Neidio i'r prif gynnwy

Data ar coronafeirws ac ar weithgarwch a chapasiti’r GIG hyd at 22 Mehefin 2021.

Ystadegau am y coronafeirws:

  • nifer yn yr ysbyty
  • derbyniadau newydd i’r ysbyty
  • gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yng Nghymru
  • gwelyau cyffredinol ac acíwt yng Nghymru

Mae ystadegau am absenoldeb staff y GIG ar gael ar StatsCymu yn ogystal â’r holl ystadegau eraill yn y datganiad hwn. Yn ogystal, cyhoeddir gwybodaeth am welyau, nifer y cleifion yn yr ysbyty a derbyniadau i’r ysbyty ar ddyddiau'r wythnos ar StatsCymru am 12 yp ac mae hyn yn cynnwys data hyd at y diwrnod cynt. Ar ôl 12yp ar ddydd Iau, ni fydd y data a ddangosir yn y datganiad yma yn cynnwys y data cyhoeddedig diweddaraf. Fodd bynnag, mae'r datganiad wythnosol yma yn rhoi sylwebaeth ychwanegol ar dueddiadau yn y data.

Mae'r datganiad hwn yn canolbwyntio ar gyflwyno data yn ymwneud â chapasiti a gweithgarwch yn ysbytai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn unig. Mae gwybodaeth gyd-destunol ehangach fel nifer yr achosion a marwolaethau yn parhau i fod ar gael ar ddangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn cael ei chyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Rydym hefyd yn cyhoeddi data yn wythnosol ar y profion ar gyfer coronafirws (COVID-19).

Gweler dangosfwrdd Llywodraeth y DU i gael gwybodaeth am brofion, achosion, marwolaethau a gofal iechyd ar lefel y DU. Nodwch fod y data gofal iechyd a gyflwynir yn nangosfwrdd y DU yn wahanol i’r cyhoeddiad hwn. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaethau hyn ar gael yn yr adran ansawdd a methodoleg yn y cyhoeddiad HTML.

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.

O 17 Mehefin 2021, newidiwyd cynnwys y datganiad hwn. Gweler adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg i gael rhagor o fanylion am y newidiadau hyn.

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.