Neidio i'r prif gynnwy

1. Gweithgaredd a chapasiti ysbyty

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol. Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar riportio gwybodaeth reoli, ansawdd data a thryloywder.

Yn dilyn gwaith dilysu pellach, penderfynwyd nad oedd cwmpas data cyn 1 Ebrill 2020 ar gyfer derbyniadau, cyfnodau yn yr ysbyty a defnydd gwelyau yn addas i’w gyhoeddi. Felly, bydd y gyfres amser yn dechrau ar 1 Ebrill 2020.

Mae ffigurau ar dderbyniadau, cyfnodau yn yr ysbyty a defnydd gwelyau yn cynnwys data o ysbytai acíwt o 1 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai maes o 20 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai cymunedol o 23 Ebrill 2020 ymlaen ac unedau iechyd meddwl o 10 Gorffennaf 2020 ymlaen. Yr wythnos hon, mae data o unedau iechyd meddwl wedi’u cynnwys yn ôl-weithredol o 10 Gorffennaf ymlaen. Diben hyn yw creu darlun mwy cynhwysfawr ar draws ysbytai. Bydd y ffigurau rhwng 10 Gorffennaf a 12 Awst, felly, yn wahanol i’r hyn a gyhoeddwyd o’r blaen. Cafodd cynnwys gwelyau iechyd meddwl effaith fach ar ffigurau cleifion COVID-19 ond effaith fawr ar ffigurau cyfnodau yn yr ysbyty gan nad cleifion COVID-19 yw’r mwyafrif o gleifion iechyd meddwl.   

Gweler dangosfwrdd Llywodraeth y DU i gael gwybodaeth am gofal iechyd ar lefel y DU. Nodwch bod y data gofal iechyd a gyflwynwyd yn nangosfwrdd y DU yn wahanol i’r cyhoeddiad hwn. Mae dangosfwrdd y DU yn cynnwys data ar gyfer ysbytai acíwt i alluogi dwyn gwell cymhariaeth â gwledydd eraill, ond mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data o ysbytai acíwt, cymunedol a maes. Cyhoeddir amcangyfrifon o nifer y bobl a gafodd y coronafeirws yng Nghymru a Lloegr hefyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn yr Arolwg o Heintiadau Coronafeirws

Sylwch fod y data gwyliadwraeth gofal iechyd a gyflwynir yn nangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wahanol i'r hyn sydd yn y cyhoeddiad hwn. Mae dangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn defnyddio data a gesglir yn systematig drwy ICNET, y system data rheoli heintiau mewn ysbytai a ddefnyddir ledled Cymru. Mae'n cynnwys cleifion mewnol mewn ysbytai sydd wedi cael cadarnhad o’u prawf drwy labordy ac nid yw'n cyfrif unrhyw gleifion a gafodd eu derbyn a'u rhyddhau yr un diwrnod. Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn defnyddio data a geir o wybodaeth reoli ddyddiol a ddarperir gan fyrddau iechyd. Gall dulliau casglu data amrywio o un bwrdd iechyd i’r llall. Mae'n cynnwys cleifion yr amheuir bod y clefyd arnynt, cleifion y cadarnhawyd ei fod arnynt a chleifion sy’n gwella ohono. Mae hefyd yn cynnwys cleifion nad yw COVID-19 arnynt. Bydd y diffiniad culach a ddefnyddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn debygol o arwain at nifer lai o dderbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID o gymharu â'r hyn a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n ddull systematig o gynnal gwyliadwriaeth ar gleifion y mae angen iddynt aros yn yr ysbyty os cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt.

Mae tablau cysylltiedig ar gael am y datganiad hwn, gan gynnwys yr holl ddata isod a hefyd data ar welyau cyffredinol ac acíwt, galwadau 111 a galw iechyd Cymru, absenoldeb staff y GIG a galwadau brys am ambiwlans.

Image
Mae Siart 1 yn dangos nifer y cleifion sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty bob dydd gyda COVID-19 wedi'i gadarnhau neu yr amheuir ei fod rhwng 1 Ebrill 2020 a 19 Awst. Yn gyfan gwbl, mae derbyniadau wedi lleihau, ond mae'r ffigyrau dyddiol yn gyfnewidiol iawn. Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae'r cyfartaledd treigl 7 diwrnod o'r nifer y bobl mewn ysbytai ar gyfer COVID-19 wedi aros yn weddol sefydlog yn dilyn cynnydd bach ar 23 Gorffennaf.

Cleifion a dderbyniwyd i’r ysbyty yr amheuir neu y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Yn dilyn ailgyflwyno gweithdrefnau a drefnwyd ymlaen llaw o fis Mehefin ymlaen, cafodd cleifion yr amheuwyd bod ganddynt COVID-19 eu cynnwys yn y niferoedd o achosion posibl o COVID-19 ar adeg y cyfrifiad, hyd yn oed os cawsant brawf negatif yn ddiweddarach. Ers 29 Mehefin, mae cleifion sydd wedi’u derbyn i ysbyty ar gyfer gweithdrefnau a drefnwyd ymlaen llaw wedi’u heithrio o dderbyniadau COVID-19 gan fod cynnwys y rhain wedi chwyddo nifer yr achosion posibl mewn ysbytai ar adeg adrodd.

Image
Mae Siart 2 yn dangos nifer y bobl yn yr ysbyty a gadarnhawyd, a adferodd neu a amheuir gyda COVID-19 rhwng 1 Ebrill 2020 a 19 Awst 2020. Mae nifer y cleifion posibl fod gyda COVID-19 wedi lleihau ychydig ers yr uchafbwynt yng nghanol Ebrill.

Nifer y bobl yn yr ysbyty fel rhai a posibl, a sydd wedi'u cadarnhau neu sy'n gwella gyda COVID-19, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Cleifion sy’n gwella yw cleifion sydd wedi profi’n bositif am COVID ac a oedd wedi bod yn yr ysbyty am 14+ diwrnod heb unrhyw arwyddion na symptomau, ond sy'n dal yn yr ysbyty ar lwybr triniaeth COVID, yn aml ar gyfer adsefydlu. Gofynnwyd i'r byrddau iechyd wneud y newid o 26 Mai 2020. Gwnaeth un bwrdd iechyd y newid ar 22 Mai, yn cynnwys cleifion sy’n gwella yn eu rhifau sydd wedi’u cadarnhau ar gyfer COVID tan 25 Mai.Gwnaeth un bwrdd iechyd y newid ar 8 Mehefin.

Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar y adrodd cleifion sy’n gwella

Rhwng 1 Mai a 22 Mai, dosbarthodd un bwrdd iechyd gleifion COVID-19 ôl-14 diwrnod fel cleifion nad oeddent yn dioddef o COVID-19. Ar 22 Mai, cafodd y cleifion hyn eu hail-gategoreiddio fel cleifion sy'n gwella yn dilyn y canllawiau ynghylch adrodd cleifion sy'n gwella.

Image
Mae Siart 3 yn dangos nifer o welyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol rhwng 1 Ebrill 2020 a 19 Awst 2020. Mae nifer y gwelyau ymledol ymledol a feddiannir gan gleifion COVID-19 wedi lleihau ers uchafbwynt yng nghanol Ebrill, wedyn wedi aros yn sefydlog trwy gydol mis Gorffennaf a dechrau Awst.

Nifer y gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn ôl defnydd, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Ystyr rhif gwaelod yw nifer o welyau roedd ar gael cyn i’r pandemig. Fel arfer mae 152 gwelyau gofal critigol yng Nghymru. Mae nifer y gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn cynnwys capasiti ar gyfer ymchwydd dros dro, a gwelyau y tu mewn a’r tu allan i amgylchedd gofal critigol. Cynhwysir cleifion COVID-19 yn y siart cleifion posibl o COVID-19, cleifion sydd wedi'u cadarnhau, a chleifion sy’n gwella.

Ers Mehefin 2020, mae ysbytai wedi dechrau cau rhywfaint o’r capasiti ychwanegol a oedd wedi’i sefydlu ar gyfer cynydd yn nifer y cleifion yn sgil pandemig COVID-19.

2. Derbyniadau i adrannau dacab

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar riportio gwybodaeth reoli, ansawdd data a thryloywder.

Image
Mae Siart 4 yn dangos bod nifer y mynychiadau damweiniau ac achosion brys yn gostwng yn sydyn o ganol mis Mawrth i oddeutu hanner y nifer flaenorol, yna'n dringo'n araf o ddechrau mis Ebrill, gan ddychwelyd i lefelau yn Chewf ddiwedd dechrau mis Awst.

Nifer y derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, o 1 Chwefror 2020 (MS Excel)

Gan gynnwys derbyniadau i ysbytai Mawr a Bach, drwy bob dull cludo, ar draws Cymru. Nid yw rhai unedau bach Damweiniau ac Argyfwng yn gallu cyflwyno data dyddiol, felly mae'n debyg bod tangyfrif bach yn y cyfanswm sy’n mynychu.

3. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.

Mae’n bosibl y bydd data hanesyddol wedi'u diwygio ac na fyddant, felly, yn union yr un fath â'r hyn a gyhoeddwyd o’r blaen.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

4. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Rachel Dolman
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 120/2020