Heddiw, bydd Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, yn cyhoeddi rhagor o gymorth i gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Heddiw, cyn dydd Sul y Cadoediad pan fydd yn bresennol mewn Gwasanaeth Diolchgarwch Cenedlaethol yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet am sôn am y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i gefnogi aelodau o'r Lluoedd Arfog a chyn filwyr yng Nghymru.
Hefyd mae wedi lansio cynllun Llwybr Cyflogaeth i gyn filwyr a'r rheini sy'n gadael y Lluoedd Arfog, er mwyn eu helpu i ddod o hyd i swyddi, gan nodi'r cyllid sy'n cael ei roi i gynghorau er mwyn iddynt allu darparu cymorth hirdymor drwy swyddogion cyswllt dynodedig.
Dywedodd Alun Davies:
“Mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn ein hatgoffa am y rheini sydd wedi ymladd yn ddewr mewn rhyfeloedd yn y gorffennol i ddiogelu ein ffordd o fyw. Rhaid inni wneud yn siŵr nad ydyn ni fyth yn anghofio'r rhai sydd wedi aberthu eu bywydau, a hefyd y rheini sydd wedi goroesi gydag anafiadau difrifol, wrth iddyn nhw amddiffyn y rhyddid rydyn ninnau'n ei fwynhau heddiw.
“Mae'r gwaith rydyn ni'n ei wneud yng Nghymru i ddarparu'r gwasanaethau a'r cymorth priodol ar gyfer cymuned ein Lluoedd Arfog yn mynd o nerth i nerth, a heddiw dw i’n falch o allu cyhoeddi dau fesur newydd a fydd yn golygu y bydd llawer mwy o bobl yn cael cymorth.
“Mae dod o hyd i waith yn ganolog i alluogi pobl sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog i addasu'n llwyddiannus i fywyd newydd, ac i warchod eu hiechyd a'u llesiant. Dyna pam rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed gyda'n partneriaid, gan gynnwys y Grŵp Arbenigol ar Anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog, i ddatblygu Llwybr Cyflogaeth ar eu cyfer. I gefnogi'r Llwybr hwn, rydyn ni hefyd yn gweithio gyda Busnes yn y Gymuned i ddatblygu pecyn cymorth i gyflogwyr i'w helpu i adnabod y rhiweddau y gallai cyn filwyr ddod â nhw i fyd gwaith.
“Y llynedd, llwyddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gael cyllid Cronfeydd y Cyfamod i benodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog i ddarparu cymorth cyson ar gyfer cyn filwyr a'u teuluoedd mewn ardaloedd awdurdodau lleol ledled Cymru. Dw i wedi bod yn dilyn yn ofalus waith gwerthfawr y swyddogion hyn, sy’n cynnwys cynnal diwrnod gwybodaeth am y maes adeiladu, Construction Insight Day, i roi cyfle i gyn filwyr a'r rheini sydd wedi gadael y Lluoedd Arfog gwrdd â chyflogwyr yn y sector adeiladu a pheirianneg sifil, a dysgu am y cyfleoedd sydd ar gael yn y meysydd gwaith hyn.
“Daw'r cyllid hwn i ben yn 2019. Ond er mwyn cynnal y momentwm, a datblygu'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, dw i am roi hanner miliwn o bunnoedd o'r flwyddyn nesaf i sicrhau bod cynghorau'n gallu gosod Canllawiau'r Cyfamod a'r gwasanaethau ar seiliau cadarn yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
“Byddwn ni'n parhau i gydweithio gyda'n partneriaid allweddol er mwyn gwneud gwahaniaeth ar gyfer y gymuned hon.”