Sut a pham rydym yn hyrwyddo gweithio o bell.
Mae COVID-19 wedi newid y ffordd yr ydym yn byw, yn gweithio, yn teithio ac yn cymdeithasu. Mae llawer o bobl wedi gweithio i ffwrdd o’r swyddfa yn ystod y cyfnod clo. Rydym bellach yn awyddus i gydweithio â sefydliadau er mwyn cefnogi newid hirdymor a fydd yn annog rhagor o bobl i weithio o bell.
Ymysg y manteision ar gyfer economïau lleol, busnesau, unigolion a’r amgylchedd mae:
- lleihad mewn amser teithio a llai o gostau
- rhagor o hyblygrwydd a gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
- gwell cynhyrchiant
- llai o draffig, ac yn arbennig yn ystod yr oriau brig
- llai o lygredd aer a sŵn
- y cyfle i ailddylunio ein trefi a chanol ein dinasoedd
Rydym yn pwyso a mesur opsiynau ar gyfer rhwydwaith o ganolfannau gweithio o bell o fewn trefi a chymunedau. Bydd hyn yn:
- galluogi pobl i weithio’n nes at eu cartrefi
- galluogi unigolion i gydweithio o fewn eu cymuned leol
- creu lle ar gyfer y bobl nad ydynt yn gallu gweithio gartref neu nad ydynt yn dymuno gwneud hynny
Hoffem weld model ar gyfer gweithleoedd a fydd yn galluogi staff i ddewis rhwng gweithio yn y swyddfa, gartref neu mewn canolfan benodedig.
Beth yw hyn?
Gwetihio y tu allan i swyddfa draddodiadol neu safle gwaith ‘canolog’. Mae’n cynnwys gweithio o gartref ac yn agos i gartref yn eich cymuned leol.
Pam ydy ni’n ei wneud?
Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, mae llawer o bobl wedi bod yn gweithio o gartref i arafu lledaeniad y feirws. Gwelsom ei fod wedi arwain at fanteision i weithwyr, cymunedau lleol a’r amgylchedd.
Y manteision
- llai neu ddim cymudo a chydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith
- llai o dagfeydd, llygredd yn yr aer a sŵn
- llai o draffig yn golygu mwy o le i feicwyr a cherddwyr sy’n gorfod teithio i’r gwaith
- mwy o gyfleoedd am swyddi a mynediad at fwy o’r gweithlu
- manteision economaidd a chymdeithasol i’r stryd fawr.
Fydd yn rhaid i fusnesau newid eu ffordd o weithio?
Hoffem weld 30% o weithwyr Cymru yn gweithio o gartref neu yn agos at y cartref. Nid yw’n darged ac ni fydd unrhyw ofynion ar sefydliadau a chyflogwyr.
Bydd nifer o bobl a busnesau am barhau i weithio yn y ffordd mwy hyblyg hwn. Gallai hyn olygu cymysgedd o weithio yn y swyddfa a gartref neu yn y gymuned leol.
Er enghraifft:
- gallai gweithiwr llawn amser benderfynu gweithio 2 ddiwrnod yn y swyddfa a 3 diwrnod yn y cartref neu’n agos at y cartref (gweithio o bell am 60% o’r amser)
- gallai rhywun sy’n gweithio 3 diwrnod yr wythnos weithio 1 diwrnod o’r cartref a 2 ddiwrnod yn y swyddfa (gan weithio o bell 33% o’r amser)
Pryd fydd hyn yn digwydd
Mae angen inni wneud yn siŵr y gallwn greu canolfannau sy’n gweithio i’r gymuned. Rydym yn gwneud gwaith ymchwil ac yn chwilio am leoliadau peilot i wneud yn siŵr ein bod yn cael hyn yn iawn ac yn lleihau effeithiau negyddol. Rydym yn gobeithio creu pwrpas newydd i adeiladau ar y stryd fawr.
Rhagor o wybodaeth
Mae rhagor o wybodaeth ar borth Busnes Cyfrifol.