Heddiw, bydd y Gweinidog Tai, Julie James, yn cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor argymhellion eang gan grŵp o arbenigwyr ynglŷn â'r hyn sydd angen ei wneud i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod uchelgeisiol i roi diwedd ar ddigartrefedd yn ei holl ffurfiau neu, pan na ellir ei atal, sicrhau bod yr achosion yn brin, yn fyrhoedlog ac nad ydynt yn ailddigwydd.
Mae gan holl wasanaethau cyhoeddus Cymru ran i'w chwarae er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon. Mae'n golygu bod angen i'r Llywodraeth gyfan weithredu, gan sicrhau bod pob adran yn cydweithio i atal digartrefedd a rhoi diwedd arno.
Y llynedd, sefydlodd y Gweinidog Tai y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd i gynghori Llywodraeth Cymru ar y camau y mae angen iddi eu cymryd i gyflawni ei nod.
Roedd y cyntaf mewn cyfres o adroddiadau, a gyhoeddwyd fis Hydref, yn canolbwyntio ar y camau angenrheidiol i fynd i'r afael â chysgu allan yn ystod gaeaf 2019/20 a'r camau angenrheidiol i'w atal yn fwy hirdymor. Yn ei hymateb cychwynnol, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyfres o gamau brys ar waith i helpu i gael rhagor o bobl sy'n cysgu allan oddi ar y strydoedd.
Mae'r Grŵp, sy'n cael ei gadeirio gan Jon Sparkes, Prif Weithredwr Crisis, bellach wedi cyflwyno ei ail adroddiad, sy'n fwy cynhwysfawr, gan fanylu ar y polisïau hirdymor, strwythurol a strategol sydd eu hangen i roi diwedd ar ddigartrefedd.
Mae'r adroddiad yn cynnwys fframwaith o bolisïau, cynlluniau a dulliau trawslywodraethol i sicrhau y gall pawb yng Nghymru gael llety neu, pan na ellir atal digartrefedd, sicrhau bod yr achosion yn brin, yn fyrhoedlog ac nad ydynt yn ailddigwydd.
Mae hyn yn golygu:
- Bod digartrefedd yn brin: mae yna fwy o fesurau i'w atal a manteisir ar gyfleoedd i helpu pobl yn llawer cynharach er mwyn sicrhau nad ydynt yn colli eu cartref yn y lle cyntaf
- Bod digartrefedd yn fyrhoedlog pan fydd yn digwydd: mewn rhai achosion, ni ellir atal digartrefedd ond fe ddylai fod yn brofiad byr iawn. Dylid helpu pobl i aros yn eu cartref neu eu hailgartrefu cyn gynted â phosibl, gan sicrhau bod ganddynt yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnynt
- Nad yw digartrefedd yn digwydd eto: yn ogystal â bod yn fyrhoedlog, dylai unrhyw brofiad o ddigartrefedd ddigwydd unwaith yn unig ac ni ddylai pobl orfod cael sawl profiad o fod yn ddigartref yn ystod eu bywydau.
Dywedodd Cadeirydd y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd, Jon Sparkes:
Nid yw digartrefedd yn anochel, ac rydyn ni’n gwybod bod modd rhoi diwedd arno'n llwyr os ydyn ni i gyd yn cydweithio. Mae'n hanfodol bod gwasanaethau cyhoeddus, sefydliadau ac unigolion i gyd yn gwneud eu rhan i weithio gydag unrhyw un sydd mewn perygl o fod yn ddigartref er mwyn sicrhau nad yw’n colli ei gartref yn y lle cyntaf ac ymateb yn gyflym os na ellir atal digartrefedd.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r argymhellion hyn, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd, pobl sy'n gweithio mewn swyddi tai a digartrefedd, a'r aelodau o'r Grŵp Gweithredu. Rydyn ni'n falch o weld ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gytuno ar gynllun i roi diwedd ar ddigartrefedd gyda sefydliadau partner er mwyn sicrhau y gall Cymru atal cynifer o bobl â phosibl rhag mynd yn ddigartref. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld sut y bydd y cynllun gweithredu y mae'r Gweinidog wedi'i addo yn ymdrin â phob un o'r argymhellion hyn ond mae'n gam addawol ymlaen tuag at sicrhau bod gan bawb yng Nghymru rywle diogel a sefydlog i'w alw'n gartref.
Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James:
Hoffwn ddiolch i'r Grŵp am ei waith a'i ymrwymiad diflino i lunio adroddiad mor gynhwysfawr mewn cyfnod byr iawn. Rwy'n gwybod bod llawer o bobl eraill wedi cynorthwyo'r Grŵp, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad uniongyrchol, ac rwy'n ddiolchgar iawn am gyfraniad pawb.
Rwy'n falch bod llawer o'r hyn sydd yn yr adroddiad hwn i'w weld eisoes yn ein gwaith i atal digartrefedd, gan gynnwys sicrhau bod digartrefedd yn beth prin iawn, a phan fydd yn digwydd sicrhau ei fod am gyfnod byr, ac nad yw teulu neu unigolyn yn cael profiad arall ohono. I raddau helaeth, dyma y mae'r Grŵp Gweithredu yn ei argymell. Mae'r adroddiad hefyd yn adlewyrchu'n glir iawn yr ymateb a gyflwynais y llynedd sy'n cynnwys y Llywodraeth a'r gwasanaethau cyhoeddus cyfan, rhywbeth sy'n hanfodol i roi diwedd ar ddigartrefedd.
Mae'n dda gen i gyhoeddi fy mod yn derbyn mewn egwyddor yr holl argymhellion yn yr ail adroddiad hwn ac yn ymrwymo i weithio'n gyflym gyda phartneriaid dros y misoedd nesaf i lunio cynllun gweithredu wedi'i seilio ar yr argymhellion hyn. Rwy'n bwriadu cyhoeddi'r cynllun gweithredu cyn toriad yr haf.
Bydd y cynllun gweithredu a fydd yn cael ei lunio i roi'r argymhellion ar waith yn adeiladu ar waith sydd eisoes wedi dechrau ar lefel Llywodraeth Cymru ac ar draws awdurdodau lleol a'r sector cyhoeddus ehangach i atal digartrefedd a rhoi diwedd arno.
Mae hyn yn cynnwys:
- Adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yn ystod Tymor presennol y Cynulliad
- Mae'r Gweinidogion yn parhau i fuddsoddi £126m mewn cymorth sy'n ymwneud â thai, ac mae creu'r Grant Cymorth Tai yn cynnig ffocws llawer cryfach i helpu i gyflawni'r nod cyffredinol sef rhoi diwedd ar ddigartrefedd
- Mae'r Grant Cymorth Ieuenctid wedi'i gynyddu £3.7m, am yr ail flwyddyn, i ganfod a chefnogi pobl ifanc cyn iddynt fynd yn ddigartref
- Camau i gynyddu mynediad at y Sector Rhentu Preifat.
Darn olaf o waith y Grŵp fydd ystyried sut i sicrhau bod ailgartrefu cyflym a pharhaol yn ganolog i waith i atal digartrefedd a rhoi diwedd arno, a sut i sicrhau bod Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner yn cydweithio'n agos ac yn effeithiol i atal digartrefedd yng Nghymru a rhoi diwedd arno.
Disgwylir i'r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi yn nes ymlaen eleni.