Mae Llywodraeth Cymru yn mynd i ofyn am ganiatâd y Senedd ar gyfer cyflwyno bil brys i sicrhau bod etholiad nesaf y Senedd yn cael ei gynnal yn ddiogel, gan alluogi etholwyr i gymryd rhan a bwrw pleidlais yn ystod pandemig parhaus y coronafeirws.
Os bydd Aelodau’r Senedd yn rhoi eu caniatâd, byddai Bil brys yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd yr wythnos nesaf (dydd Mercher 27 Ionawr) er mwyn darparu amrywiol fesurau ar gyfer addasu a rheoli’r ffordd y bydd etholiad nesaf y Senedd yn cael ei gynnal.
Fel opsiwn i’w ddilyn os na fydd unrhyw ddewis arall, byddai’n golygu bod modd gohirio etholiad y Senedd ar 6 Mai am hyd at chwe mis os bydd y pandemig yn golygu bod y bygythiad i iechyd y cyhoedd mor ddifrifol fel na fydd yn ddiogel i’r etholiad gael ei gynnal ar yr adeg honno. Byddai’n rhaid i ddwy ran o dair o holl Aelodau’r Senedd roi eu caniatâd cyn i’r opsiwn hwn gael ei ddewis. Byddai hefyd angen i’r Aelodau gytuno ar ddyddiad newydd ar gyfer yr etholiad.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:
“Mae’n fwriad clir gan Lywodraeth Cymru i etholiad nesaf y Senedd gael ei gynnal ddydd Iau 6 Mai 2021. Rydyn ni hefyd yn benderfynol o wneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod pobl yn gallu bwrw eu pleidlais pan fydd yr etholiad yn cael ei gynnal.
“Ond, oherwydd natur anwadal y coronafeirws, mae tipyn o ansicrwydd ynghylch y sefyllfa y byddwn ni ynddi ym mis Mai. Rydyn ni’n gofyn, felly, i’r Senedd gydsynio i gyflwyno bil brys a fyddai’n golygu bod gan Aelodau’r Senedd y pwerau sy’n angenrheidiol i reoli’r ffordd y bydd yr etholiad yn cael ei gynnal, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
“Os bydd y sefyllfa o ran y pandemig mor ddifrifol fel bod rhaid gohirio’r etholiad, bydd y bil yn darparu’r pwerau, fel opsiwn os na fydd unrhyw ddewis arall, ar gyfer gohirio’r etholiad am gyfnod o hyd at chwe mis. Byddai’r bil yn sicrhau bod hyn yn amodol ar gael cydsyniad dwy ran o dair o holl Aelodau’r Senedd, felly byddai gan bob Aelod ran yn y penderfyniad terfynol.”