Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw cyhoeddodd Adran Addysg Llywodraeth y DU a'r Swyddfa Gartref gyllid o £7.6m ar gyfer elusennau cenedlaethol sy'n cefnogi plant a phobl ifanc agored i niwed sy'n dioddef neu mewn perygl o ddioddef trais domestig, camfanteisio rhywiol a chamdriniaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn y cyhoeddiad mae Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, a Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi anfon llythyr ar y cyd i'r Swyddfa Gartref yn gofyn iddynt sicrhau bod y cyllid hwn yn cyrraedd elusennau yng Nghymru.

Meddai Jane Hutt:

"Mae'r cyllid hwn wedi’i anelu at elusennau mwy o faint sydd mewn trallod ariannol oherwydd COVID-19. Rwy'n croesawu cyllid a fydd yn helpu elusennau ar draws Cymru i gefnogi plant a phobl ifanc agored i niwed sy'n byw gydag effaith trais domestig, camfanteisio rhywiol a chamdriniaeth.

"Yn anffodus, fodd bynnag, mae'r dull gweithredu a gymerwyd yn golygu nad yw elusennau o Gymru'n gallu gwneud cais am y cyllid hwn eu hunain. Hoffwn gael sicrwydd bod elusennau cenedlaethol sy'n gweithio yng Nghymru'n cael cefnogaeth i'w galluogi i barhau i weithredu yng Nghymru, neu i ehangu eu gweithrediadau i Gymru.

"Rydym wedi bod mewn trafodaethau â'r Swyddfa Gartref ers dechrau mis Ebrill, a chawsom wybod y byddai'r gronfa ar gael i elusennau cenedlaethol sydd naill ai’n elusennau yng Nghymru, yn elusennau yn Lloegr neu'n elusennau sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr.

"Fodd bynnag, oherwydd mai elusennau cenedlaethol sydd â throsiant blynyddol o dros £40 miliwn sy'n gymwys i wneud cais, mae'r Adran Addysg wedi pennu'r meini prawf ar gyfer y gronfa mewn ffordd sy'n gwahardd elusennau yng Nghymru i bob pwrpas. Hyd y gwyddom ni, nid oes gan unrhyw o'r elusennau yng Nghymru sy'n cefnogi plant agored i niwed drosiant o fwy na £40 miliwn.

"Mae'r gwahaniaethau yn y cyd-destun deddfwriaethol, y cymorth ariannol a'r ddarpariaeth o ran gwasanaethau rhwng y ddwy wlad yn cael eu colli yn y dull gweithredu hwn. Caiff hyn ei ddwysáu gan y ffaith bod ychydig iawn o elusennau cymwys yng Nghymru yn gweithio ar lefel Cymru gyfan.”

Meddai Julie Morgan:

"Rwy'n bryderus iawn y gallai’r meini prawf a bennwyd olygu na fydd plant a phobl ifanc Cymru'n cael unrhyw fantais wirioneddol o’r cyllid hwn. Rydym eisiau sicrwydd y bydd plant a phobl ifanc o bob rhan o'n gwlad yn cael budd ohono.

"Rwy'n bryderus hefyd na fyddwn yn gweld unrhyw geisiadau am gyllid gan elusennau nes bod penderfyniadau cymeradwyo wedi'u gwneud. Byddai hyn yn ein hatal rhag gallu darparu cymorth ar gyfer gweithgareddau arfaethedig neu wybod p'un a yw’r cynigion yn dyblygu neu'n torri ar draws gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo.

"Mae gan Gymru bolisi a fframwaith deddfwriaethol ar wahân ar gyfer ymateb i blant a phobl ifanc sydd mewn perygl, ac mae angen i ni allu sicrhau bod y prosiectau pwysig hyn yn cael eu cysoni'n gywir. Bydd yn hanfodol bod unrhyw sefydliadau sy’n cael cyllid yn deall hyn, fel eu bod yn ymgysylltu'n effeithiol â Llywodraeth Cymru a phartneriaid diogelu.

"Mae angen i'n plant a’n pobl ifanc mwyaf difreintiedig allu cael budd o'r gronfa hon. Rydym ni, a Jane Hutt, yn galw ar y Swyddfa Gartref i ailystyried yr amodau sy'n gysylltiedig â'r cyllid hwn."