Sut y dylai awdurdodau lleol a byrddau iechyd weithredu’r Cyflog Byw Gwirioneddol.
Cynnwys
1. Diben
Un o addewidion allweddol Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yw talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn cael ei gyfrifo'n annibynnol gan y Resolution Foundation a'i oruchwylio bob blwyddyn gan y Living Wage Commission. Mae gan y Living Wage Commission fwy o wybodaeth am hyn a’r amserlenni.
Bwriad y canllawiau hyn yw cefnogi dull cyson o barhau i weinyddu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Cyflog Byw Gwirioneddol, a gyflwynwyd gyntaf o 1 Ebrill 2022 ymlaen. Fe'i datblygwyd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ac mae'n annog tryloywder a chydweithrediad llawn rhwng darparwyr gofal ac awdurdodau lleol / byrddau iechyd, fel comisiynwyr gwasanaethau, i sicrhau bod yr ymrwymiad yn cael ei gyflawni.
Er bod y canllawiau'n cefnogi awdurdodau lleol a byrddau iechyd i weinyddu'r ymrwymiad i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, dylai awdurdodau lleol a byrddau iechyd ofyn am gyngor hefyd, gan gynnwys cyngor cyfreithiol ac ariannol, yn ogystal â'r canllawiau hyn, gan ystyried amgylchiadau, cyflogaeth a deinameg y farchnad yn lleol ac ymgysylltu â darparwyr yn ysbryd "let's agree to agree".
Mae'r canllawiau hyn yn cyflwyno cyfres o ddisgwyliadau gofynnol. Ni ddylai awdurdodau lleol a byrddau iechyd deimlo eu bod wedi'u cyfyngu ganddynt os ydyn nhw’n gallu mynd ymhellach yn eu cymorth ariannol i weithwyr gofal cymdeithasol er mwyn gwella’r gallu i’w cadw neu sefydlogrwydd y sector. Dylent, fodd bynnag, gofio'r effaith ar ddarparwyr sy'n gweithredu ar draws ffiniau.
2. Cyfradd Cyflog Byw Gwirioneddol
Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn cael ei gyfrifo'n annibynnol gan y Resolution Foundation a'i oruchwylio bob blwyddyn gan y Living Wage Commission. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag awdurdodau lleol, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSSC), a byrddau iechyd i nodi cost gweinyddu'r ymrwymiad hwn.
Fel rhan o'r broses o bennu’r gyllideb yng Nghymru, bydd cynlluniau gwariant manwl ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod yn cael eu hamlinellu. Bydd costau i fyrddau iechyd yn cael eu talu o gyllideb iechyd Llywodraeth Cymru, a bydd costau i awdurdodau lleol yn cael eu talu drwy’r setliad llywodraeth leol heb ei neilltuo ar sail fformiwla.
Ochr yn ochr â’r Cyflog Byw Gwirioneddol, bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cynyddu eleni hefyd. Er y bydd angen cydnabod hyn yn y cyfraddau ffioedd a delir i ddarparwyr gan gomisiynwyr, nid yw'n rhan o'r cyllid ar gyfer y Cyflog Byw Gwirioneddol, nad yw ond wedi'i fwriadu i dalu am gynyddu’r Cyflog Byw Cenedlaethol i’r Cyflog Byw Gwirioneddol.
Ar gyfer gweithwyr cofrestredig awdurdodau lleol, ystyrir y bydd y gyfradd Cyflog Byw Gwirioneddol gall fod ar waith o 1 Ebrill bob blwyddyn yn cynnwys unrhyw ddyfarniadau cyflog sector cyhoeddus dilynol y cytunwyd arnynt yn y flwyddyn honno.
Bydd gallu darparwyr yn y trydydd sector a'r sector preifat i gynyddu cyflog yn dibynnu i raddau helaeth ar ddigonolrwydd y cyfraddau a delir drwy drefniadau comisiynu a chontractio. Dylai'r rhain gynnwys argostau, a thrafodir hyn yn fanylach yn adran 5. Dylai awdurdodau lleol a byrddau iechyd geisio cymryd camau rhesymol i fodloni eu hunain, fel rhan o broses gydweithredol gyda darparwyr, fod y cyfraddau a delir i ddarparwyr yn ddigonol i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r ymrwymiad hwn. Y disgwyl yw y bydd swm llawn y cyllid a roddir i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ar gyfer gweinyddu'r ymrwymiad Cyflog Byw Gwirioneddol yn cael ei drosglwyddo i ddarparwyr i’w drosglwyddo ymlaen eto i’r gweithwyr.
Ar hyn o bryd, nid yw'r costau'n cynnwys tâl salwch, cysgu i mewn nac unrhyw oriau eraill lle nad oes gofyniad i dalu'r isafswm cyflog cenedlaethol. Fodd bynnag, dylai awdurdodau lleol a byrddau iechyd fod yn ymwybodol y gall fod amgylchiadau lle mae gan ddarparwyr rwymedigaeth gyfreithiol a/neu efallai y bydd yn ofynnol iddynt dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol er mwyn cyflawni eu dyletswyddau fel cyflogwr pan fydd gweithiwr gofal cymdeithasol yn absennol o'r gwaith.
3. Pwy sydd wedi’i gynnwys yn yr ymrwymiad hwn?
Bydd y cynnydd yn berthnasol i weithwyr cofrestredig mewn cartrefi gofal a gofal cartref (gwasanaethau oedolion a phlant) ac mewn canolfannau preswyl i deuluoedd. Hefyd, bydd yn berthnasol i weithwyr gofal cartref cofrestredig mewn lleoliadau byw â chymorth ac i unrhyw gynorthwywyr personol sy'n cael eu hariannu drwy Daliad Uniongyrchol awdurdod lleol (gweler yr adran berthnasol isod).
Ystyr 'gweithwyr cofrestredig' yn y cyd-destun hwn yw'r rolau hynny y mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cadw cofrestr gweithlu ohonynt ac y mae wedi dod yn orfodol eu cofrestru neu lle mae camau'n cael eu cymryd i wneud y gofrestr honno'n orfodol.
Ar hyn o bryd, mae gan weithwyr gofal cartref newydd 6 mis i gofrestru o'r dyddiad maent yn dechrau gweithio. Ni fyddai'r ffaith nad yw gweithiwr wedi cofrestru eto, ond y bydd angen iddo wneud hynny o fewn cyfnod penodol, yn ei eithrio rhag derbyn y cynnydd.
Bydd y cynnydd yn berthnasol i weithwyr cofrestredig sy'n gweithio i asiantaethau hefyd. Cydnabyddir y gallai fod heriau mwy sylweddol o ran cyrraedd gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig sydd ond yn cael eu cyflogi gan asiantaethau cyflogaeth gan nad ydynt yn wasanaeth a gomisiynir yn uniongyrchol. Dylai comisiynwyr a darparwyr geisio sicrhau eu hunain, cyn belled ag y bo modd, eu bod yn caffael gwasanaethau gan asiantaethau sy'n cymryd rhan mewn arferion gwaith teg ac a fydd yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i'w gweithwyr cymwys.
Mae'r ymrwymiad hwn i gynyddu tâl ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig, ac mae'r ffocws i raddau helaeth ar weithwyr proffesiynol ym maes darparu gofal cymdeithasol, lle mae gennym agenda glir i ddarparu amodau a thelerau a llwybrau gyrfa gwell.
Ceir rhagor o fanylion am y rolau hynny sydd wedi’u cwmpasu a’r rhai nad ydynt wedi’u cwmpasu'r ymrwymiad hwn yn Atodiad A.
4. Dull gweithredu
Bydd cyllid ar gael o fis Ebrill ymlaen. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, dylai awdurdodau lleol a byrddau iechyd geisio cytuno ar y ffigur cynnydd i gwmpasu'r Cyflog Byw Gwirioneddol gyda darparwyr a’i gyflwyno cyn gynted â phosibl, fel y gall darparwyr drosglwyddo'r cynnydd i weithwyr gofal cymdeithasol o fis Mehefin ymlaen fan bellaf. Bydd hyn yn helpu i leihau ansefydlogrwydd y farchnad a achosir gan ddarparwyr yn ysgwyddo'r baich ariannol hyd nes y derbynnir yr arian a/neu weithwyr yn newid darparwyr neu asiantaethau er mwyn cael y cynnydd yn gynt. Felly, disgwylir y dylai’r cynnydd i gyfradd y Cyflog Byw Gwirioneddol newydd ddechrau ym mis Ebrill bob blwyddyn a byddem yn disgwyl i weithwyr ddechrau teimlo budd hyn erbyn mis Mehefin y flwyddyn honno fan bellaf.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, rydym yn rhag-weld y bydd awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn cynnwys cynnydd mewn costau comisiynu er mwyn ei gwneud yn bosibl i’r Cyflog Byw Gwirioneddol gael ei dalu. Bydd yn bwysig sicrhau nad yw'r darparwyr hynny sydd eisoes yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr yn wynebu anfantais.
Efallai y bydd angen i awdurdodau lleol a byrddau iechyd wneud dyfarniadau cyflog wedi'u hôl-ddyddio. Bydd angen i gyflogwyr ystyried sut i gymhwyso'r dyfarniadau oherwydd gallai cyfandaliadau effeithio ar fudd-daliadau lles. Dylai'r opsiwn o dalu symiau wedi'u hôl-ddyddio mewn rhandaliadau fod ar gael os bydd y gweithiwr yn gofyn am hyn.
Rydym yn cydnabod y gall fod pwysau ariannol ychwanegol ar ddarparwyr mewn perthynas â gwasanaethau nas comisiynwyd, gwasanaethau a gomisiynir y tu allan i Gymru neu unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol a allai fod yn gymwys pan fydd gweithiwr gofal cymdeithasol yn absennol o'r gwaith. Os bydd darparwyr o'r farn bod y cynnydd a ddarperir drwy'r ffi gomisiynu yn annigonol i godi cyflogau i'r Cyflog Byw Gwirioneddol i bob gweithiwr o fewn cwmpas yr ymrwymiad hwn, byddem yn disgwyl i’r cyflogwyr drafod â’r comisiynwyr neu'r cyllidwyr perthnasol bwysigrwydd egwyddorion gwaith teg fel y nodir yn Atodiad B i’r canllawiau hyn. Byddem hefyd yn disgwyl i gyflogwyr a chomisiynwyr neu gyllidwyr gydweithio tuag at ganfod ateb. Efallai y bydd angen darparu tystiolaeth i gefnogi hyn, e.e. graddfeydd cyflog (sy’n dangos y Cyflog Byw Gwirioneddol yn fan cychwyn ar gyfer y raddfa).
Os na fydd y camau a nodir uchod yn dod o hyd i ateb addas, at ddiben y canllawiau hyn, y comisiynydd perthnasol yw'r awdurdod lleol sy’n cyflogi y mae'r darparwr wedi'i leoli ynddo, oni bai bod darparwr yn cael ei gomisiynu gan fwrdd iechyd yn unig ac nid yr awdurdod lleol – os felly, y bwrdd iechyd y mae'r darparwr wedi'i leoli ynddo yw'r comisiynydd perthnasol.
Bydd y graddau y mae'r cyllid a ddarperir yn galluogi darparwyr i weinyddu'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn llawn ar gyfer pob gweithiwr cymwys yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses werthuso arfaethedig hefyd (gweler adran 9) a bydd yn llywio ein dull gweithredu ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Bydd yr amodau a'r telerau a bennwyd drwy'r Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol yn berthnasol i weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig awdurdodau lleol yn barod. Bydd angen i awdurdodau lleol ymgysylltu ag undebau llafur perthnasol ynghylch y cynnydd mewn cyflogau lle mae hyn yn effeithio ar yr amodau a'r telerau sefydledig o fewn gofal cymdeithasol neu ar draws holl staff awdurdodau lleol. Efallai y bydd angen i rai awdurdodau lleol adolygu graddfeydd cyflog gweithwyr o ganlyniad i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol.
5. Cytuno ar gyfraddau argostau, cynnal gwahaniaethau a thryloywder
Mae amrywiaeth o wahanol fodelau comisiynu a chaffael yn bodoli ledled Cymru, fodd bynnag, mae Cod Ymarfer newydd ar gomisiynu gofal a chymorth wedi’i ddatblygu a bydd yn dod i rym ar 1 Medi 2024. Mae’r Cod hwn yn gosod egwyddorion a safonau cenedlaethol i gomisiynwyr eu dilyn wrth gomisiynu gwasanaethau gofal a chymorth yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae dull cydweithredol rhwng comisiynwyr a darparwyr yn hanfodol. Bydd proses gomisiynu yn unol ag ysbryd "let's agree to agree" sy'n arwain at gyfraddau sydd, drwy gytundeb ar y cyd, yn deg, yn dryloyw ac yn sicrhau "cefnogaeth" gan ddarparwyr yn cynyddu'r tebygolrwydd o gyflawni ymrwymiad y Cyflog Byw Gwirioneddol yn llwyddiannus.
Y gost gliriaf yw cyfradd y cyflog ei hun, a fydd yn codi’n flynyddol ym mis Ebrill bob blwyddyn ariannol. Yn ogystal â'r cynnydd sylfaenol hwn mewn costau, bydd darparwr yn cronni costau statudol ychwanegol y gweithlu o ganlyniad uniongyrchol i gyflogi staff. Yn gyffredinol, fe’u gelwir yn "argostau".
Maen nhw'n cynnwys Cyfraniadau Yswiriant Gwladol, cyfraniadau pensiwn cyflogwyr, lwfansau amser teithio a thâl gwyliau. Bydd y costau hyn yn codi'n uniongyrchol gyfatebol ag unrhyw gynnydd mewn cyflogau staff (gan gynnwys cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol). Gall yr argostau hyn amrywio rhwng darparwyr, yn dibynnu ar drefniadau pensiwn a gwyliau, lwfansau amser teithio ac ati.
Gwnaed darpariaeth ar gyfer argostau yn y cyllid ar gyfer gweinyddu'r ymrwymiad hwn.
Mae'r costau’n cynnwys cyfraniad tuag at y gost o gynnal gwahaniaethau ar ben isaf y graddfeydd cyflog hefyd. Bydd hyn yn helpu cyflogwyr i gydnabod y gweithwyr cofrestredig hynny sy'n cyflawni dyletswyddau ychwanegol, neu sy'n cael eu talu uwchlaw'r isafswm statudol oherwydd bod ganddyn nhw wasanaeth hirach er enghraifft.
Un o egwyddorion y cyllid hwn yw na ddylai roi cyflogwyr sydd eisoes yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol dan anfantais, neu rai sydd wedi cymryd camau tuag at hyn. Bydd y cyfraniad tuag at gynnal gwahaniaethau cyflog yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd hefyd o ran sicrhau nad yw'r darparwyr hynny sydd wedi dangos arfer da o'r blaen dan anfantais, oherwydd y gallent fod wedi cymryd arian o rannau eraill o'u cyllidebau e.e. atgyweirio ac adnewyddu.
6. Problemau i ddarparwyr sy'n gweithio mewn sawl ardal awdurdod lleol a byrddau iechyd
Gall darparwyr sy'n gweithio mewn sawl ardal awdurdod lleol a bwrdd iechyd wynebu anawsterau penodol wrth weinyddu'r polisi hwn. Bydd dulliau gweinyddu ac amserlenni’n amrywio rhwng awdurdodau a byrddau iechyd ac mae rhai darparwyr yn gweithredu polisi cyflog cenedlaethol, ac ni allant gynnig cyfraddau cyflog gwahaniaethol i staff yn dibynnu ar eu lleoliad.
Felly, hyd yn oed pan fydd cytundeb ar y cynnydd, dylai awdurdodau lleol a byrddau iechyd gofio efallai na fydd y darparwr mewn sefyllfa i weinyddu cynnydd, neu'r cynnydd llawn, mewn cyflogau staff nes ei fod wedi dod i gytundebau tebyg gyda phob un (neu'r rhan fwyaf) o'r awdurdodau / byrddau iechyd eraill y mae'n gweithio gyda nhw ac wedi derbyn yr arian.
Felly, nid yw'n ddefnyddiol defnyddio terfyn amser i ddarparwyr dderbyn cyfraddau diwygiedig a/neu gynnydd mewn prisiau sy'n ymwneud â'r Cyflog Byw Gwirioneddol. Fodd bynnag, dylai darparwyr ymateb i gynigion o fewn amserlen resymol a gwneud yr awdurdod lleol/bwrdd iechyd yn ymwybodol o broblemau i sicrhau nad yw'n effeithio ar y broses o bennu'r gyllideb.
Pan fydd awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn comisiynu gwasanaethau gan yr un darparwr, bydd angen iddynt sicrhau bod trefniadau cyfathrebu a thrin da ar waith, gyda thystiolaeth yn cael ei darparu yn ôl yr angen (e.e. cofnod bod yr awdurdod comisiynu yn gwrthod talu’r ffi), er mwyn osgoi'r posibilrwydd o ddyblygu cyllid neu fylchau mewn cyllid.
7. Derbynwyr taliadau uniongyrchol a chynorthwywyr personol
Bydd cynorthwywyr personol, a ariennir drwy Daliad Uniongyrchol, yn parhau o fewn y cwmpas hefyd. Dylid parhau i ddarparu'r cynnydd ar gyfer cynorthwywyr personol drwy gynyddu’r Taliad Uniongyrchol. Dylai dalu'r cynnydd i'r Cyflog Byw Gwirioneddol a chostau cysylltiedig y gweithlu gan gynnwys Yswiriant Gwladol ac argostau cyfraniadau pensiwn.
Mae cod ymarfer rhan 4 (diwallu anghenion) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cadarnhau y gellir darparu Taliadau Uniongyrchol ar gyfer unrhyw angen cymwys, sydd wedi’i asesu am ofal a chymorth.
Mae'r Cod yn ei gwneud yn ofynnol i werth Taliad Uniongyrchol a wneir fod yn gyfwerth â'r amcangyfrif o gost resymol sicrhau'r gofal a'r cymorth sydd eu hangen, yn amodol ar unrhyw gyfraniad ariannol neu ad-daliad sy'n ofynnol i'r derbynnydd ei wneud. Rhaid i'r gwerth fod yn ddigonol i alluogi'r derbynnydd, neu ei gynrychiolydd, i sicrhau'r gofal a'r cymorth sy'n ofynnol i safon y mae'r awdurdod lleol o'r farn ei bod yn rhesymol a rhaid iddo gynnwys costau cynhenid sy'n gysylltiedig â bod yn gyflogwr cyfreithiol, neu drwy ddarparu digon o gymorth ariannol i brynu gwasanaeth cyfreithiol digonol. Bydd rhaid i awdurdodau lleol felly sicrhau bod gwerth unrhyw elfen o’r Taliad Uniongyrchol ar gyfer cynorthwywr personol yn parhau’n gyson â’r Cyflog Byw Gwirioneddol a delir i weithwyr cymdeithasol eraill fel gweithwyr gofal cartref.
Mae'r Cod yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol sicrhau bod y derbynnydd, neu ei gynrychiolydd, yn deall yr holl amodau sydd angen eu bodloni, cyn dechrau gwneud taliadau, gan gynnwys talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i gynorthwywyr personol.
Mae'r Cod hefyd yn nodi gofynion penodol ar gyfer adolygu addasrwydd trefniadau Taliadau Uniongyrchol gan gynnwys monitro ariannol, ad-dalu a therfynu taliadau uniongyrchol a lliniaru risgiau posibl. Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio'r dulliau adolygu presennol i gadarnhau bod unrhyw gynnydd yn y taliad uniongyrchol yn cael ei drosglwyddo fel cynnydd i dâl cynorthwywyr personol.
8. Monitro
Bydd awdurdodau lleol a byrddau iechyd am sicrhau eu hunain fel rhan o'r broses rheoli contractau eu bod yn ymwybodol, a lle bo angen, yn cael tystiolaeth gymesur o sut mae darparwyr yn trosglwyddo'r cynnydd i weithwyr gofal cymdeithasol cymwys a sicrhau bod arferion gwaith teg ehangach yn cael eu mabwysiadu (gweler yr adran berthnasol isod). Efallai y byddent am ystyried defnyddio ffurflen hunan-ddatganiad darparwr i gefnogi'r broses hon. Mae ffurflen enghreifftiol yn Atodiad C.
9. Gwerthuso
Mae gwerthusiad annibynnol wedi’i gomisiynu i asesu effeithiolrwydd cyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol ym mlwyddyn 1 a dysgu gwersi ar gyfer parhau i'w weinyddu, a’i weinyddu ymhellach yn y dyfodol. Bydd yr ymchwil gychwynnol yn cynnwys cyfnod o werthuso dynamig, lle gellir profi a datblygu'r gwersi a ddysgwyd gyda chomisiynwyr a phartneriaid i ddatblygu prosesau a sicrhau eu bod yn cael gweinyddu’n llawn yn y ffordd iawn.
Yn dilyn hyn bydd gwerthusiad canlyniadau mwy, a fydd yn ystyried effaith y Cyflog Byw Gwirioneddol ar y gweithlu, gan gynnwys recriwtio, cadw staff, lles staff a chanlyniadau anfwriadol posibl gan gynnwys effeithiau ar ffiniau daearyddol. Bydd angen i gontractwyr weithio gyda chomisiynwyr, cyflogwyr a staff i gael gwybodaeth fanwl am effeithiolrwydd y Cyflog Byw Gwirioneddol.
Bydd y Grŵp Llywio Cyflog Byw Gwirioneddol i Weithwyr Gofal Cymdeithasol yn parhau i oruchwylio'r broses weinyddu, gan ymateb i faterion sy'n codi gyda phwyslais ar sicrhau tegwch a chysondeb o ran dull gweithredu.
10. Gwaith teg
Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn gam pwysig nid yn unig o ran cydnabod rôl hanfodol gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, a hefyd wrth fynd i'r afael â'r materion recriwtio a chadw cynyddol heriol ac amodau gwaith dan bwysau yn y sector gofal cymdeithasol.
Mae tystiolaeth gynyddol bod gwella cyflog, amodau a thelerau gweithwyr gofal o fudd i gomisiynwyr, cyflogwyr a gweithwyr, yn ogystal â'r rhai sy'n derbyn gofal a chymorth.
Fodd bynnag, dim ond un nodwedd o waith teg yw "gwobr deg", ac mae’r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol wedi drafftio dogfen egwyddorion gwaith teg (Atodiad B). Mae'n galw ar bob comisiynydd a chyflogwr gofal cymdeithasol i ymrwymo i gyfres ehangach o egwyddorion, fel y nodwyd gan y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, i sicrhau bod gweinyddu'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn llwyddiannus a bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael eu cydnabod fel gweithwyr proffesiynol gwerthfawr sy'n darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol.
Bydd y gwerthusiad o weinyddiaeth y Cyflog Byw Gwirioneddol yn ystyried defnydd a gwaith monitro comisiynwyr o'r egwyddorion gwaith teg a'r effaith ddilynol ar Waith Teg hefyd.
Atodiad A
Rolau swyddi sy'n rhan o Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i Weithwyr Gofal Cymdeithasol
Y rolau sydd o fewn cwmpas yr ymrwymiad hwn gan Lywodraeth Cymru
- Gweithwyr gofal cymdeithasol mewn cartrefi gofal cofrestredig (plant ac oedolion) mewn rôl lle mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai'n ofynnol neu y bydd yn ofynnol.
- Gweithwyr gofal cymdeithasol mewn canolfannau preswyl i deuluoedd mewn rôl lle mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai'n ofynnol neu y bydd yn ofynnol.
- Gweithwyr gofal cartref mewn gwasanaethau cymorth cartref cofrestredig (gan gynnwys gwasanaethau byw â chymorth) mewn rôl lle mae angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Cynorthwywyr personol a gyflogir gan bobl sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol awdurdod lleol.
Swyddi nad ydynt yn rhan o gwmpas yr ymrwymiad hwn
- Darparwyr cofrestredig, rheolwyr rhanbarthol ac uwch staff eraill nad ydynt yn cael eu cyflogi'n unig i weithio mewn cartref gofal cofrestredig neu wasanaeth cymorth cartref.
- Staff eraill cartrefi gofal nad yw’n ofynnol iddynt gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Er enghraifft, staff arlwyo, glanhau a chynnal a chadw, swyddogion cyllid, therapyddion, cymorth busnes, hyfforddwyr, staff derbynfa a chydlynwyr gweithgareddau.
- Staff gwasanaethau cymorth cartref eraill nad yw’n ofynnol iddynt gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Er enghraifft, staff cymorth busnes, hyfforddwyr, swyddogion cyllid ac amserlenwyr.
- Rolau gofal cymdeithasol eraill nad ydynt mewn cartrefi gofal cofrestredig neu wasanaethau cymorth cartref, p'un a yw unigolion wedi'u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ai peidio.
- Gweithwyr gofal eraill sy'n cael eu talu gan ddefnyddio taliadau uniongyrchol gan yr awdurdod lleol ond nad ydynt yn cael eu cyflogi fel Cynorthwyydd Personol gan y sawl sy'n derbyn cymorth.
- Staff ysbytai a hosbisau annibynnol.
Atodiad B
Gwaith teg mewn gofal cymdeithasol: egwyddorion ar gyfer y sector
Cofrestru i sicrhau gwaith teg mewn gofal cymdeithasol
Mae gweinyddu'r Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yn gam pwysig cyntaf tuag at gydnabod rôl hanfodol gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru a mynd i'r afael â'r heriau cynyddol o recriwtio a chadw staff yn y sector gofal.
Dim ond un elfen o waith teg yw "gwobr deg". Rydyn ni'n galw ar bob comisiynydd a chyflogwr gofal cymdeithasol i ymrwymo i gyfres ehangach o egwyddorion, fel y nodwyd gan y Comisiwn Gwaith Teg, i sicrhau bod y Cyflog Byw Gwirioneddol yn cael ei weinyddu'n llwyddiannus a bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael eu cydnabod fel gweithwyr proffesiynol gwerthfawr sy'n darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol.
Gofynnwn i chi ymrwymo i'r nod cyffredin hwn o wella gwaith teg i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy sicrhau'r canlynol:
Mae gweinyddu'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn cyflawni ei amcan drwy:
- Sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio fel bod y Cyflog Byw Gwirioneddol yn cyrraedd pecynnau cyflog y gweithwyr a amlinellir. Dylai ymgysylltu rhwng comisiynwyr, darparwyr, y gweithlu ac undebau llafur gyfleu'n glir beth fydd y cynnydd yn ei olygu i weithwyr gofal cymdeithasol a chadarnhau pryd y byddan nhw'n ei dderbyn.
- Bodloni isafswm disgwyliad y dylid cynnal amodau a thelerau presennol y gweithlu, heb unrhyw effaith negyddol ar weithwyr, na grwpiau o weithwyr fel gweithwyr iau, o ganlyniad i'r cynnydd. Anogir cyflogwyr a chomisiynwyr i fynd y tu hwnt i ddisgwyliadau'r Cyflog Byw Gwirioneddol os allan nhw.
Gweithio gyda'n gilydd ar agweddau eraill ar waith teg ym maes gofal cymdeithasol:
- Fel bod gan weithwyr lais yn y gweithle, a bod cyflogwyr yn ystyried y manteision y gall gweithio gydag undebau llafur cydnabyddedig eu cynnig. Anogir y sector i wahodd undebau llafur cydnabyddedig i ymgysylltu â staff ynghylch buddion a manteision aelodaeth.
- Ymgysylltir ac ymgynghorir â staff ynghylch iechyd a diogelwch yn y gweithle drwy, er enghraifft, annog cynrychiolwyr diogelwch undebau llafur cydnabyddedig a sefydlu pwyllgorau iechyd a diogelwch.
- Mae gan weithwyr gofal cymdeithasol lwybr dilyniant clir sy'n gweddu i broffesiwn gwasanaeth cyhoeddus allweddol.
- Mae cyfleoedd ar gyfer dysgu, hyfforddiant a datblygiad parhaus ar gael i bob gweithiwr gofal cymdeithasol drwy ddatblygu 'diwylliant dysgu' ar draws y sector gofal cymdeithasol.
- Cyflawnir mwy o amrywiaeth o fewn y gweitlu gofal cymdeithasol, gan greu gweithleoedd gofal cymdeithasol mwy cynhwysol.
Diolch i'n holl gomisiynwyr a chyflogwyr am gefnogi'r ymrwymiadau hyn ac wrth wneud hynny, gwella amodau a thelerau gweithwyr gofal.
Atodiad C
Gweinyddu'r Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru ffurflen hunan-ddatganiad darparwr.