Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am weithgarwch asesu a diogelu gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Cyhoeddwyd Cod Ymarfer newydd mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ar 1 Ebrill 2020. Cyflwynodd y cod fframwaith perfformiad a gwella newydd ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol, a oedd yn manylu ar gyfres o fetrigau i’w casglu o dan yr adran ‘Mesur Gweithgarwch a Pherfformiad’. Dyma’r tro cyntaf i’r metrigau perfformiad hyn gael eu casglu a’u cyhoeddi.

Mae rhywfaint o’r data a gofnodwyd yn y gyfres newydd o fetrigau wedi’u casglu o’r blaen drwy gasgliadau Oedolion sy’n derbyn Gofal a Chymorth, Diogelu Oedolion, a Phlant sy’n derbyn Gofal a Chymorth (yn eu crynswth); ac fe gawsant eu cyhoeddi ddiwethaf fel rhan o gyhoeddiad Gweithgarwch Gwasanaethau Cymdeithasol: Ebrill 2018 i Mawrth 2019. Mae data 2020-21 yn seiliedig ar ganllawiau manylach wedi’u hategu gan gatalog diffiniadau. Fodd bynnag, gellir ystyried bod y data’n cyd-fynd yn fras â’r hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol.

Dylid ystyried bod yr ystadegau’n rhai arbrofol.

Prif bwyntiau

Oedolion

Yn ystod y flwyddyn 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021

  • Cafodd y gwasanaethau cymdeithasol statudol 149,591 o gysylltiadau am wasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth (IAA) i oedolion.
  • Cwblhawyd 73,658 o asesiadau newydd ar gyfer oedolion.
  • Cafwyd 20,629 o adroddiadau ynghylch oedolion yr amheuir eu bod mewn perygl. Daeth 23% gan yr heddlu a daeth 22% gan ddarparwr gwasanaethau gofal a chymorth neu wasanaethau cymorth i ofalwyr. Roedd 34% o'r adroddiadau am gamdriniaeth a honnir yn dod o dan y categori esgeulustod (gellir amau mwy nag un categori mewn adroddiad).
  • Arweiniodd 54% o adroddiadau am oedolion yr amheuir eu bod mewn perygl at wneud ymholiadau. O’r rhain, penderfynwyd y dylid cymryd camau pellach ar gyfer 39% ohonynt.
  • Cafodd y gwasanaethau cymdeithasol statudol 6,841 o gysylltiadau gan ofalwyr sy’n oedolion neu weithwyr proffesiynol sy'n cysylltu â'r gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth ar eu rhan(a).
  • Cwblhawyd 6,683 asesiad newydd ar gyfer gofalwyr sy’n oedolion.

(a) Dim ond hyd at 23 Tachwedd 2020 y llwyddodd un awdurdod lleol i ddarparu data oherwydd symud i system TGCh newydd.

Ar 31 Mawrth 2021

  • Roedd gan 46,585 oedolyn gynllun gofal a chymorth, ac roedd gan 11% o’r rhain gynllun gofal a chymorth wedi'i gefnogi gan ddefnyddio Taliad Uniongyrchol(b).
  • Roedd gan 2,116 o ofalwyr sy’n oedolion gynllun cymorth(c).

(b) Nid oedd un awdurdod lleol yn gallu darparu'r data hwn.
(c) Nid oedd tri awdurdod lleol yn gallu darparu'r data hwn.

Plant a theuluoedd

Yn ystod y flwyddyn 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021

  • Cafodd y gwasanaethau cymdeithasol statudol 176,408 o gysylltiadau am wasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth (IAA) i blant.
  • Cwblhawyd 47,950 o asesiadau newydd ar gyfer plant.
  • Cafodd 3,868 o blant eu rhoi ar y gofrestr amddiffyn plant. Ychwanegwyd 41% o dan y categori cam-drin emosiynol. Cafodd 4,065 o blant eu tynnu oddi ar y gofrestr amddiffyn plant.
  • Cafodd y gwasanaethau cymdeithasol statudol 1,163 o gysylltiadau gan ofalwyr ifanc neu weithwyr proffesiynol sy'n cysylltu â'r gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth ar eu rhan(d).
  • Cwblhawyd 806 o asesiadau newydd ar gyfer gofalwyr ifanc(e).

(d) Nid oedd tri awdurdod lleol yn gallu darparu'r data hwn.
(e) Nid oedd dau awdurdod lleol yn gallu darparu'r data hwn.

Ar 31 Mawrth 2021

  • Mae gan 18,827 o blant gynllun gofal a chymorth, ac roedd gan 7% gynllun gofal a chymorth wedi'i gefnogi gan ddefnyddio Taliad Uniongyrchol(f).
  • Roedd 3,140 o blant ar y gofrestr amddiffyn plant.

(f) Nid oedd dau awdurdod lleol yn gallu darparu'r data hwn.

Gwariant

Gwariodd awdurdodau lleol £2.3 biliwn ar wasanaethau cymdeithasol yn 2020-21. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 12.7% ar y flwyddyn flaenorol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler datganiad refeniw a gwariant cyfalaf alldro awdurdodau lleol: Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Datganiad Ansawdd

Gweithiodd Llywodraeth Cymru gydag awdurdodau lleol i gasglu ystadegau ar weithgareddau gwasanaethau cymdeithasol drwy'r metrigau newydd. Darparwyd dogfen gyfeirio i awdurdodau lleol a oedd yn cynnwys diffiniadau manwl i geisio sicrhau cydlyniad o fewn ac ar draws sefydliadau.

Dyma'r tro cyntaf y casglwyd data ar gyfer y metrigau, ac adrodd arnynt. Gan fod hwn yn gasgliad newydd, rydym wedi nodi materion ansawdd data yr ydym yn disgwyl eu gwella dros amser. Yn fras, mae'r rhain yn ymwneud â data coll ac anghysondebau yn y ffordd yr adroddir ar ddata rhwng awdurdodau lleol.

Mae data coll yn bennaf yn cynnwys lle na ellir casglu neu adrodd ar ddata'n effeithiol oherwydd materion yn ymwneud â'r system ddata mewn awdurdodau lleol. Lle na ddarparwyd data ar gyfer 2020-21, rhoddwyd rhywfaint o sicrwydd bod newidiadau pellach yn cael eu gwneud i systemau i ganiatáu adrodd ar gyfer 2021-22. Mae anghysondebau adrodd yn debygol o gael eu hesbonio gan ddehongliadau gwahanol o ran sut y dylid cofnodi data. Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i wella cysondeb yn y dyfodol.

Ar gyfer oedolion (gan gynnwys oedolion sy'n ofalwyr), mae data ar gyfer 21 allan o 43 o fetrigau wedi'u cyhoeddi. Mae eitemau data ychwanegol ar ddiogelu hefyd wedi'u cyhoeddi. Ar gyfer plant (gan gynnwys gofalwyr ifanc), mae data ar gyfer 23 allan o 69 o fetrigau wedi'u cyhoeddi. Mae data sy'n ymwneud â phlant sy'n derbyn gofal wedi'i gyhoeddi fel rhan o'r data Plant sy'n Derbyn Gofal (StatsCymru).

Yn gyffredinol, mae'r data a gyhoeddwyd yn cynnwys data o bob un o'r 22 awdurdod lleol. Fodd bynnag, nid oedd pob awdurdod lleol yn gallu darparu data ar gyfer rhai metrigau, gyda 3 awdurdod lleol ar y mwyaf heb ddarparu data (cwmpas 86%) ar gyfer y metrigau hynny a gyhoeddwyd. Dim ond fel arwydd o'r gweithgarwch a adroddwyd gan yr awdurdodau lleol a ddewiswyd y gellir defnyddio'r data hwn ac nid ydynt yn cynrychioli sefyllfa Cymru gyfan.

Heb ei gynnwys yma ond wedi’i gyhoeddi ar StatsCymru mae data ar lefel awdurdodau lleol, lle barnwyd bod ansawdd yn ddigon cadarn i'w adrodd. Mae amrywiaeth ar draws awdurdodau lleol ac ymchwilir ymhellach i wahaniaethau gydag awdurdodau lleol. Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i wella ansawdd data.

Ar gyfer metrigau lle na chyhoeddwyd data, mae data coll ym mhob achos.

Hoffem gael adborth gennych

Croesawn adborth ar yr ystadegau hyn. Defnyddiwch y ffurflen adborth amgaeedig i roi adborth.

Adroddiadau

Gweithgarwch Gwasanaethau Cymdeithasol, Ebrill 2020 i Fawrth 2021: ffurflen adborth , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 71 KB

DOCX
71 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.