Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio gyda’n gilydd dros Gymru well

Pam gweithio i Lywodraeth Cymru?

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i helpu i wella bywydau ein dinasyddion. Ein nod yw helpu’r Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru i greu Cymru decach, mwy cyfartal a gwyrddach. Rydym am greu Cymru ffyniannus, iach, uchelgeisiol ac unedig er budd ein dinasyddion heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.   

Gydag oddeutu 5000 o staff wedi’u lleoli ledled Cymru, rydym yn agosáu at y bobl rydym ni’n eu gwasanaethu.

Fel aelod o’n tîm, bydd y canlynol ar gael i chi:

  • cyflog a phecyn buddion hynod gystadleuol  
  • 31 diwrnod o wyliau blynyddol (amser llawn a pro-rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser)
  • 10 o wyliau braint/gwyliau cyhoeddus (amser llawn a pro-rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser)
  • cynnig Dysgu a Datblygu hael
  • trefniadau gweithio hyblyg a ghweithio gartref

Pwy sy’n gallu gwneud cais?

Mae gennym nifer sylweddol o rolau blaenoriaeth y mae angen eu llenwi.

Dyma gyfle gwych i ddylanwadu trwy ddod â'ch gallu, sgiliau, gwybodaeth a phrofiad byw gwerthfawr ac unigryw i Lywodraeth Cymru.

Bydd gennych y gallu i ddatblygu eich galluoedd trwy fod yn rhan o amrywiaeth eang o waith hanfodol (megis gwaith adfer wedi COVID-19 a Chyflawni Brexit) a thrwy weithio gydag ystod eang o bartneriaid e.e. awdurdodau lleol, cwmnïau preifat a sefydliadau'r trydydd sector.

Gallai’r rolau a benodir iddynt trwy'r cynllun hwn fod yn holl feysydd gwaith Llywodraeth Cymru, ond yn arbennig ar draws datblygu a chyflawni polisïau, rheoli rhaglenni a phrosiectau, cyllid a chyflawni gweithredol a digidol, data a thechnoleg.

Cynorthwyo pawb i lwyddo

Rydym yn ymfalchïo ein bod yn gyflogwr o ddewis, yn sefydliad y mae pobl eisiau gweithio ac yn falch o weithio iddo. Am y rheswm hwn, rydym wedi rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion beth bynnag fo’u hoedran, priodas (yn cynnwys priodas gyfartal/o’r un rhyw) a phartneriaeth sifil, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, hunaniaeth o ran rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gred neu feichiogrwydd/mamolaeth.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio pobl dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl, nad ydynt wedi'u cynrychioli'n dda yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Mae ein rhwydweithiau amrywiaeth staff yn cefnogi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn Llywodraeth Cymru.

  • Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd
  • Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig
  • PRISM (LGBT+)
  • Menywod Ynghyd

 

Image