Neidio i'r prif gynnwy

Data ar coronafeirws ac ar weithgarwch a chapasiti’r GIG hyd at 24 Mehefin 2020.

Ystadegau am y coronafeirws:

  • achosion
  • marwolaethau
  • nifer yn yr ysbyty
  • derbyniadau newydd i’r ysbyty
  • gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yng Nghymru
  • gwelyau cyffredinol ac acíwt yng Nghymru
  • galwadau brys am ambiwlans
  • galwadau 111 a galw iechyd Cymru
  • derbyniadau i adrannau dacab
  • absenoldeb staff y GIG

Rydym bellach wedi dadansoddi data am cleifion mewn ysbytai yn ôl y rhai sydd wedi'u cadarnhau, cleifion posibl neu sy'n gwella o COVID-19. Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth, gan gynnwys nodyn ar derminoleg ar gyfer gofal critigol ac ansawdd data yn fwy cyffredinol.

Cyhoeddwyd hwy i ddarparu’r data diweddaraf. Bydd yr ystadegau’n cael eu defnyddio gan Brif Weithredwr y GIG yn ei gynhadledd wythnosol i’r wasg.

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.

Rydym hefyd yn cyhoeddi data yn wythnosol ar y profion ar gyfer coronafirws (COVID-19).

Adroddiadau

Gweithgarwch a chapasiti’r GIG yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19): 25 Mehefin 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Gweithgarwch a chapasiti’r GIG yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19): 25 Mehefin 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 178 KB

ODS
178 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.