Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus i drafod cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg.
Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, 'Taro'r cydbwysedd iawn: Cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg', yn nodi amryw gynigion sydd â'r nod o daro'r cydbwysedd iawn rhwng hybu'r Gymraeg a rheoleiddio cydymffurfiaeth â dyletswyddau tuag at y Gymraeg.
Mae’r argymhellion yn y Papur Gwyn yn cynnwys:
- Sefydlu Comisiwn y Gymraeg i drefnu a chydlynu'r gwaith o hybu'r iaith ledled Cymru.
- Ei gwneud yn gliriach i'r cyhoedd, cyrff cyhoeddus a busnesau at bwy y gallan nhw droi os ydyn nhw eisiau datblygu eu defnydd o'r Gymraeg.
- Rhoi mwy o eglurder i siaradwyr Cymraeg o ran pa wasanaethau y mae'n rhaid i gyrff eu darparu yn Gymraeg, a gweithio tuag at gynyddu'r defnydd o'r gwasanaethau hynny.
- Helpu cyrff i ddatblygu eu capasiti i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.
- Symleiddio'r prosesau o lunio Safonau'r Gymraeg a'u gorfodi, a chael gwared ar y fiwrocratiaeth sy'n rhan o ddelio â diffyg cydymffurfiaeth cyrff â'r Safonau er mwyn sicrhau bod achosion yn cael eu hunioni'n gyflym.
- Bod Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am osod Safonau ar gyrff drwy reoliadau a hysbysiadau cydymffurfio. Bod Comisiwn y Gymraeg yn gyfrifol am fonitro a gorfodi cydymffurfiaeth â'r Safonau.
- Cael gwared â'r cyfyngiadau yn y ddeddfwriaeth bresennol fel bod modd gosod Safonau ar unrhyw gorff, cyn belled â bod hynny o fewn pwerau'r Cynulliad.
Dywedodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:
“Rydyn ni’n glir iawn ynghylch ein cyfrifoldeb fel Llywodraeth i sicrhau bod y fframwaith deddfwriaethol yn briodol er mwyn gallu cyflawni’r uchelgais ar gyfer yr iaith. Fodd bynnag, mae gan bawb ran i’w chwarae, ac rydym am i bawb sydd â diddordeb yn yr iaith gyfrannu i’r drafodaeth hon.
“Rydyn ni’n gwybod bod angen consensws a chryfder democrataidd y tu ôl i bolisi iaith. Gyda’n gilydd, drwy ymegnïo o’r newydd, ac addasu i fyd sy’n newid yn barhaus, fe all yr iaith Gymraeg dyfu – yn iaith fyw i bawb sy’n ein huno fel cenedl.”