Mae'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans wedi ymuno ag Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, Derek Mackay ac Ysgrifennydd Parhaol Adran Gyllid Gogledd Iwerddon, Sue Gray i fynegi pryderon am yr effaith bosib ar wasanaethau rheng flaen sy'n cael eu darparu gan gyrff sector cyhoeddus, os na fydd y newidiadau arfaethedig i bensiynau sector cyhoeddus gan Lywodraeth y DU yn cael eu cyllido'n llawn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans wedi ymuno ag Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, Derek Mackay ac Ysgrifennydd Parhaol Adran Gyllid Gogledd Iwerddon, Sue Gray i fynegi pryderon am yr effaith bosib ar wasanaethau rheng flaen sy'n cael eu darparu gan gyrff sector cyhoeddus, os na fydd y newidiadau arfaethedig i bensiynau sector cyhoeddus gan Lywodraeth y DU yn cael eu cyllido'n llawn. 

Mae'r gweinyddiaethau datganoledig wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, Liz Truss gan ddweud:


“Rydym yn parhau i deimlo'n bryderus am yr holl broses o werthuso cynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus.

“Hoffem ddechrau drwy ddweud yn glir ein bod yn anghytuno'n sylfaenol â'r ffordd y dyrannwyd cyllid ychwanegol ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig. Y brif broblem yw nad yw lefel y cyllid yn ddigon i ariannu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r newidiadau. Mae hyn yn annerbyniol ac yn anghyson â'r Datganiad Polisi Cyllid a'r egwyddorion ar gyfer dyrannu cyllid o fewn y DU. Mae paragraff 1.17 o'r Datganiad Polisi Cyllid yn nodi'n glir iawn 

“pan fydd penderfyniadau a wneir gan unrhyw un o'r gweinyddiaethau datganoledig neu gyrff o dan eu hawdurdodaeth yn arwain at oblygiadau ariannol i adrannau neu asiantaethau Llywodraeth y DU, neu, fel arall, pan fydd penderfyniadau adrannau neu asiantaethau Llywodraeth y DU yn arwain at gostau ychwanegol i unrhyw un o'r gweinyddiaethau datganoledig, lle nad oes trefniadau eraill yn bodoli yn awtomatig i addasu ar gyfer costau ychwanegol o'r fath, bydd y corff a wnaeth y penderfyniad a arweiniodd ar y gost ychwanegol yn talu'r costau.”

“Rydym hefyd yn bryderus iawn am y diffyg tryloywder ac ymgysylltu mewn perthynas â newidiadau sydd â goblygiadau sylweddol o ran gwariant cyhoeddus, sy'n tanseilio ac yn difrïo fframwaith gwariant cyhoeddus sefydledig y DU.  

“Roeddem wedi gobeithio cael cyfle i drafod hyn mewn Cyfarfod Pedairochrog y Gweinidogion Cyllid cyn toriad yr haf. Er ein bod yn croesawu gwaith ar lefel swyddogion i egluro'r Datganiad Polisi Cyllid ac i reoleiddio a ffurfioli Cyfarfod Pedairochrog y Gweinidogion Cyllid, ni fydd hyn yn rhoi sylw i faterion penodol ac uniongyrchol sy'n codi o ran costau pensiwn sector cyhoeddus.

“Fel yr ydym wedi ei ddweud yn gyson, rydym yn arbennig o bryderus am yr effaith ar wasanaethau rheng flaen sy'n cael eu cyflawni gan gyrff sector cyhoeddus. Rydym wedi cymryd camau i ddarparu cyllid ychwanegol i helpu gyda baich y costau annisgwyl hyn. Mae hynny wedi gostwng y cyllid sydd ar gael i'w fuddsoddi yn ein blaenoriaethau ein hunain, ac wedi cyfyngu ar ein hyblygrwydd i ddelio ag unrhyw bwysau yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys paratoadau ar gyfer Brexit. Yn eu hanfod, mae gweithredoedd Llywodraeth y DU wedi bod yn anfanteisiol i'r gweinyddiaethau datganoledig. 

“Mae cyrff sector cyhoeddus hefyd am gael sicrwydd cynnar am gyllid ar gyfer y dyfodol er mwyn eu helpu i ystyried eu cynlluniau. Awgrymoch y byddai cyllid ar gyfer y dyfodol yn cael ei ystyried fel rhan o'r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant, ac rydym wedi gofyn am eglurder ar y cynlluniau hyn. 

“Gan ystyried pwysigrwydd sylweddol y mater hwn i'r tair gweinyddiaeth ddatganoledig, rydym yn gofyn i chi drefnu cyfarfod ar fyrder i ganiatáu i ni gwrdd â chi i drafod goblygiadau llawn y dyraniadau cyllid pensiynau sector cyhoeddus. Mae hyn yn unol â'r gweithdrefnau a nodwyd yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhynglywodraethol presennol (paragraff A3.8) mewn perthynas ag anghydfodau cyllidol. 

“Gobeithio y bydd modd i ni ddod o hyd i ateb boddhaol i'r sefyllfa drwy drafod yn adeiladol gyda'n gilydd. Dylai hyn arwain at gyllido teg ar draws y DU, a mwy o dryloywder a sicrwydd yn y dyfodol mewn perthynas â materion cyllido. 

“Os na fyddwn yn gallu datrys y mater hwn cyn hir, byddwn yn dilyn trywydd mwy ffurfiol i ddatrys yr anghydfod drwy gamau ffurfiol Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (paragraff A3.9 y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth).”