Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd Cymru lwyddiant ysgubol yn y gwobrau nyrsio a bydwreigiaeth yn gynharach eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd Cymru lwyddiant ysgubol yn y gwobrau nyrsio a bydwreigiaeth yn gynharach eleni. Heddiw, cwrddodd y Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd Iechyd â'r enillwyr canlynol: 

Melanie Davies, o Ysbyty Treforys, Abertawe, a gafodd ei gwobrwyo'n Nyrs y Flwyddyn gan yr RCNi am ei gwaith o wneud newidiadau pellgyrhaeddol i'r gofal a roddir i gleifion ag anableddau dysgu. 

Sharon Fernandez, Ymwelydd Iechyd Arweiniol ar gyfer gwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol Powys, a enillodd wobr Ymwelydd Iechyd y Flwyddyn, sef un o wobrau'r Journal of Health Visiting. 

Y Fydwraig Profedigaeth, Laura Wyatt, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sydd wedi ennill gwobr y mamau Emma's Diary ar gyfer Bydwraig y Flwyddyn 2017 i Gymru. Mae'r wobr hon yn un o'r gwobrau blynyddol a roddir gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd i gydnabod y gwaith rhyfeddol a wneir gan fydwragedd sy'n ysbrydoliaeth i eraill ledled y wlad. 

Cemlyn Roberts, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd wedi ennill gwobr y DU a roddir gan yr RCNi i gydnabod gwaith Cynorthwywyr Gofal Iechyd. Enillodd Cemlyn y wobr am wella'r gofal a roddir i bobl ag anableddau trwy ei ddull  caredig a gofalgar o ymdrin â phobl sy’n bryderus ynglŷn â thynnu gwaed.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:  

“Roedd yn fraint fawr cyfarfod â'r grŵp eithriadol hwn o weithwyr iechyd proffesiynol heddiw. Maen nhw'n esiampl ddisglair o'r hyn y mae ein gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru yn ei gyflawni bob dydd wrth helpu'r rheini sydd mewn angen. 

“Mae'r gweithwyr iechyd hyn wedi profi mai nhw yw'r gorau yn eu maes yn y DU. Mae'n bwysig dathlu llwyddiant, a dw i'n eu llongyfarch ar eu llwyddiannau gwych. Dw i'n gobeithio y byddan nhw'n ysbrydoli gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ar draws y wlad i i fynd ati i efelychu eu llwyddiant.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

"Y llwyddiant hwn yw ein 'camp lawn' yn y gwobrau nyrsio, ac mae'n dangos pa mor arbennig yw ein staff gofal iechyd ni. 

“Roedd yn wych cael y cyfle i gwrdd â'r grŵp heddiw. Mae pob un ohonynt yn llysgennad ar gyfer y wlad hon, a dw i'n gobeithio y bydd nyrsys, bydwragedd, a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill o bob rhan o'r DU yn cael eu darbwyllo i ddewis Cymru fel y lle gorau i ddilyn gyrfa yn y dyfodol. 

“Fel dw i wedi dweud o'r blaen, mae Cymru'n wlad ddelfrydol i hyfforddi, gweithio a byw ynddi;  ac mae'n wlad lle byddwn yn parhau i gynnig bwrsarïau'r Gwasanaeth Iechyd i fyfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth a gweithwyr iechyd cymwys yn 2018/19. Mae'n hefyd yn wlad hefyd lle byddwn yn parhau i gefnogi datblygiad proffesiynol. Rydyn ni'n dal i fuddsoddi mewn addysg nyrsio a bydwreigiaeth, ac mae nifer y nyrsys sy'n gweithio yn GiG yng Nghymru yn parhau i gynyddu o un flwyddyn i'r llall. 

“Dylai Melanie, Laura, Sharon a Cemlyn fod yn falch iawn o'r hyn y maen nhw wedi ei gyflawni, o ran nhw eu hunain, eu teuluoedd a phawb yn y GIG yng Nghymru; a gallwch fod yn siŵr ein bod ni hefyd yn hynod falch o'r hyn y maen nhw wedi ei gyflawni.”

Dywedodd Tina Donnelly, Cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru:

“Llongyfarchiadau mawr gan yr RCN i bob un o’r nyrsys hyn am eu llwyddiant arbennig – ac i bob nyrs sy’n gweithio mor galed yng Nghymru. Mae proffesiynoldeb y gymuned nyrsio Gymreig yn hollol amlwg, ac yn dangos bod lles cleifion yn ganolog i bob dim y maen nhw’n ei wneud.

“Mae ennill pedair o’r gwobrau cenedlaethol pwysig hyn yn dangos bod nyrsys Cymru ar flaen y gad ym mhob maes o’r byd nyrsio.”