Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y grŵp a sut y bydd yn gweithio.

Cefndir

Mae'r gweithgor yn cael ei sefydlu ar gais y Gweinidog Addysg sydd wedi gofyn i'r grŵp oruchwylio'r trefniadau ar gyfer datblygu a defnyddio adnoddau dysgu at ddefnydd ysgolion, a nodi bylchau yn yr adnoddau neu’r hyfforddiant sydd ar gael ar hyn o bryd. Bydd gwaith y gweithgor yn cefnogi addysgu themâu sy'n ymwneud â chymunedau a chynefinoedd Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws pob rhan o'r cwricwlwm a’r gwaith o addysgu hanes Cymru a'r byd.

Bydd hyn yn cynnwys hanes pobl dduon er mwyn ystyried amrywiaeth o grwpiau ethnig fel rhan o stori Cymru, ond yn mynd y tu hwnt i hynny hefyd. Bydd y grŵp yn ystyried pynciau, themâu, digwyddiadau ac adnoddau ar draws y chwe MDPh, gan gynnwys, ymhlith elfennau eraill, llenyddiaeth, hanes cymdeithasol, celf, iaith a lles. Mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer y cwricwlwm newydd yn cyfeirio at yr angen am ymwybyddiaeth gyson o stori leol y dysgwyr, a stori Cymru yn ogystal â stori’r byd ehangach, er mwyn galluogi dysgwyr i  ddod i ddeall natur gymhleth, lluosog ac amrywiol cymdeithasau, yn y gorffennol a’r presennol.

Dylai dysgwyr fod wedi eu gwreiddio mewn dealltwriaeth o’r hunaniaethau, y tirweddau a’r hanesion sy’n dod at ei gilydd i ffurfio eu cynefin. Bydd hyn nid yn unig yn eu galluogi i ddatblygu ymdeimlad cryf o’u hunaniaeth a’u lles, ond bydd hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth o hunaniaeth pobl eraill a’u galluogi i wneud cysylltiadau gyda phobl, lleoedd a hanes mewn lleoedd eraill yng Nghymru ac ar draws y byd.

Bydd y grŵp yn gweithio’n unol â meddylfryd canllawiau Cwricwlwm Cymru, gan ystyried yr egwyddorion a’r cyfarwyddyd strategol ac eang sydd eu hangen i sicrhau yr hyn sy'n bwysig wrth ddarparu addysg eang a chytbwys ar draws pob un o’r meysydd dysgu a phrofiad.

Y pedwar diben yw'r weledigaeth a'r dyhead a rennir gennym ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Maent yn cynnwys y nod y dylai dysgwyr ddatblygu fel dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd, sy'n ‘wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd yn awr ac yn y gorffennol’ ac sy’n ‘parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas amrywiol.’

Wrth gyflawni'r rhain, rydym yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer pawb, yn hyrwyddo lles unigol a chenedlaethol, yn mynd i'r afael ag anwybodaeth a chamwybodaeth, ac yn annog ymgysylltu beirniadol a dinesig.

Bydd y grŵp hwn yn gweithio'n agos gyda grwpiau ehangach ledled Cymru (a thu hwnt), heb ddyblygu gwybodaeth ac arferion da sy'n bodoli eisoes, ond gan ddwyn ynghyd ddull gweithredu cyson ar draws yr holl faterion uchod i gefnogi addysgu a dysgu. Bydd y grŵp yn adeiladu rhwydwaith cynhwysol gyda grwpiau presennol a'r rhai sydd â diddordeb yn y gwaith hwn, er mwyn rhoi cymorth ymarferol i ysgolion, yn ogystal â syniadau, adnoddau dysgu a chyfleoedd ehangach i ymgysylltu.

Cylch gwaith

Prif amcan y gweithgor yw:

  • adolygu'r adnoddau dysgu sydd ar gael ar hyn o bryd i gefnogi addysgu themâu sy'n ymwneud â chymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, eu cyfraniadau a'u profiadau, ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad yn ogystal â’r gwaith o addysgu hanes Cymru a'r byd
  • rhoi cyngor ynghylch comisiynu adnoddau dysgu newydd yn y meysydd hyn, gan dynnu ar gyngor arbenigwyr a grwpiau sydd ar gael ar hyn o bryd
  • adolygu ac adrodd ar ddysgu proffesiynol sy'n gysylltiedig â chymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, eu cyfraniadau a'u profiadau, ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad.

Mae'r amcanion amlinellol wedi'u cynnwys yn Atodiad A. Gan mai ffocws y grŵp yw ysgogi newid yn y dulliau o ddysgu ac addysgu, bydd y gweithgor yn blaenoriaethu cynnwys addysgwyr, yn ogystal ag eraill a all gyfrannu ar draws yr amcanion uchod.

Bydd aelodaeth o’r gweithgor ar sail gwahoddiad, a hynny’n deillio o drafodaeth rhwng y Cadeirydd a Llywodraeth Cymru (gweler Atodiad B). Fodd bynnag, bydd y grŵp yn gynhwysol a bydd yn dymuno ymgysylltu ag amrywiaeth eang o gynrychiolwyr, rhanddeiliaid a chyfraniadau er mwyn dod i'w casgliadau a bwrw ymlaen â’r gwaith a’i gyflawni.

Amserlen a threfniadau cyfarfodydd

Mae angen i adnoddau a chyfleoedd dysgu proffesiynol ar gyfer addysgu'r cwricwlwm newydd fod yn barod i gefnogi athrawon i baratoi ar gyfer y broses o gyflwyno'r cwricwlwm newydd yn raddol, sy'n dechrau yn 2022.

Bydd y grŵp yn cyfrannu syniadau i Grŵp Arbenigol y Cwricwlwm, Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â'r gwaith ehangach ar gydraddoldeb hiliol a arweinir ac a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Bydd y Cadeirydd yn cyfarfod â'r Gweinidog Addysg bob tri mis.

Bydd y grŵp yn cyfarfod i ddechrau drwy TEAMs/Skype. Bydd nifer ac amlder y cyfarfodydd yn cael eu trafod a'u cytuno yng nghyfarfod cyntaf y grŵp, ond mae angen i hyn gael ei gysoni â cherrig milltir a phrif amcanion y broses.

Bydd agenda a phapurau'r cyfarfodydd yn cael eu dosbarthu fel arfer drwy e-bost, 10 diwrnod gwaith cyn pob cyfarfod.

Mae pob aelod o'r grŵp yn gyfrifol am ddarllen yr holl ddeunyddiau a gyflwynir iddynt i’w hystyried ac am gyfrannu barn ac enghreifftiau perthnasol o’u profiad i'w trafod yn y grŵp, mewn modd amserol a phriodol.

Os na fydd aelod yn gallu dod i gyfarfod, bydd yn cael ei wahodd i gyflwyno cyfraniad ysgrifenedig i'r grŵp, er mwyn sicrhau bod ei farn yn cael ei hystyried yn ei absenoldeb.

Cerrig milltir a phrif amcanion y broses

Canol hydref 2020

Bydd y grŵp yn cyflwyno canfyddiadau cychwynnol ei adolygiad o’r adnoddau presennol ynghyd ag adroddiad naratif ategol i'r Gweinidog, gan gynnwys argymhellion ar gyfer adnoddau newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2020 i 2021.

Rhagfyr 2020

Bydd y grŵp yn cyflwyno ei adolygiad a'i argymhellion o ran dysgu proffesiynol sy'n gysylltiedig â chymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, eu cyfraniadau a'u profiadau ar draws y cwricwlwm. Bydd y grŵp yn tynnu sylw at enghreifftiau o arfer da ar gyfer eu rhannu’n barhaus ar draws ysgolion i wella'r ffocws ar y materion hyn o fewn dulliau dysgu mewn ysgolion a lleoliadau.

Gwanwyn 2020

Bydd y grŵp yn cyflwyno adroddiad ar eu prif argymhellion i'r Gweinidog.

Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Os byddwch yn grŵp neu’n weithgor o randdeiliaid, ewch i Hysbysiad Preifatrwydd Corfforaethol Llywodraeth Cymru i gael rhagor o fanylion.

Atodiad A: amcanion drafft

Mae tasgau penodol ar gyfer y gweithgor yn cynnwys y canlynol, ymhlith eraill:

  1. adolygu ac adrodd ar yr adnoddau dysgu sydd ar gael ar hyn o bryd i gefnogi'r addysgu sy'n ymwneud ag i) cymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, eu cyfraniadau a'u profiadau, ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad; a ii) hanes Cymru a'r byd. Dylid annog y sector i gyfrannu wrth nodi arferion addysgu da y dylid eu rhannu ledled Cymru, ac unrhyw fylchau o ran ansawdd, pwnc ac ystod, amrywiaeth neu addasrwydd i oedran (gan ystyried cyngor grwpiau arbenigol ehangach). Gall hyn gynnwys nodi deunyddiau enghreifftiol, dulliau i ymgorffori hyn ar draws y cwricwlwm, cyfeirio, dysgu proffesiynol a gwaith treialu mewn ysgolion
  2. ystyried a chynghori ar y cyfarwyddyd strategol ar gyfer cymunedau, cyfraniadau a chynefinoedd Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a sut i sicrhau bod ysgogiadau, mecanweithiau a dulliau priodol ar gael ar gyfer pob ysgol, fel bod ganddynt yr hyder i gyflawni’r amcanion ar draws eu cwricwlwm
  3. ystyried sut y gellir cryfhau egwyddor cynefin ymhellach ar draws fframwaith a      chanllawiau Cwricwlwm Cymru (gan sicrhau dealltwriaeth o hunaniaeth a chysylltiadau â phobl, lleoedd a hanesion o fewn Cymru ac ar draws y byd). Byddai hyn yn cynnwys:
    • y canllawiau ar y themâu trawsbynciol
    • y canllawiau ar y Dyniaethau
    • y canllawiau ar gyfer MDPh eraill fel Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    • y canllawiau ar Cynllunio eich Cwricwlwm
  4. adolygu a chyflwyno argymhellion ynghylch dysgu proffesiynol sy'n gysylltiedig â chymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, eu cyfraniadau a'u profiadau ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad
  5. goruchwylio'r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu proffesiynol a dulliau gweithredu eraill a fydd yn meithrin hyder ymarferwyr wrth addysgu'r adnoddau hyn ar draws y cwricwlwm
  6. cynghori'r Gweinidog Addysg ar gomisiynu adnoddau dysgu newydd a heriau dysgu proffesiynol i gefnogi addysgu'r uchod, yn unol ag egwyddorion y cwricwlwm newydd
  7. goruchwylio’r gwaith o ddatblygu yr adnoddau dysgu a gomisiynir yn sgil cyngor y grŵp
  8. ystyried y ffordd orau o adeiladu ar ganlyniadau'r prosiect hwn yn fwy eang yn y dyfodol, gan gynnwys dysgu proffesiynol a sicrhau bod y cwricwlwm yn adlewyrchu amrywiaeth, profiadau, safbwyntiau a threftadaeth ddiwylliannol y Gymru gyfoes wrth symud ymlaen
  9. ystyried perthnasedd y model hwn o adeiladu dysg a gwybodaeth i faterion allweddol eraill, gan gynnwys sgiliau gwybyddol, pynciau eraill (megis ystyriaethau amgylcheddol), a dysgu trawsbynciol, a rhoi cyngor ar y model hwnnw.

Atodiad B: aelodaeth y gweithgor

Cadeirydd

Yr Athro Charlotte Williams OBE.

Aelodau

  • Abu-Bakr Madden Al-Shabazz - Canolfan Dysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd– yn cynrychioli Hanes Pobl Dduon Cymru
  • Angela Heald - Pennaeth Ysgol Gynradd Gadeiriol San Joseff, Abertawe 
  • Chantelle Haughton - Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd; Cadeirydd Pwyllgor Rheoli Hanes Pobl Dduon Cymru 365
  • Clara Seery - CCAC; Rheolwr Gyfarwyddwr Consortiwm Canolbarth y De
  • Humie Webbe - Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
  • Dr Marian Gwyn - PHD mewn Hanes Pobl Dduon, Prifysgol Bangor. Arbenigwraig ar dreftadaeth
  • Yr Athro Martin Johnes - Prifysgol Abertawe
  • Nia Williams - Ysgol Gyfun Gymraeg y Preseli
  • Nicky Hagendyk - Arweinydd ar y Dyniaethau, consortiwm EAS
  • Rajvi Glasbrook Griffiths - Dirprwy Bennaeth, Ysgol Gynradd High Cross, Tŷ-du
  • Dr Shehla Khan - Darlithydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; Cadeirydd Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) Cymru

Sylwedyddion

  • Gwawr Meirion - Estyn AEM
  • Farrukh Khan - Estyn AEM