Neidio i'r prif gynnwy

1. Prif ffigurau cenedlaethol

Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), mae gwybodaeth ddyddiol am gofal iechyd wedi cael ei chasglu'n benodol er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG. Mae'r datganiad yn cynnwys ffigurau ar welyau cymorth anadlu mewnwthiol yn ôl defnydd, derbyniadau cleifion cysylltiedig â COVID-19 i'r ysbyty, a'r nifer a aeth i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.

Mae tablau cysylltiedig ar gael am y datganiad hwn, gan gynnwys yr holl ddata isod a hefyd data ar welyau cyffredinol ac acíwt, galwadau 111 a galw iechyd Cymru, absenoldeb staff y GIG a galwadau brys am ambiwlans.

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol. Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar riportio gwybodaeth reoli, ansawdd data a thryloywder.

Prif bwyntiau

  • Ar 15 Medi 2020, roedd 6 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol mewn defnydd gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, a sy’n gwella), o gymharu â 164 ar y brig ym mis Ebrill.
  • Mae cyfanswm nifer y gwelyau gyda chleifion COVID-19 yn parhau i ostwng. Ar 15 Medi 2020, roedd cleifion COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, a sy’n gwella) cysylltiedig mewn 266 o welyau, gan gyfrif am 3% o'r holl dderbyniadau i'r ysbyty, o'i gymharu â 1,347, sef 29% ar ddiwedd mis Ebrill.
  • Mae nifer y derbyniadau dyddiol newydd o bobl sydd ag achos a amheuir, neu achos wedi'i gadarnhau o COVID-19 yn codi ac yn gostwng yn ddyddiol, ond mae wedi gostwng ar y cyfan ers dechrau mis Mai. Yn y 7 diwrnod diwethaf, cafodd 57 o bobl ar gyfartaledd eu derbyn i'r ysbyty gydag achos wedi'i gadarnhau neu achos a amheuir o COVID-19.

2. Gweithgaredd a chapasiti ysbyty

Mae'r adran hon yn sôn am nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19 a gafodd eu derbyn i'r ysbyty, a'r gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol mewn defnydd gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG yn ystod pandemig COVID-19.

Yn dilyn gwaith dilysu pellach, penderfynwyd nad oedd cwmpas data cyn 1 Ebrill 2020 ar gyfer derbyniadau, cyfnodau yn yr ysbyty a defnydd gwelyau yn addas i’w gyhoeddi. Felly, bydd y gyfres amser yn dechrau ar 1 Ebrill 2020.

O 10 Gorffennaf 2020, Mae ffigurau cynnwys data o ysbytai acíwt, ysbytai maes, ysbytai cymunedol ymlaen ac unedau iechyd meddwl.Mae mathau ysbytai cynwysedig wedi newid dros amser - am fwy o wybodaeth, gwelwch adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg.

Gweler dangosfwrdd Llywodraeth y DU i gael gwybodaeth am gofal iechyd ar lefel y DU. Nodwch bod y data gofal iechyd a gyflwynwyd yn nangosfwrdd y DU yn wahanol i’r cyhoeddiad hwn. Mae dangosfwrdd y DU yn cynnwys data ar gyfer ysbytai acíwt i alluogi dwyn gwell cymhariaeth â gwledydd eraill, ond mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data o ysbytai acíwt, cymunedol a maes er mwyn darparu golwg mwy cyflawn o’r system yng Nghymru . Cyhoeddir amcangyfrifon o nifer y bobl a gafodd y coronafeirws yng Nghymru a Lloegr hefyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn yr Arolwg o Heintiadau Coronafeirws.

Sylwch fod y data gwyliadwraeth gofal iechyd a gyflwynir yn nangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wahanol i'r hyn sydd yn y cyhoeddiad hwn. Mae dangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn defnyddio data a gesglir yn systematig drwy ICNET, y system data rheoli heintiau mewn ysbytai a ddefnyddir ledled Cymru. Mae'n cynnwys cleifion mewnol mewn ysbytai sydd wedi cael cadarnhad o’u prawf drwy labordy ac nid yw'n cyfrif unrhyw gleifion a gafodd eu derbyn a'u rhyddhau yr un diwrnod.

Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn defnyddio data a geir o wybodaeth reoli ddyddiol a ddarperir gan fyrddau iechyd. Darparwyd canllawiau ar gwblhad a chyflwyniad y casgliad data i fyrddau iechyd lleol. Gall dulliau casglu data amrywio o un bwrdd iechyd i’r llall. Mae'n cynnwys cleifion yr amheuir bod y clefyd arnynt, cleifion y cadarnhawyd ei fod arnynt a chleifion sy’n gwella ohono. Mae hefyd yn cynnwys cleifion nad yw COVID-19 arnynt.

Bydd y diffiniad culach a ddefnyddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn debygol o arwain at nifer lai o dderbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID o gymharu â'r hyn a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n ddull systematig o gynnal gwyliadwriaeth ar gleifion y mae angen iddynt aros yn yr ysbyty os cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt.

Derbyniadau i ysbytai

Image
Mae Siart 1 yn dangos nifer y cleifion sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty bob dydd gyda COVID-19 wedi'i gadarnhau neu yr amheuir ei fod rhwng 1 Ebrill 2020 a 15 Medi. Yn gyfan gwbl, mae derbyniadau wedi lleihau, ond mae'r ffigyrau dyddiol yn gyfnewidiol iawn. Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae'r cyfartaledd treigl 7 diwrnod o'r nifer y bobl mewn ysbytai ar gyfer COVID-19 wedi aros yn weddol sefydlog yn dilyn cynnydd bach ar diwedd mis Awst.

Cleifion a dderbyniwyd i’r ysbyty yr amheuir neu y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Mae derbyniadau'n cyfeirio at y nifer o gleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty rhwng 9am ar ddyddiad y diweddariad a 9am y diwrnod blaenorol. Mae derbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys cleifion sydd â COVID-19 neu gleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19.

Ar 13 Mawrth, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y dylai pob gweithgarwch nad oedd yn frys stopio er mwyn paratoi ar gyfer y pandemig. Ar ôl ailgyflwyno triniaethau dewisol o fis Mehefin 2020 ymlaen, cafodd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ac yr amheuwyd bod ganddynt COVID-19 eu cofnodi i ddechrau ymhlith y derbyniadau COVID-19, hyd yn oed os oeddent yn cael prawf negatif yn nes ymlaen. Arweiniodd hyn at ymchwydd yn nifer yr achosion a amheuir yn yr ysbyty ar yr adeg adrodd. O 29 Mehefin, roedd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ddim ond yn cael eu cynnwys mewn derbyniadau COVID-19 os oeddent yn derbyn canlyniad prawf positif am COVID-19 wrth gyrraedd yr ysbyty.

O 29 Mehefin ymlaen, newidiodd y canllawiau hefyd i ofyn yn benodol i fyrddau iechyd eithrio trosglwyddiadau rhwng ysbytai acíwt ac ysbytai cymunedol o'r ffigurau derbyniadau. Cyn hyn, mae'n bosibl bod rhai trosglwyddiadau wedi cael eu cofnodi fel derbyniadau newydd.

Ar 15 Medi 2020:

  • yn gyfan gwbl, mae derbyniadau wedi lleihau, ond mae'r ffigyrau dyddiol yn gyfnewidiol iawn. Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae'r cyfartaledd treigl 7 diwrnod o'r nifer y bobl mewn ysbytai ar gyfer COVID-19 wedi aros yn weddol sefydlog yn dilyn cynnydd bach ar diwedd mis Awst
  • yn y 7 diwrnod diwethaf, cafodd 57 o bobl ar gyfartaledd eu derbyn i'r ysbyty gydag achos wedi'i gadarnhau neu achos a amheuir o COVID-19

Nifer y bobl yn yr ysbyty

Image
Mae Siart 2 yn dangos nifer y bobl yn yr ysbyty a gadarnhawyd, a adferodd neu a amheuir gyda COVID-19 rhwng 1 Ebrill 2020 a 15 Medi 2020. Mae nifer y cleifion posibl fod gyda COVID-19 wedi lleihau ychydig ers yr uchafbwynt yng nghanol Ebrill, wedyn wedi aros yn sefydlog ers mis Awst.

Nifer y bobl yn yr ysbyty fel rhai a posibl, a sydd wedi'u cadarnhau neu sy'n gwella gyda COVID-19, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Cyflwynwyd y categori cleifion sy'n gwella ar 26 Mai er mwyn casglu gwybodaeth am gleifion oedd â COVID-19 wedi'i gadarnhau yn yr ysbyty ond nad oedd yn dangos unrhyw symptomau am 14+ o ddiwrnodau, ond a arhosodd yn yr ysbyty ar lwybr triniaeth COVID-19, yn aml er mwyn adsefydlu. Bu rhai gwahaniaethau o ran adrodd gan fyrddau iechyd yn y gyfres amser sy'n amlinellu'n fanylach yn yr adran Ansawdd Allweddol.

Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar y adrodd cleifion sy’n gwella.

Ar 15 Medi 2020:

  • mae nifer y cleifion posibl fod gyda COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, a sy’n gwella) wedi lleihau ychydig ers yr uchafbwynt yng nghanol Ebrill
  • roedd 266 o welyau gyda cleifion COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, a sy’n gwella), gan gyfrif am 3% o'r holl cleifion yn yr ysbyty, o'i gymharu â 1,347, sef 29% ar ddiwedd mis Ebrill
  • roedd 34 cleifion COVID-19  sydd wedi'u cadarnhau, 160 cleifion posibl COVID-19 ac 72 cleifion COVID-19 sy’n gwella

Gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol

Image
Mae Siart 3 yn dangos nifer o welyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol rhwng 1 Ebrill 2020 a 15 Medi 2020. Mae nifer y gwelyau ymledol ymledol a feddiannir gan gleifion COVID-19 wedi lleihau ers uchafbwynt yng nghanol Ebrill, wedi aros yn weddol sefydlog yn dilyn cynnydd bach ar Medi.

Nifer y gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn ôl defnydd, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Ystyr rhif gwaelod yw nifer o welyau roedd ar gael cyn i’r pandemig. Fel arfer mae 152 gwelyau gofal critigol yng Nghymru. Mae nifer y gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn cynnwys capasiti ar gyfer ymchwydd dros dro, a gwelyau y tu mewn a’r tu allan i amgylchedd gofal critigol. Cynhwysir cleifion COVID-19 yn y siart cleifion posibl o COVID-19, cleifion sydd wedi'u cadarnhau, a chleifion sy’n gwella.

Ers Mehefin 2020, mae ysbytai wedi dechrau cau rhywfaint o’r capasiti ychwanegol a oedd wedi’i sefydlu ar gyfer cynydd yn nifer y cleifion yn sgil pandemig COVID-19.

Ar 15 Medi 2020:

  • mae nifer y gwelyau ymledol ymledol a feddiannir gan gleifion COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, a sy’n gwella) wedi lleihau ers uchafbwynt yng nghanol Ebrill, wedyn wedi aros yn sefydlog ers mis Gorffennaf
  • roedd 6 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol mewn defnydd gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, a sy’n gwella), o gymharu â 164 ar y brig ym mis Ebrill

3. Derbyniadau i adrannau DacAB

Mae'r adran hon yn sôn am dderbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG yn ystod pandemig COVID-19.

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.

Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar riportio gwybodaeth reoli, ansawdd data a thryloywder.

Image
Mae Siart 4 yn dangos bod nifer y mynychiadau damweiniau ac achosion brys yn gostwng yn sydyn o ganol mis Mawrth i oddeutu hanner y nifer flaenorol, yna'n dringo'n araf o ddechrau mis Ebrill, gan ddychwelyd i lefelau yn Chewf ddiwedd mis Awst.

Nifer y derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, o 1 Chwefror 2020 (MS Excel)

Gan gynnwys derbyniadau i ysbytai Mawr a Bach, drwy bob dull cludo, ar draws Cymru. Nid yw rhai unedau bach Damweiniau ac Argyfwng yn gallu cyflwyno data dyddiol, felly mae'n debyg bod tangyfrif bach yn y cyfanswm sy’n mynychu.

Nifer y mynychiadau damweiniau ac achosion brys yn gostwng yn sydyn o ganol mis Mawrth i oddeutu hanner y nifer flaenorol, yna'n dringo'n araf o ddechrau mis Ebrill, gan ddychwelyd i lefelau yn Chewf ddiwedd mis Awst.

4. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.

Mae’n bosibl y bydd data hanesyddol wedi'u diwygio ac na fyddant, felly, yn union yr un fath â'r hyn a gyhoeddwyd o’r blaen.

Gweithgaredd a chapasiti ysbyty

Mae ffigurau ar weithgarwch a chapasiti ysbytai a defnydd gwelyau yn cynnwys data o ysbytai acíwt o 1 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai maes o 20 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai cymunedol o 23 Ebrill 2020 ymlaen ac unedau iechyd meddwl o 10 Gorffennaf 2020 ymlaen, ac yn eithrio data o ysbytai preifat.

Cafodd data o unedau iechyd meddwl eu cynnwys yn ôl-weithredol o 10 Gorffennaf am y tro cyntaf yn natganiad 20 Awst 2020. Cafodd cynnwys gwelyau iechyd meddwl effaith fach ar ffigurau cleifion COVID-19 ond effaith fawr ar yr holl ffigurau ysbytai, gan nad yw’r rhan fwyaf o gleifion iechyd meddwl yn gleifion COVID-19.

Aneurin Bevan adrodd am gleifion a oedd yn gwella o 7 Mehefin ymlaen, ond cofnodwyd y rhain yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau cyn hynny. Roedd Caerdydd a'r Fro yn cyfrif cleifion a oedd yn gwella fel cleifion heb COVID-19 rhwng 1 Mai a 22 Mai. Ar ôl newid y canllawiau, rhoddodd Caerdydd a'r Fro y cleifion hyn mewn categori arall fel cleifion COVID-19, gan eu cofnodi yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau, tan i'r categori gwella gael ei gyflwyno ar 26 Mai.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

5. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 145/2020