Mae'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Mark Drakeford wedi pennu ffordd newydd ymlaen i lywodraeth leol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Dan gynigion a gyflwynwyd heddiw, byddai awdurdodau lleol yn cydweithio i ddarparu gwasanaethau pwysig. Ni fyddai newid i'r nifer presennol o awdurdodau lleol, ond byddai Llywodraeth Cymru'n helpu awdurdodau i uno'n wirfoddol.

Er bod rhai awdurdodau lleol eisoes yn cydweithio'n wirfoddol i ddarparu rhai gwasanaethau, byddai'r ffordd newydd hon o weithio'n rhanbarthol yn systematig ac yn orfodol.

Dywedodd Mark Drakeford wrth Aelodau'r Cynulliad heddiw:

"Mae cynghorau'n darparu eu gwasanaethau mewn cyfnod o gyni, y mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi'i alw'n gyfnod eithriadol o gwtogi gwariant ar wasanaethau cyhoeddus dros ddeng mlynedd neu fwy.

"Mae cyni'n creu pwysau ac un o'r prif gwestiynau nawr yw sut i gryfhau ein hawdurdodau lleol er mwyn iddyn nhw fedru delio â'r pwysau hynny. Felly mae diwygio llywodraeth leol yn rhywbeth sy'n rhaid ei wneud, ac nid yn fater o ddewis.

"Ymwelais â'r 22 awdurdod lleol dros yr haf, ac fe gefais gyfarfod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Undebau Llafur ac eraill. 

"Rydw i wedi gwrando ar eu sylwadau a nawr mae gennym ffordd bosibl ymlaen. Byddai hyn yn golygu cadw'r awdurdodau lleol presennol - y "porth" i bobl gyrraedd at y gwasanaethau - ond gyda gwasanaethau allweddol yn cael eu darparu'n rhanbarthol.

"Y tu ôl i'r porth hwn byddai lefel uwch o gydweithio rhanbarthol gorfodol a systematig.  O ganlyniad, bydd mwy o sicrwydd i’r awdurdodau lleol o ran staffio a chyllid, a bydd modd cynllunio a darparu gwasanaethau ar y raddfa gywir. 

"Awgrymwyd bod dau fodel gennym i ddarparu'r gwasanaethau hyn; un yn seiliedig ar y Dinas-ranbarthau yn cwmpasu trafnidiaeth strategol, cynllunio defnydd tir a datblygu economaidd, a'r llall yn unol â'r byrddau iechyd ar gyfer meysydd fel gwella addysg, gwasanaethau cymdeithasol ac amddiffyn y cyhoedd.

"Wrth gwrs, efallai y bydd rhai awdurdodau am gryfhau fwy byth drwy uno'n wirfoddol, ac fe fyddwn yn eu helpu i wneud hynny. 

"Byddwn hefyd yn gwneud gwelliannau i gynghorau cymuned yn y tymor byr, ac yn sefydlu adolygiad annibynnol i edrych ar swyddogaeth yr haen hon o lywodraeth leol yn y dyfodol.

“Rwy'n gwybod bod llywodraeth leol wedi wynebu cyfnod hir o ansicrwydd am y dyfodol, a bod yr ysbryd yn isel o ganlyniad i hyn.

"Cyhoeddais ym mis Mehefin y bydd cynghorwyr sy'n cael eu hethol i'r cynghorau presennol yn 2017 yn gwasanaethu tymor llawn o bum mlynedd hyd at 2022. Heddiw, gallaf gyhoeddi y bydd etholiadau i'r cynghorau presennol - heblaw am y rhai sy'n uno'n wirfoddol - yn 2022.  Mae hyn yn cadarnhau cylch etholiadol parhaol o bum mlynedd, ac yn rhoi deng mlynedd o lwyfan cadarn i lywodraeth leol barhau gyda'r gwaith diwygio.

"Rydw i am fod yn gwbl glir heddiw ein bod ni'n dechrau ar y daith newydd hon gydag agwedd benderfynol.  Rwy'n barod i weld cynnydd dros gyfnod synhwyrol ac ymarferol o amser, ond mae'n rhaid symud ymlaen.

"Erbyn y flwyddyn newydd, gyda chymorth llywodraeth leol, yr Undebau Llafur cydnabyddedig a phartneriaid eraill, rwy'n gobeithio y byddaf wedi pennu ffordd briodol ymlaen."