwrthod y cais, gallai ystyried a thrafod opsiynau eraill gyda'r gweithiwr. Gallen nhw gytuno hefyd i dreialu'r trefniadau gweithio hyblyg i weld a ydyn nhw'n ymarferol.
Os bydd cyflogwr yn gwrthod cais, rhaid rhoi esboniad clir ysgrifenedig am y penderfyniad a rhoi hawl i'r gweithiwr apelio.
Gall gweithiwr wneud hyd at ddau gais gweithio hyblyg mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
Dylai'r cyflogwr:
- ofyn am gael copi ysgrifenedig o'r cais.
- rhoi ystyriaeth deg i'r cais.
- ei drafod gyda'r gweithiwr.
- edrych ar opsiynau eraill os nad yw'r cais yn bosibl.
- gwneud penderfyniad ar sail y ffeithiau ac nid barn bersonol.
- gwrthod y cais dim ond os oes rheswm busnes dilys (fel y nodir uchod).
- rhoi penderfyniad i'r gweithiwr o fewn 2 fis i dderbyn y cais (oni bai bod hyn wedi'i estyn drwy gytundeb).
Rhoi trefniadau gweithio hyblyg ar waith
Os ydych chi'n gyflogwr amaethyddol ac yn ystyried trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swyddi, dylech drafod â'ch gweithwyr beth yw eu hanghenion a'u dewisiadau o ran gweithio'n hyblyg a monitro unrhyw drefniadau rydych chi'n eu rhoi ar waith i sicrhau eu bod yn gweithio'n effeithiol.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am weithio'n hyblyg a rhannu swyddi yn y sector amaethyddol, darllenwch yr adnoddau canlynol:
Gwefan Llywodraeth y DU ar weithio'n hyblyg: https://www.gov.uk/flexible-working
Cod Statudol ACAS ar weithio'n hyblyg: https://www.acas.org.uk/acas-code-of-practice-on-flexible-working-requests/html