Neidio i'r prif gynnwy

Y prif bwyntiau

Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2024

  • Amcangyfrifwyd bod 4.7 miliwn o apwyntiadau wedi'u trefnu mewn practisau cyffredinol, sef gostyngiad o 4.9% ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol. 
  • Mynychwyd 94.8% o'r apwyntiadau, sef cynnydd o 0.3 o bwyntiau canran ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.
  • Amcangyfrifwyd bod 72,000 o apwyntiadau wedi'u trefnu bob diwrnod gwaith, sef lleihad o 6.4% ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol ac amcangyfrifwyd bod 68,000 o apwyntiadau wedi'u mynychu fesul diwrnod gwaith, sef lleihad o 6.1% ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 65.7% o'r apwyntiadau a fynychwyd yn rhai wyneb yn wyneb, sef cynnydd o 1.2 o bwyntiau canran ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 33.0% o'r apwyntiadau a fynychwyd yn rhai o bell, sef lleihad o 1.3 o bwyntiau canran ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 1.3% o'r apwyntiadau a fynychwyd yn ymweliad cartref, cynnydd o 0.1 o bwyntiau canran ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 66.7% o'r apwyntiadau a fynychwyd gyda meddyg teulu neu ragnodydd annibynnol, sef cynnydd o 0.2 o bwyntiau canran ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 33.3% o'r apwyntiadau a fynychwyd gyda nyrs, gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd neu aelod arall o staff clinigol, sef lleihad o 0.2 o bwyntiau canran ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 63.8% o'r apwyntiadau a fynychwyd am resymau cronig, rhesymau a gynlluniwyd neu resymau nad oeddent yn acíwt, sef lleihad o 0.1 o bwyntiau canran ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol. 
  • Roedd 36.2% o'r apwyntiadau a fynychwyd am resymau brys neu acíwt, sef cynydd o 0.1 o bwyntiau canran ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.

Yn ogystal ag apwyntiadau, cafodd:

  • 400,000 o atgyfeiriadau ar gyfer gwasanaethau arbenigol eu gwneud a 160,000 o nodiadau ffitrwydd eu cyhoeddi.
  • 6.5 miliwn o alwadau eu derbyn, sy'n cyfateb i 100,000 bob diwrnod gwaith. Atebwyd chwech allan o ddeg galwad o fewn dwy funud.
  • 1.8 miliwn o lythyrau neu negeseuon e-bost eu hanfon, 1.8 miliwn o negeseuon testun eu hanfon a'u derbyn, a 1.5 miliwn o geisiadau digidol eu cyflwyno.

Nodiadau

Mae'r cyhoeddiad hwn yn seiliedig ar ddata a dynnwyd o'r Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol ar 29 Tachwedd 2024.

Diwygio data

Mae data ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref 2023 a mis Mehefin 2024 wedi'u diwygio yn unol â'n polisi diwygiadau cynlluniedig. Roedd newidiadau bach ar lefel Cymru, gyda newidiadau yn amrywio rhwng llai na 0.1% a 0.4% ar gyfer y data ynghylch apwyntiadau a rhwng llai na 0.1% a 2.9% ar gyfer y data ynghylch gweithgareddau ychwanegol dethol.

Bydd y data ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ionawr 2024 a mis Medi 2024 yn cael eu diwygio yn y cyhoeddiad nesaf.

Contact details

Ystadegydd: Craig Thomas
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099