Gweithgor Cyllid Coetiroedd: argymhellion ar gyfer creu coetiroedd
Adroddiad manwl ac argymhellion tymor byr, canol a thymor hir ar gyfer creu coetiroedd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Nododd yr archwiliad dwfn Coed a Phren angen dybryd i ystyried modelau i sicrhau buddsoddiad mewn creu coetiroedd heb amharu mewn ffordd negyddol ar gymunedau presennol na chael effaith andwyol anfwriadol ar batrymau perchenogaeth tir.
Yn ystod y pedwar mis diwethaf, mae'r Gweithgor Cyllid Coetiroedd wedi ystyried opsiynau, gan ganolbwyntio ar sicrhau cydraddoldeb i ffermwyr drwy greu systemau sy'n eu galluogi i greu coetiroedd a rheoli risg ar sail gyfartal o gymharu â sefydliadau eraill. Mae'r papur hwn yn nodi'r argymhellion.
Ers iddo ddechrau cyfarfod, mae'r gweithgor yn cydnabod bod newidiadau i'r sefyllfa geowleidyddol wedi rhoi mwy o bwysau ar bris pren a'r cyflenwad ohono. Mae'n bosibl y caiff hyn effaith ar yr awydd i fuddsoddi mewn coedwigaeth.
Mae'r DU yn mewnforio tua 80% o'r pren y mae'n ei ddefnyddio ac mae prisiau pren wedi bod yn codi'n ddiweddar. Mae'r gwrthdaro yn Wcráin wedi gwaethygu'r sefyllfa o ran y cynnydd mewn prisiau. Mae ffactorau fel y pandemig a phroblemau parhaus o ran llafur, trafnidiaeth, ynni a'r gadwyn gyflenwi eisoes wedi effeithio ar brisiau llawer o gyfleustodau. Roedd mewnforion pren o Wcráin eisoes wedi'u cyfyngu oherwydd sefyllfa cyd-orfodaeth gan yr UE a dynnodd sylw at broblemau o ran gweithrediadau torri a thrin coed anghyfreithiol. Yn ôl y Ffederasiwn Masnach Pren, mae'n bosibl y caiff sancsiynau ar Rwsia effaith barhaus. Mae Rwsia yn gyflenwr pren byd-eang pwysig ac os bydd angen i brynwyr osgoi masnachu â Rwsia, bydd hyn yn arwain at gystadleuaeth am bren o wledydd eraill. Mae Rwsia yn gyfrifol am gyfran sylweddol o fewnforion pren meddal, pren caled a phren haenog, a mewnforiwyd cyfanswm o 456,810m³ y llynedd (er mai dim ond 1.25% o'r deunydd adeiladu o Rwsia, Wcráin a Belarws yw'r cyfanswm hwn).
Mae'r cynnydd mewn prisiau pren wedi cael effaith ar y sector adeiladu a gallu adeiladwyr tai i ddefnyddio mwy o bren yn lle deunyddiau eraill, er bod pris y deunyddiau eraill hyn hefyd wedi cynyddu. Mae'r cynnydd mewn prisiau pren hefyd wedi cael effaith ar faterion fel credydau carbon. Gwnaed newidiadau i reolau ychwanegedd y Cod Carbon Coetiroedd a disgwylir iddynt gael eu rhoi ar waith ym mis Hydref 2022. Mae'n bosibl y bydd y newidiadau hyn yn golygu na all prosiectau masnachol mawr ddangos ychwanegedd mwyach wrth i'r cynnydd mewn prisiau pren greu sefyllfa lle mae gwaith coedwigo yn ariannol hyfyw heb incwm o gredydau carbon.
Gallai'r datblygiadau hyn gynyddu'r galw am fuddsoddiad mewn coetiroedd, a golygu mai'r prif gymhelliant o hyd dros fuddsoddi mewn coetiroedd cynhyrchiol yw'r elw o bren yn hytrach na chredydau carbon.
Argymhellion byrdymor
- Dylai fod datganiad gwleidyddol clir yn amlinellu sut y dylai Cymru gyrraedd y targed o 180,000 hectar o goetiroedd newydd, gan nodi disgwyliad clir o'r lefel plannu bob blwyddyn, y mathau o goetiroedd a phwy fydd yn rhan o'r gwaith. Dylai fod ymrwymiad clir i dargedu cymorth yn y dyfodol tuag at ffermwyr a chymunedau yng Nghymru.
- Dylai fod safbwynt polisi clir ar gredydau carbon a rhaid rhoi gwybodaeth a chanllawiau i ffermwyr ynghylch eu defnyddio.
- Rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am gymorth creu coetiroedd dros y 3 mlynedd nesaf wrth i hyder ddatblygu a threfniadau cyllido preifat gael eu rhoi ar waith. Bydd gwella'r prosesau sy'n rhan o'r cynllun creu coetiroedd newydd yn elfen allweddol wrth feithrin hyder.
- Dylid cyllido hwyluswyr lleol er mwyn helpu perchenogion tir i greu coetiroedd, helpu i sicrhau bod y coed iawn yn y mannau iawn, nodi safleoedd ar gyfer y Goedwig Genedlaethol a meithrin ein dealltwriaeth o'r galw i greu coetiroedd ar lefel leol.
- Dylid defnyddio cyfran o'r gyllideb creu coetiroedd dros y 3 mlynedd nesaf i gynnal cynlluniau peilot o ddulliau o ddod o hyd i gyllid preifat. Dylai'r gweithgor ystyried ffurf y cynlluniau peilot hyn erbyn diwedd mis Ebrill 2022, gan ystyried opsiynau gan gynnwys gwarant carbon, prosiectau o dan arweiniad y gymuned (yn seiliedig ar fodel Daw Eto Ddail ar Fryn) a threfniadau partneriaeth i gyflwyno opsiynau cyllid cyfunol.
Tymor canolig a hirdymor
- Pan gaiff y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ei gyflwyno, rhaid sicrhau bod cyllid clir ar gael i ffermwyr a pherchenogion tir eraill. Roedd gwahanol safbwyntiau yn y grŵp am y ffordd orau o integreiddio hyn â chymorth ffermio arall.
- Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Cwmni Budd y Cyhoedd sy'n canolbwyntio ar greu coetiroedd drwy brosiectau cyllido a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, wedi'u cyllido drwy ddyroddi bondiau gwyrdd. Gallai'r cwmni hwn hefyd fod yn gyfrifol am greu'r Goedwig Genedlaethol yng Nghymru. Dylid cwblhau'r astudiaeth o fewn 12 mis.
Byddai pob un o aelodau'r gweithgor yn fwy na bodlon parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i roi'r argymhellion hyn ar waith.
Adroddiad manwl
Cefndir
Roedd y gweithgor creu coetiroedd yn gyfrifol am wneud argymhellion i Weinidogion am fodelau i sicrhau buddsoddiad mewn creu coetiroedd heb amharu ar gymunedau presennol na phatrymau perchenogaeth tir.
Roedd aelodau'r grŵp yn cynnwys Sarah Jennings (NRW), Gareth Davies (Coed Cymru), Anthony Geddes (Confor), Pat Snowdon (Scottish Forestry), yr Athro Karel Williams (Prifysgol Manceinion), yr Athro Colin Haslam (Ysgol Reoli Queen Mary), yr Athro Gerry Holtham (Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Cadwyn Capital LLP), Dr Keith Powell (Daw Eto Ddail ar Fryn) ac Andrew Jeffreys, Ann Owen, Neil Paull a Alice Teague (Llywodraeth Cymru).
Er mwyn llunio'r argymhellion, cynhaliodd y gweithgor bum cyfarfod, ynghyd â gweithdy hanner diwrnod. Cynhaliwyd cyfarfod bord gron hefyd gyda chynrychiolwyr o'r sector ffermio a chafwyd trafodaethau ag arbenigwyr buddsoddi ym maes coedwigaeth.
Amcan cyffredin y grŵp oedd y dylai unrhyw opsiwn arfaethedig allu creu coetiroedd a rheoli coetiroedd ychwanegol yn effeithiol, na ellid ei gyflawni drwy gyllid presennol Llywodraeth Cymru yn unig, mewn ffordd sy'n gweithio i berchenogion tir presennol a chymunedau lleol. Rhaid i'r dull gweithredu hefyd fod yn gydnaws â chynlluniau ar gyfer y Goedwig Genedlaethol.
Maint yr her
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cafwyd lefelau plannu isel ac ni fu cyfraddau plannu uwchlaw 2,000 hectar ers dechrau'r 1970au. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu 43,000 hectar o goetiroedd newydd erbyn 2030 a chyfanswm o 180,000 hectar erbyn 2050. Mae hyn yn elfen allweddol o ran mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Bydd hefyd yn cyfrannu at Goedwig Genedlaethol Cymru, yn creu swyddi ‘gwyrdd’, yn helpu i ymdrin â'r argyfwng natur ac yn gwella llesiant. Er mwyn plannu 43,000 hectar erbyn 2030, byddai angen dilyn trywydd creu coetiroedd tebyg i'r un isod:
20-21 |
21-22 |
22-23 |
23-24 |
24-25 |
25-26 |
26-27 |
27-28 |
28-29 |
29-30 |
Cyfanswm |
290 |
800 |
2,500 |
3,500 |
4,500 |
5,000 |
6,000 |
6,500 |
7,000 |
7,000 |
43,090 |
Cafodd y rhan fwyaf o'r ymdrechion i greu coetiroedd eu cyllido drwy gynllun Glastir – Creu Coetir (GCC), a gaiff ei ddisodli gan gynllun cyllido newydd y flwyddyn nesaf. Yn seiliedig ar gyfraddau presennol GCC, nodir cost amcangyfrifedig cyllido targedau Llywodraeth Cymru isod (nid yw'r costau wedi'u disgowntio). Mae hyn yn dangos faint o gyllid y mae angen ei sicrhau naill ai drwy gyllid gan y llywodraeth neu drwy fuddsoddiad preifat.
Cyfnod amser |
2022-2030 |
2031-2050 |
Cyfanswm | Cyfartaledd blynyddol |
Cost cyfalaf |
£164m |
£574m |
£738m |
£26.4m |
Cost refeniw |
£51m |
£628m |
£679m |
£24.3m |
Cyfanswm |
£215m |
£1,202m |
£1,417m |
£50.6m |
Gofynion perchenogion tir
Un o ofynion hanfodol unrhyw fodel yw sicrhau ei fod yn gweithio i berchenogion tir presennol. Bydd angen i ffermwyr fel y prif berchenogion tir yng Nghymru chwarae rhan greiddiol wrth greu mwy o goetiroedd yng Nghymru. Fodd bynnag, maent yn wynebu cyfres wahanol o gymhellion i'r rheini sy'n prynu tir.
Rhaid iddo ddarparu elw i'r perchennog tir sy'n ei wneud yn gynnig deniadol yn ariannol. Mae potensial i ffermwyr blannu coetiroedd llydanddail, a gaiff eu cyllido drwy gyllid grant ac incwm posibl gan gredydau carbon, a choetiroedd cymysg cynhyrchiol, a all hefyd ddarparu elw o bren yn ogystal â chyllid grant a charbon.
Fodd bynnag, gall gymryd amser hir i wireddu elw o garbon a phren, ac mae'n bosibl y bydd ffermwyr yn dewis peidio â gwerthu unedau carbon (gweler isod). Nid oes gan lawer o ffermwyr yr un mynediad at gyfalaf â buddsoddwyr allanol mewn creu coetiroedd, felly mae angen ffrwd incwm fwy rheolaidd arnynt o'u coetiroedd. Fel arfer, nid ydynt ychwaith mewn sefyllfa cystal i ymdrin â risg, fel methiant cynllun i greu coetiroedd. Mae gwahaniaethau hefyd yn yr agwedd tuag at werth tir – mae llawer o ffermwyr yn poeni y bydd gwerth tir yn lleihau ar ôl ei droi'n goetir, ond gall buddiannau treth prynu tir i blannu fod yn ddeniadol i fuddsoddwyr allanol.
Er bod ystyriaethau ariannol yn bwysig iawn, mae'r broses hefyd yn bwysig. Bydd proses gymhleth ar gyfer hawlio grantiau a chael cymeradwyaeth i blannu yn atal ffermwyr rhag gwneud cais. Rhaid i unrhyw fodel i ddenu buddsoddiad sector preifat osgoi ychwanegu at y cymhlethdod hwn.
Bydd dulliau plannu coed ‘y tu ôl i'r mesurydd’ hefyd yn dod yn ffactor ysgogi cynyddol bwysig o ran creu coetiroedd ar ffermydd, gan wrthbwyso carbon y fferm ei hun fel rhan o ymdrechion Cwmpas 3 i leihau allyriadau'r gadwyn gyflenwi, (‘mewnbwyso’). Mae angen deall y ffactorau ysgogi hyn yn well.
Gofynion buddsoddwyr
Mae amrywiaeth eang o bobl â diddordeb mewn cyllido cynigion i greu coetiroedd, ac mae ganddynt wahanol gymhellion a gwahanol ofynion o ran elw. Yn gadarnhaol, mae hyn yn cynnig y cyfle i leihau cost creu coetiroedd i'r llywodraeth, gan alluogi mwy o nwyddau cyhoeddus i gael eu cyllido. Yn negyddol, mae risg y caiff modelau coedwigo eu creu sy'n dieithrio cymunedau gwledig.
Mae'n bosibl y bydd gan grwpiau fel cymunedau lleol, elusennau amgylcheddol a chwmnïau sy'n awyddus i gyllido prosiectau CSR ddiddordeb mewn cyfrannu cyllid at greu coetiroedd heb unrhyw ofynion o ran elw.
Mae gan rai grwpiau ddiddordeb mewn cynhyrchu credydau gwrthbwyso carbon at eu defnydd eu hunain er mwyn gwrthbwyso allyriadau. Gallai'r rhain gynnwys cymdeithasau tai, busnesau bach a mawr (wedi'u lleoli yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r DU) a ffermwyr eu hunain.
Mae eraill yn chwilio am elw ariannol mewn ffordd sy'n gydnaws ag egwyddorion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu. Gallai'r rhain gynnwys buddsoddwyr sefydliadol neu gronfeydd pensiwn. Mae lefelau cyllido o ryw £17bn ar fantolenni Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru, ac mae buddsoddiadau yn creu elw blynyddol o 5-6%. Mae Datganiad Strategaeth Buddsoddi'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn nodi'r angen i weithredu mewn ffordd ddarbodus mewn perthynas â chymryd risgiau ariannol, ond mae'n nodi ei bod hi'n bosibl ildio rhywfaint o'r elw ariannol er mwyn creu effaith gymdeithasol â chaniatâd gan yr aelodau, rheolwyr cronfeydd ac ymddiriedolwyr sy'n gweithredu gan arfer diwydrwydd dyladwy.
Perchenogaeth tir
Codwyd pryderon am effaith cwmnïau mawr wedi'u lleoli y tu allan i Gymru yn prynu tir er mwyn creu coetiroedd. Caiff y pryderon hyn eu llywio gan amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys:
- Colli tir amaethyddol a'r effaith ar gynhyrchu bwyd
- Colli elw economaidd i gymunedau o newidiadau o ran perchenogaeth tir
- Pryderon am blannu conwydd anfrodorol
- Pryder am y broses gwrthbwyso carbon a ‘cholli’ carbon o Gymru
- Diffyg gallu cymunedau lleol i ddylanwadu ar brosiectau
- Effaith colli cymunedau ffermio ar ddiwyllian lleol a'r Gymraeg
Mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng pryderon. Ni fydd hi'n bosibl cynyddu gorchudd coetiroedd heb newid y defnydd o'r tir, ac er mwyn cyrraedd y targed o 180,000 hectar o goetiroedd newydd erbyn 2050, bydd angen newidiadau sylweddol i'r defnydd o'r tir. Fel rhan o hyn, mae gan goetiroedd cynhyrchiol ran bwysig i'w chwarae o ran tyfu rhywfaint o'r pren sydd ei angen i ddatgarboneiddio sectorau fel y sector adeiladu, a chreu swyddi gwyrdd mewn ardaloedd gwledig. Mae'r system cyfrifyddu carbon sydd ar waith yng Nghymru yn golygu na chaiff carbon ei gyfrif ddwywaith.
Fodd bynnag, mae'n bwysig peidio â diystyru pryderon am effaith creu coetiroedd ar gymunedau lleol, yn enwedig o ystyried hanes creu coetiroedd yng Nghymru. Mae risg y caiff prosiectau mawr nad ydynt yn sensitif i anghenion pobl leol effaith negyddol ar gymunedau lleol.
Mae'n bwysig cadarnhau pa mor gyffredin yw prosiectau coedwigo mawr wedi'u llywio gan fuddsoddwyr allanol. Mae enghreifftiau anecdotaidd o'r math hwn o brosiect, ond hyd yn hyn, prin yw'r dystiolaeth i awgrymu eu bod yn gyffredin. Caiff y rhan fwyaf o ymdrechion creu coetiroedd yng Nghymru eu cyllido drwy gynllun Glastir – Creu Coetir, nid ydym yn ymwybodol o lawer o brosiectau sydd wedi bwrw ati heb gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Er mwyn mesur faint o brosiectau sy'n gysylltiedig â buddsoddiad gan sefydliadau y tu allan i Gymru, rydym wedi cynnal dadansoddiad o fanylion cyfeiriadau. O 10 ffenestr y cynllun Glastir – Creu Coetir, mae gan 35 o'r 1,121 o ymgeiswyr gyfeiriadau gohebu y tu allan i Gymru, y mae 17 ohonynt ar gyfer prosiectau llai na 6 hectar. Cyflwynwyd ceisiadau mwy gan elusennau gan gynnwys Coed Cadw a busnesau bach a chanolig sy'n awyddus i wrthbwyso allyriadau. Roedd y prosiectau hyn yn gwneud cais i blannu cyfanswm o 817 hectar o goetir, sy'n cyfateb i lai na 0.05% o'r ffermdir yng Nghymru.
Ymddengys y bu cynnydd bach yn y math hwn o gais yn ystod ffenestri diweddarach (8-11) ond mae'n rhy gynnar i gadarnhau bod y duedd hon yn parhau, a gall ddeillio o'r ffaith bod prosiectau llawer mwyn yn cael eu derbyn fel rhan o'r broses ddethol oherwydd cyllidebau uwch. Mae'n ofynnol i bob prosiect sy'n gwneud cais i gynllun Glastir – Creu Coetir gael ei gynlluniau wedi'u dilysu er mwyn cadarnhau eu bod yn cyrraedd Safon Coedwigaeth y DU. Mae hyn yn cynnwys gofyniad i ymgynghori â chymunedau lleol, ac mae'n bosibl y caiff rhai cynlluniau ar gyfer coetiroedd newydd eu newid neu eu lleihau yn dilyn yr ymgynghoriad hwn.
Mae rhai o'r opsiynau a allai ymdrin ag amlder prosiectau gan fuddsoddwyr allanol y tu hwnt i gwmpas y gweithgor. Fodd bynnag, ym marn y grŵp, dylai prif ffocws fod ar sicrhau bod cymhelliant economaidd ar gyfer plannu coed ar ffermydd ar amrywiaeth o raddfeydd, a thrwy hynny sicrhau cyfle cyfartal i ffermwyr greu coetiroedd.
Dylai ei gwneud hi'n ddeniadol i ffermwyr blannu coed arwain at sefyllfa lle y bydd ffermwyr yn manteisio ar gyfleoedd i greu coetiroedd eu hunain yn hytrach na gwerthu'r tir. Wrth gwrs, bydd rhai achosion lle y bydd ffermwyr am werthu am resymau personol, fel ymddeol. Yn gyffredinol, roedd y grŵp o'r farn bod gwella cyfleoedd i ffermwyr, yn hytrach na chyfyngu ar bwy all blannu coed, yn ffordd well o ymdrin â materion sy'n gysylltiedig â pherchenogaeth tir.
Dylai polisïau (i) cymell creu mwy o goetiroedd a choedwigaeth fel rhan o arferion ffermio da ar ddaliadau sy'n parhau i ddarparu allbwn amaethyddol, gan gyfrannu at 'Sero Net' a helpu i adfer byd natur a (ii) hwyluso mwy o strwythurau coetir a choedwig sy'n eiddo i gymunedau, yn enwedig lle gall busnesau ac unigolion yng Nghymru weithredu i wrthbwyso eu carbon eu hunain a gwella bioamrywiaeth leol.
ARGYMHELLIAD: Dylai fod datganiad gwleidyddol clir yn amlinellu sut y dylai Cymru gyrraedd y targed o 180,000 hectar o goetiroedd newydd, gan nodi disgwyliad clir o'r lefel plannu bob blwyddyn, y mathau o goetiroedd a phwy fydd yn rhan o'r gwaith. Dylai fod ymrwymiad clir i dargedu cymorth yn y dyfodol tuag at ffermwyr a chymunedau yng Nghymru.
Rôl credydau carbon
Ni ddylid ystyried credydau carbon fel dewis amgen i leihau allyriadau. Fodd bynnag, ni all pob sector leihau allyriadau i sero ar hyn o bryd ac mae'n bosibl y bydd rhai sectorau yn dewis eu defnyddio o'u gwirfodd er mwyn gwrthbwyso'r allyriadau sy'n weddill. Dylai'r modelau a gynigir er mwyn cymell cynlluniau creu coetiroedd ar gyfer carbon fod yn gadarn, ystyried nwyddau cyhoeddus ehangach a bod yn seiliedig ar asesiad o'r gofyniad i fusnesau yng Nghymru wrthbwyso eu hallyriadau eu hunain.
Yng Nghymru, y Cod Carbon Coetiroedd yw'r safon sicrhau ansawdd a ddefnyddir i ddilysu carbon a gaiff ei secwestru drwy greu coetiroedd. Cefnogir y Cod Carbon Coetiroedd gan Lywodraeth Cymru a gweinyddiaethau datganoledig eraill y DU. Fe'i gweinyddir gan Scottish Forestry ac fe'i llywodraethir gan Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth trawsffiniol rhwng y gweinyddiaethau. Mae'n seiliedig ar adnoddau rhagfynegi carbon a phrotocolau monitro cadarn a ddatblygwyd gan Forest Research, caiff prosiectau eu dilysu'n annibynnol, a chaiff unedau carbon eu cadw mewn cofrestrfa gredadwy.
Mae creu coetiroedd â'r Cod Carbon Coetiroedd yn caniatáu i berchenogion tir wneud honiadau cadarn y gellir eu dilysu am y carbon a gaiff ei secwestru gan eu coetiroedd. Gallant ddewis defnyddio'r credydau hyn i wrthbwyso allyriadau a gaiff eu creu gan eu gweithgareddau eu hunain, neu eu gwerthu i gael incwm yn gyfnewid am secwestru carbon ar eu tir. Mae'n ofynnol i bob cwmni mawr yn y DU (tua 12,000 ohonynt) gyflwyno adroddiadau ar nwyon tŷ gwydr ac mae opsiwn ar gael iddynt brynu Unedau Carbon Coetiroedd wedi'u dilysu i'w digolledu am allyriadau na ellir eu hosgoi fel allyriadau o'u cerbydau fflyd.
O dan y Cod Carbon Coetiroedd, caiff ‘Unedau Dyroddi Arfaethedig’ eu creu unwaith y caiff coetir ei blannu. I bob pwrpas, mae'r uned hon yn cyfleu 'addewid i gyflawni' Uned Carbon Coetiroedd yn y dyfodol, yn seiliedig ar lefelau secwestru a ragfynegir. Nid yw'n 'warantedig', ac ni ellir ei defnyddio i gyflwyno adroddiadau yn erbyn allyriadau yn y DU hyd nes y caiff ei dilysu. Gall perchenogion tir werthu Unedau Dyroddi Arfaethedig er mwyn cael incwm cynnar o greu coetiroedd. Caiff ‘Unedau Carbon Coetiroedd’ eu dyroddi'n ddiweddarach, unwaith y bydd y coetir wedi secwestru'r CO2. Ar hyn o bryd, caiff tua 60% o gredydau carbon eu gwerthu'n syth fel Unedau Dyroddi Arfaethedig.
Un o elfennau pwysig y Cod Carbon Coetiroedd yw'r ‘rheolau ychwanegedd’. Mae'r rhain yn ceisio sicrhau mai dim ond lle na allai'r coetir fod wedi digwydd o dan amgylchiadau cyfreithiol, ariannol a busnes presennol y gall prosiectau gofrestru ar gyfer y Cod. Mae'r rheolau ychwanegedd hyn wrthi'n cael eu hadolygu ar hyn o bryd, a allai newid gallu buddsoddwyr mawr i gael gafael ar unedau carbon ar gyfer prosiectau coedwigo.
Mae credydau carbon wedi'u dilysu gan y Cod Carbon Coetiroedd yn gweithredu ar lefel unigolion a busnesau, ac maent ar wahân i'r trefniadau ar gyfer adroddiadau nwyon tŷ gwydr cenedlaethol a weithredir gan Gymru a gwledydd eraill.
Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio cyfrif allyriadau net Cymru (NWEA) i fesur cynnydd yn erbyn targedau lleihau allyriadau statudol a chyllidebau carbon Cymru. Bydd unrhyw waith plannu coed a wneir yng Nghymru wedi'i gynnwys ar restr nwyon tŷ gwydr Cymru. Gan fod deddfwriaeth newid hinsawdd yn seiliedig ar allyriadau tiriogaethol yng Nghymru a bod Cyfraniadau a Bennir yn Genedlaethol yn seiliedig ar allyriadau tiriogaethol yn ardal pob un o lofnodwyr Cytundeb Paris, nid yw hyn yn arwain at gyfrif dwywaith rhwng gwledydd.
Bydd gan lawer o ffermwyr ddiddordeb cynyddol mewn defnyddio credydau carbon coetiroedd at ddibenion gwrthbwyso er mwyn cyrraedd targedau Sero Net neu sicrhau elw ariannol ar y coetiroedd. Mae'r farchnad carbon wirfoddol, sy'n cynnwys credydau coetiroedd, yn datblygu o hyd. Gall rhai o'r penderfyniadau sydd eu hangen fod yn gymhleth, er enghraifft, a ddylid gwerthu unedau carbon neu dal gafael arnynt er mwyn gwrthbwyso allyriadau'r ffermwr ei hun, ac a ddylid gwerthu'r unedau fel Unedau Dyroddi Arfaethedig neu aros hyd nes y caiff Unedau Carbon Coetiroedd eu creu. Felly dylai Llywodraeth Cymru bennu safbwynt polisi clir ar gredydau carbon a rhaid sicrhau bod ffermwyr yn cael canllawiau ynghylch y dewisiadau wrth eu defnyddio.
ARGYMHELLIAD: Dylai fod safbwynt polisi clir ar gredydau carbon a rhaid rhoi gwybodaeth a chanllawiau i ffermwyr ynghylch eu defnyddio.
Cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer creu coetiroedd
Er bod cyfle digynsail i ddefnyddio cyllid preifat i greu coetiroedd newydd ar hyn o bryd, mae gan gyllid cyhoeddus ran hanfodol i'w chwarae o hyd. Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi sicrwydd hirdymor am y gyllideb ar gyfer creu coetiroedd ac mae'r gyllideb ddrafft ar 20 Rhagfyr yn cynnig cyfle i ddechrau'r broses honno.
Bydd yn cymryd amser i feithrin hyder yn y gwaith o greu coetiroedd yng Nghymru a bydd angen i gyllid Llywodraeth Cymru drwy'r cynllun creu coetiroedd newydd a rhaglen y Goedwig Genedlaethol ddarparu'r rhan fwyaf o'r gwaith creu coetiroedd dros y tair blynedd nesaf. Mae gwella'r broses ar gyfer cael gafael ar gyllid a chymeradwyo cynlluniau yn hanfodol er mwyn cynyddu hyder. Nododd yr archwiliad dwfn coed gamau gweithredu yn hyn o beth.
ARGYMHELLIAD: Rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am gymorth creu coetiroedd dros y 3 mlynedd nesaf wrth i hyder ddatblygu a threfniadau cyllido preifat gael eu rhoi ar waith. Bydd gwella'r prosesau sy'n rhan o'r cynllun creu coetiroedd newydd yn elfen allweddol wrth feithrin hyder.
Dim ond rhan o'r gofynion yw'r cyllid. Mae gallu rheoli prosiectau, pobl i weithredu'r cyllid a gwell deallusrwydd ar lefel leol hefyd yn hanfodol er mwyn cyflawni graddau'r newidiadau sydd eu hangen. Yn yr hirdymor, mae'n debygol y bydd angen newid sefydliadol. Yn y byrdymor, mae gwell ymgysylltu ar lefel leol yn gam cyntaf pwysig.
ARGYMHELLIAD: Dylid cyllido hwyluswyr lleol er mwyn helpu perchenogion tir i greu coetiroedd, helpu i sicrhau bod y coed iawn yn y mannau iawn, nodi safleoedd ar gyfer y Goedwig Genedlaethol a meithrin ein dealltwriaeth o'r galw i greu coetiroedd ar lefel leol.
Y tu hwnt i 2025, gall y Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig chwarae rhan allweddol wrth gyllido cynigion i greu a rheoli coetiroedd ar ffermydd yng Nghymru. Mae'r cynllun wrthi'n cael ei ddatblygu o hyd, ond mae'n debygol y bydd creu coetiroedd yn rhan o gynllun integredig, ac y bydd gofynion eraill ar ffermwyr a chyfraddau talu yn seiliedig ar ganlyniadau rheoli tir yn gynaliadwy. Bydd hyn yn golygu y bydd angen cymorth ar wahân i berchenogion tir nad ydynt yn gymwys i ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Bydd yn bwysig sicrhau bod y cynllun yn dysgu gwersi o gymorth blaenorol i goetiroedd, ac y caiff gwelliannau eu cadw. Dylai'r cynllun gefnogi coetiroedd llydanddail a choetiroedd cynhyrchiol ar gyfer pren.
Bydd yn bwysig sicrhau bod y cynllun yn syml i ffermwyr ryngweithio ag ef, a'i fod yn caniatáu i gyllid preifat gael ei gyfuno â chymorth o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae rhai o aelodau'r gweithgor o'r farn y byddai cynlluniau ar wahân ar gyfer coetiroedd a thir amaethyddol yn ffordd fwy effeithiol o sicrhau hyn.
Bydd sicrhau bod y broses caniatadau yn briodol a rhoi cyngor y gellir ymddiried ynddo yn elfen allweddol o'r dull hwn o weithio ar sail prosesau. Byddai'n amhosibl cynyddu gwaith plannu ar ffermydd heb y cam hwn.
ARGYMHELLIAD: Pan gaiff y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ei gyflwyno, rhaid sicrhau bod cyllid clir ar gael i ffermwyr a pherchenogion tir eraill. Roedd gwahanol safbwyntiau yn y grŵp am y ffordd orau o integreiddio hyn â chymorth ffermio arall.
Modelau cyllido coetiroedd
Mae'r gweithgor wedi ystyried nifer o opsiynau ar gyfer sicrhau cyllid i greu coetiroedd mewn ffordd sy'n sicrhau perchenogaeth leol neu reolaeth reol dros brosiectau. Byddai rhai o'r opsiynau hyn yn cymryd mwy o amser i'w gweithredu nag eraill, ac ni chynhaliwyd asesiad manwl ar gyfer unrhyw opsiwn eto. Byddai angen rhagor o waith ar rai ohonynt er mwyn datblygu achosion busnes cyn eu rhoi ar waith. Mae'n bosibl hefyd y bydd angen pwerau newydd nad oes gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd ar rai ohonynt. Gellir trefnu'r opsiynau a ystyriwyd a'u gosod o dan y categorïau isod. Aseswyd pob opsiwn yn seiliedig ar ei addasrwydd strategol, gwerth am arian, y gallu i'w gyflawni a'i fforddiadwyedd.
Cyllid cyfunol o fewn cynlluniau grant sy'n bodoli eisoes
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid creu coetiroedd ar gyfer plannu coed ar sail ‘costau llawn neu ddim byd’. Telir costau llawn plannu'r coed i hawlwyr ac ni chaniateir iddynt gael taliadau gan unrhyw ffynhonnell arall ar gyfer yr un gweithgaredd. Un ffordd o annog buddsoddiad gan y sector preifat mewn creu coetiroedd fyddai newid hyn. Mae sawl ffordd y gellid cyflawni hyn:
- Gostyngiad mewn cyfraddau cyllid grant, gan ei gwneud hi'n ofynnol i bob ymgeisydd godi rhywfaint o'r cyllid yn breifat.
- Yr opsiwn i wneud cais am gyfradd grant is, gyda cheisiadau yn cael eu ffafrio os byddant wedi llwyddo i drefnu cyllid preifat.
Er enghraifft mae cynllun newydd English Woodland Creation yn cynnig opsiwn lle gellir optio allan o Gyfraniadau Ychwanegol a defnyddio cyllid preifat yn lle hynny. Bydd ceisiadau yn cael sgôr uwch lle byddant yn gwneud hynny.
Gellid cyflwyno'r opsiwn hwn hefyd fel rhan o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd, lle y bydd taliadau yn seiliedig ar ganlyniadau yn hytrach na chostau. Gellid dylunio hyn fel bod Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn talu'r gwahaniaeth rhwng y cyllid a ddarperir gan y sector preifat a'r swm sydd ei angen er mwyn i'r cynnig i greu coetiroedd fod yn hyfyw yn ariannol.
Mae'n debygol mai dim ond cynnydd bach yn y coetiroedd sy'n cael eu creu y byddai'r model hwn yn ei greu, o ystyried y gyllideb benodol. Mae'n bosibl y byddai caniatáu cyllid cyfunol yn ei gwneud hi'n haws i berchenogion tir presennol sicrhau cyllid preifat ar lefel realistig, heb ddibynnu arno'n llwyr i sicrhau bod y cynnig yn hyfyw yn ariannol.
Fodd bynnag, byddai angen ei ddylunio mewn ffordd sy'n osgoi symud y cydbwysedd o blaid buddsoddwyr mwy y mae prosiectau yn fwy tebygol o fod yn hyfyw yn ariannol iddynt ar lefelau grant is.
Ar hyn o bryd, mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer creu coetiroedd yn gymharol hael a gallai fod yn anodd darbwyllo pobl i ddewis rhai o'r modelau amgen a restrir isod heb newid y system grantiau bresennol hefyd.
Modelau Cymunedol fel Awel Aman Tawe a Daw Eto Ddail ar Fryn
Mae cwmni cydweithredol Awel Aman Tawe yn gweithredu dau dyrbin gwynt yn ne Cymru. Mae'r aelodau yn gwneud elw ar eu buddsoddiad sy'n dibynnu ar gost trydan. Mae'r cynllun yn darparu cyfradd elw o 4% i aelodau, y mae ganddynt rai hawliau cyfyngedig o ran sut y caiff y cwmni cydweithredol ei redeg. Mae hefyd wedi rhoi cyfranddaliadau i ysgolion a sefydliadau cymunedol lleol.
Gellid addasu model Awel Aman Tawe ar gyfer creu coetiroedd. Gallai hyn gynnwys sefydlu cwmni cydweithredol sy'n prydlesu tir gan ffermwyr/perchenogion tir eraill er mwyn plannu coetiroedd, gyda'r elw yn dod o incwm y pren a/neu garbon. Fodd bynnag, byddai angen ystyried ymhellach a fyddai'r model yn gweithio o ystyried y diffyg elw am y 15 mlynedd cyntaf (oni fydd gwerthu Unedau Dyroddi Arfaethedig yn rhoi elw cychwynnol).
Prosiect creu coetiroedd ym Mannau Brycheiniog yw Daw Eto Ddail ar Fryn. Mae ei brosiect Bryn Arw wedi creu 61 hectar o goetir ar dir comin wedi'i orchuddio â rhedyn. Mae'n ceisio dangos y gellir creu coetiroedd heb effeithio ar brosesau cynhyrchu bwyd na bioamrywiaeth. Mae ymgysylltu â'r gymuned yn rhan bwysig o'r prosiect. Gwerthwyd yr Unedau Dyroddi Arfaethedig yn syth cyn plannu'r coed er mwyn creu incwm. Mae'r grŵp hefyd yn ceisio darparu taliadau i ffermwyr lleol blannu coetiroedd, gan adlewyrchu trefniadau cynllun Glastir – Creu Coetir. Mae hyn yn cynnwys derbyn cyllid CSR gan sefydliadau i ariannu'r gwaith o blannu coed ar ffermydd, gyda'r carbon yn darparu incwm hirdymor i'r ffermwyr.
Byddai modd creu cynlluniau tebyg ledled Cymru. Mae'r cynlluniau hyn yn dibynnu ar arbenigwyr lleol a all ymgysylltu â pherchenogion tir a chymunedau. Byddai nodi unigolion o'r fath a rhoi cymorth iddynt yn allweddol er mwyn creu cynlluniau tebyg. Byddai hefyd yn bwysig cael system adborth er mwyn i arbenigwyr lleol allu cyfrannu at ddarlun cenedlaethol ynghylch faint o goetiroedd y gellid o bosibl eu creu.
Gwarantau Carbon Coetiroedd
Yn Lloegr, caiff y Warant Carbon Coetiroedd ei gweithredu gan y Comisiwn Coedwigaeth. Mae'r warant yn cynnig opsiwn i reolwyr tir werthu unedau carbon coetiroedd i Lywodraeth y DU am bris sy'n gysylltiedig â mynegeion unwaith y caiff credydau eu creu. Nid oes angen i reolwyr tir fanteisio ar yr opsiwn os bydd pris preifat carbon yn uwch ar yr adeg pan fyddant am werthu.
Caiff pris y warant ei bennu drwy ocsiynau lleihau pris, lle bydd perchenogion tir yn cyflwyno cynigion am y pris yr hoffent ei gael, gyda'r cynnig isaf yn fuddugol. Cynhaliwyd pedair ocsiwn hyd yn hyn, a nodir y canlyniadau isod.
Cyfanswm y cynigion | Cynigion llwyddiannus | Cyfanswm yr arwynebedd (ha) | Pris cyfartalog | |
---|---|---|---|---|
Ion/Chwef 2020 |
31 |
18 |
182 |
£24.11 |
Mehefin 2020 |
77 |
27 |
1,517 |
£19.71 |
Hydref 2020 |
46 |
31 |
620 |
£17.31 |
Awst 2021 |
23 |
19 |
331 |
£20.32 |
Yn Lloegr, gall cynigwyr gael grantiau creu coetiroedd ochr yn ochr â'r cynllun ocsiynau h.y. mae'n gost (atebolrwydd) ychwanegol i Lywodraeth y DU yn ogystal â chyllid grant. Fodd bynnag, byddai'n bosibl ei gynnig fel dewis amgen i gyllid creu coetiroedd, neu ochr yn ochr â lefel is o gymorth grant.
Gallai gwarant leihau rhai o'r risgiau sy'n gysylltiedig â buddsoddi mewn creu coetiroedd i fuddsoddwyr bach a mawr, a chan ddibynnu ar bris carbon yn y dyfodol, gallai olygu cost isel i'r Llywodraeth. Fodd bynnag, mae risg y bydd yn fwy deniadol i fuddsoddwyr mawr na pherchenogion tir presennol. Gallai fod yn alluogwr da o ran rhai o'r opsiynau a drafodir isod. Byddai angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i brynu credydau carbon, a gallai sefydliadau sydd yn erbyn defnyddio dulliau gwrthbwyso ei beirniadu am hyn.
Byddai materion allweddol yn cynnwys y fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu'r warant, a sut i bennu lefel pris y warant ac a fyddai'r farchnad yng Nghymru yn ddigon mawr i broses ocsiynau lleihau pris fod yn hyfyw. Gellid ystyried yr opsiwn gan ddefnyddio'r llwyfan ar-lein a ddefnyddir yn Lloegr.
Model Partneriaeth
Gellid creu dull Partneriaeth Coedwig ranbarthol neu ddalgylch, wedi'i ariannu o bosibl drwy gronfa sbarduno gan Lywodraeth Cymru i gydgysylltu, defnyddio daliadau tir lluosog, ffrydiau cyllido a meithrin cydberthnasau rhwng ffermwyr a buddsoddwyr.
Nid yw cydberthnasau traddodiadol sy'n bodoli ers degawdau neu o bosibl ganrifoedd yn gydnaws â threfniadau rhannu tir safonol:
- nid yw treth incwm, rhyddhad IHT na rhyddhad Eiddo Amaethyddol yn addas ar gyfer tenantiaethau hirdymor na defnyddio Cwmnïau Cyfyngedig.
- Ar hyn o bryd, mae defnyddio rheolwyr i reoli tir yn allweddol i holl Gynlluniau Grant Llywodraeth Cymru.
- Nid yw gofynion atchwelog tenantiaethau busnes Deddf 1954 yn gydnaws â deddfwriaeth goedwigaeth bresennol.
Er mwyn galluogi ffermwr a buddsoddwr i gydweithio, byddai angen cytundeb partneriaeth. Gall hyn greu cymhlethdodau oherwydd mae'n bosibl y bydd buddsoddwyr am gynyddu eu buddsoddiad ac na fydd gan ffermwr unigol y gallu neu'r awydd i wneud hynny.
Gallai model partneriaeth hwyluso cydberthnasau lle gellid ymgysylltu â sawl ffermwr a buddsoddwr a datblygu'r cydberthnasau hynny ymhellach. Gallai creu hybiau lleol daearyddol hybu gwell trefniadau ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol a galluogi i fuddiannau ychwanegedd coedwigo gael eu hystyried ar raddfa tirwedd. Drwy weithredu fel porth i'r rheini sy'n awyddus i fuddsoddi mewn coedwigo, gallai'r model geisio creu pecynnau wedi'u proffilio yn ôl y math o fuddsoddiad sydd ei angen a'r ffrwd incwm ddymunol i'r ffermwr.
Er enghraifft, gallai ffermwr ddewis y canlynol:
- Peidio â chwarae rhan uniongyrchol – Bydd dim ond am gael ffrwd incwm o'r tir, cytundeb cyfnod penodol.
- Chwarae rhan uniongyrchol – Bydd am gael ffrwd incwm ond bydd hefyd am gyflwyno tendr ar gyfer gwaith contract posibl mewn perthynas â sefydlu a rheoli.
- Ecwiti – Gallai fod ar ffurf y naill neu'r llall o'r ddau uchod ond bydd ganddo hefyd rywfaint o ecwiti i'w fuddsoddi ond ni all dalu'r holl gostau sefydlu cychwynnol.
A gallai fod gan fuddsoddwyr y nodweddion canlynol:
- Bach – person neu fusnes lleol o bosibl sy'n awyddus i greu cyfle pensiwn/gwrthbwyso carbon.
- Canolig – busnes bach neu ganolig sy'n awyddus i wrthbwyso carbon a chyflawni nodau neu ganlyniadau CSR, gall fod ganddo ryw fath o fuddiant mewn deunyddiau pren e.e. corff ENGO, cymdeithas dai, awdurdod lleol
- Mawr – Sefydliad/Corfforaeth, corff sector cyhoeddus mawr naill ai ag/ac ysgogwyr CSR/Amgylcheddol cadarn, incwm carbon, Pren/Cynnyrch mewn portffolio buddsoddi cyfunol.
Byddai'r model yn anelu at greu cydberthynas rhwng partneriaethau a all ledaenu'r risg i'r buddsoddwr gan ar yr un pryd gynnal ffrwd incwm i'r grŵp o ffermwyr.
Mewn egwyddor, mae'r model hwn yn addas yn strategol gan ei fod yn annog buddsoddiad preifat ond hefyd yn caniatáu i ffermwyr gadw rheolaeth dros eu tir a dewis i ba raddau y byddant yn arallgyfeirio gweithgareddau presennol y fferm. Mae hyn yn dibynnu ar allu pennu model a fyddai'n darparu elw digonol i ddarpar fuddsoddwyr a lefel addas o gymhelliant i ffermwyr. Fel gyda modelau eraill, byddai'n heriol gwneud i fodel weithio i ffermwyr sy'n denantiaid.
ARGYMHELLIAD: Dylid defnyddio cyfran o'r gyllideb creu coetiroedd dros y 3 mlynedd nesaf i gynnal cynlluniau peilot o ddulliau o ddod o hyd i gyllid preifat. Dylai'r gweithgor ystyried ffurf y cynlluniau peilot hyn erbyn diwedd mis Ebrill 2022, gan ystyried opsiynau gan gynnwys gwarant carbon a threfniadau partneriaeth i gyflwyno opsiynau cyllid cyfunol.
Cwmni budd y cyhoedd wedi'i gyllido gan ddyledion
Er y gallai'r opsiynau uchod helpu i ddenu cyllid preifat, roedd rhai o aelodau'r gweithgor o'r farn bod angen newid sefydliadol mwy sylfaenol mewn ymateb i faint yr her, a hynny o ran denu cyllid ond hefyd o ran adnoddau rheoli prosiect er mwyn rheoli lefel y newidiadau sydd eu hangen.
Gellid cyflawni hyn drwy greu cwmni budd y cyhoedd cenedlaethol a fyddai'n cyfuno craffter ariannol â gwerthoedd cymdeithasol ac yn defnyddio cyllid preifat i gyrraedd targedau plannu cenedlaethol uchelgeisiol. Byddai gwaith plannu a chyrraedd targedau yn cael ei ddirprwyo i sefydliadau rhanbarthol neu ddalgylch lefel is.
Byddai'r cwmni budd y cyhoedd yn ymdrin ag ansicrwydd drwy ddefnyddio cyllid o wahanol ffynonellau ac wedyn ddyrannu'r cyllid hwnnw i wahanol eitemau wrth i amgylchiadau newid. I ddechrau, byddai'r cwmni yn cael ei gyllido gan ddyledion drwy ddyroddi bondiau, ond gallai'r model codi arian a ffefrir newid dros oes y rhaglen. Byddai'r cwmni yn gallu manteisio ar gyfleoedd presennol (yn benodol, cyfraddau llog isel iawn) ond gan adael materion heb eu datrys a pheidio â diystyru opsiynau. Mae'r cynnig ar gyfer sefydliad dwy haen gydag (a) asiantaeth genedlaethol i Gymru ar ffurf cwmni budd y cyhoedd ar y lefel uchaf yn trefnu cyllid i ddosbarthu i (b) partneriaethau coedwig rhanbarthol neu ddalgylch, sy'n cynllunio, yn plannu ac yn cyflawni.
Byddai angen gwaddol ar gwmni o'r fath i greu'r cronfeydd wrth gefn sydd eu hangen ar y fantolen i alluogi'r cwmni i fenthyca ar gyfraddau llog isel. Mae dwy ffynhonnell bosibl:
- Gwaddol arian parod gan Lywodraeth Cymru lle byddai effaith luosogi oherwydd gallai gwaddol o £50 miliwn fod yn ddigon ar gyfer bond a ddyroddwyd am £250 miliwn.
- Yn ail, gallai fod gwaddol adnoddau ar gyfer rhan o Ystad Llywodraeth Cymru, neu'r Ystad gyfan. Fodd bynnag, os caiff dyledion eu sicrhau yn erbyn asedau coedwig yng Nghymru, dylid felly werthu'r bondiau i gronfeydd pensiwn awdurdodau lleol yng Nghymru, neu fuddsoddwyr budd y cyhoedd eraill yng Nghymru oherwydd, yn yr achos gwaethaf, caiff yr asedau eu trosglwyddo i ddeiliad y bond pan gaiff unrhyw gyfamodau eu torri.
Mae'n bosibl y byddai cwestiynau moesegol ynghylch parodrwydd Llywodraeth Cymru i dderbyn cyllid gan wahanol fathau o fuddsoddwyr a/neu i werthu credydau carbon i wahanol sectorau (e.e. beirniadu Llywodraeth yr Alban am ganiatáu achos o ‘wyrddgalchu’ drwy dderbyn arian gan Shell ar gyfer plannu coed).
Rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd ystyried y ffordd orau o integreiddio'r awydd i sicrhau cyllid ar gyfer creu coetiroedd â meysydd eraill lle mae angen buddsoddiad preifat, fel ynni adnewyddadwy a gwasanaethau ecosystem eraill.
ARGYMHELLIAD: Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Cwmni Budd y Cyhoedd sy'n canolbwyntio ar greu coetiroedd drwy brosiectau cyllido a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, wedi'u cyllido drwy ddyroddi bondiau gwyrdd. Gallai'r cwmni hwn hefyd fod yn gyfrifol am greu'r Goedwig Genedlaethol yng Nghymru. Dylid cwblhau'r astudiaeth o fewn 12 mis.