Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion a wnaed gan Gomisiynydd Plant Cymru i wella rhagor ar wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc.
Cyhoeddodd Comisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland, ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2017-18 ar 1 Hydref. Mae’r Adroddiad yn nodi’r gwaith a wnaed gan y Comisiynydd o 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2018.
Yn yr adroddiad, tynnodd y Comisiynydd sylw at rai o’r meysydd lle mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cryn gynnydd ynddynt. Mae hyn yn cynnwys gwella eiriolaeth annibynnol i blant a phobl ifanc a bwrw ati gyda’r cynnig i ddileu amddiffyniad cosb rhesymol.
Mae 15 o argymhellion i Lywodraeth Cymru yn Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd, yn ymwneud ag ystod eang o feysydd ar draws Llywodraeth Cymru, gan gynnwys iechyd, addysg, gwasanaethau plant a thrafnidiaeth.
Mae’r Gweinidogion naill ai wedi derbyn yr argymhellion sydd yn yr adroddiad, neu wedi’u derbyn mewn egwyddor.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
“Rwy’n croesawu adroddiad blynyddol y Comisiynydd Plant ar gyfer 2017-18. A hithau’n gyfnod o newid mawr, mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o barhau i barchu a chynnal hawliau plant a phobl ifanc a gwrando ac ystyried eu barn am yr hyn sy’n cael effaith arnynt.
“Rydym yn rhannu’r un weledigaeth â’r Comisiynydd Plant, sef y dylai plant a phobl ifanc fod wrth galon popeth a wnawn yn y llywodraeth, boed hynny’n bolisi, yn rhaglenni neu’n ddeddfwriaeth.
“Gydol fy nghyfnod fel Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi sefyll yn gadarn dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles, deilliannau addysgol a disgwyliadau plant a phobl ifanc Cymru ar gyfer y dyfodol. Bydd gweithredu fel hyn yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd ac y byddant yn mynd ymlaen i wireddu eu potensial llawn.”
Dywedodd y Gweinidog dros Blant, Huw Irranca-Davies:
“Rwy’n falch ein bod ni fel Llywodraeth wedi gallu naill ai derbyn holl argymhellion y Comisiynydd neu eu derbyn mewn egwyddor. Dyma brawf fod Llywodraeth Cymru yn ymdrin o ddifrif â hawliau plant. Rydym yn parhau i rannu nod gyffredin â'r Comisiynydd, sef sicrhau bod plant wrth galon popeth a wnawn fel Llywodraeth.
“Rydym yn cydnabod y gwaith diflino a wnaed gan y Comisiynydd trwy gydol y flwyddyn ar ran plant a phobl ifanc Cymru. Mae gwaith y Comisiynydd, sef rhoi llais i blant a phobl ifanc ac eirioli ar eu rhan, yn hanfodol er mwyn diogelu a hyrwyddo’u lles a’u hawliau.
“Fel Llywodraeth, rydym wedi cydweithio â’r Comisiynydd ac eraill er budd plant a phobl ifanc Cymru, a byddwn yn parhau i wneud hynny.”