Yn ystod Uwchgynhadledd Treftadaeth Chwaraeon y DU a gynhaliwyd yn Amgueddfa Criced Cymru CC4, Caerdydd heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas, y byddai panel o arbenigwyr yn cael ei benodi ar gyfer Cymru i sefydlu gweledigaeth genedlaethol ar gyfer treftadaeth chwaraeon – y cyntaf yn y DU.
Bydd Treftadaeth Chwaraeon yn cydlynu panel ar gyfer Cymru i ddatblygu ffordd gyd gysylltiedig o hybu ein treftadaeth chwaraeon.
Bydd y panel yn adeiladu ar y partneriaethau sydd eisoes yn bodoli rhwng amgueddfeydd lleol a chenedlaethol Cymru, ac yn cynnig fforwm cydweithio i'r rhai sy'n rhan o greu a diogelu treftadaeth chwaraeon.
Mae sefydlu'r panel yn dilyn argymhellion a wnaed yn yr astudiaeth ddichonoldeb 'Dathlu ein Treftadaeth Chwaraeon’, a gyhoeddwyd y llynedd.
Yn ei araith yn yr uwchgynhadledd dywedodd y Dirprwy Weinidog:
“Mae pob math o chwaraeon yn gadael gwaddol o atgofion a gwrthrychau i adrodd eu storïau o lwyddiant, ymhell wedi i gampau'r cyfranogwyr fynd yn angof. Fodd bynnag, mae'r gwaddol hwn yn cael ei rannu rhwng casglwyr preifat, clybiau cymunedol a rhanbarthol, ac amgueddfeydd cyhoeddus a phreifat. Mae eitemau sy'n bwysig i bobl, ond sy'n aml yn fregus, yn derbyn amrywiol fathau o ofal – o storfeydd sy'n cael eu rheoli'n ofalus mewn amgueddfeydd, i focsys o dan welyau'r casglwyr.
“Roedd yr astudiaeth ddichonoldeb yn cydnabod nad oedd un ateb i'r lefelau amrywiol hyn o hygyrchedd a chadwraeth. Mae sicrhau bod y gwrthrychau hyn yn parhau i oroesi, a'u cyflwyno mewn ffyrdd diddorol ac ystyrlon yn her anhygoel. Heb unrhyw fath o fframwaith cenedlaethol ar gyfer polisïau, safonau, canllawiau neu fodelau casglu, mae perygl y gallai nifer o wrthrychau gael eu colli i genedlaethau'r dyfodol. Felly, dw i wrth fy modd y gallwn ni bellach weithio gyda Threftadaeth Chwaraeon a'i phartneriaid i sicrhau dyfodol ein Treftadaeth Chwaraeon.
Meddai Justine Reilly, Treftadaeth Chwaraeon:
"Mae clybiau chwaraeon a chwaraeon yn ganolog i lawer o'n cymunedau ac yn rhan annatod o'r straeon am ddatblygu gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol. Mae'r straeon hyn yn ysbrydoledig ac yn procio'r meddwl yn eu cynnwys a'u cyd-destun. Fodd bynnag, mae treftadaeth chwaraeon – y gwrthrychau, yr archifau, a'r hanesion llafar sy'n dod â threftadaeth chwaraeon yn fyw ac yn caniatáu i'r straeon hyn gael eu rhannu – mewn perygl yn rhy aml.
"Mae Treftadaeth Chwaraeon yn gweithio ar draws y DU fel y rhwydwaith pwnc arbenigol ar gyfer chwaraeon. Ein nod yw darparu ymagwedd strategol at dreftadaeth chwaraeon sy'n dileu casgliadau o risg ac yn grymuso sefydliadau, cymunedau ac unigolion i ddathlu a rhannu eu straeon. Rydym wrth ein boddau ein bod yn gallu dod â phanel arbenigol ynghyd yng Nghymru a chreu agwedd gydgysylltiedig at dreftadaeth chwaraeon ledled y wlad.
Mae'r rhaglen lawn, ddeuddydd yn trafod sut rydyn ni'n gallu gwneud treftadaeth chwaraeon yn fwy cadarn a sicrhau cadernid casgliadau. Mae'n edrych ar effaith treftadaeth chwaraeon ar gydlyniant cymunedol, gan gynnwys enghreifftiau fel diogelu Hanes Rygbi Caerdydd, ac yn cynnwys siaradwyr o Football Memories Scotland ac Amgueddfa Pêl-droed Genedlaethol yr Alban, yn ogystal â siaradwyr o Archif Hwylio Cenedlaethol Prydain. Cafodd mynychwyr hefyd daith y tu ôl i'r llen o amgylch pencadlys Clwb Criced Morgannwg.