Heddiw, mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi hwb ariannol gwerth dros £260m i gynghorau lleol yng Nghymru i roi’r sicrwydd sydd ei angen arnynt i gynllunio ar gyfer gweddill y flwyddyn.
Mae’r pecyn diweddaraf hwn yn golygu bod Llywodraeth Cymru bellach wedi darparu gwerth bron i hanner biliwn o bunnoedd mewn cymorth i awdurdodau lleol ar gyfer COVID-19. Bydd yn helpu i dalu am gostau uwch ac i reoli pwysau yn sgil colli incwm. Bydd hefyd yn ariannu gofynion glanhau ychwanegol mewn ysgolion o ganlyniad i argyfwng y coronafeirws.
Gyda phosibilrwydd gwirioneddol y bydd nifer yr achosion yn cynyddu eto yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf, bydd y buddsoddiad hwn yn rhoi’r hyder i awdurdodau lleol baratoi eu cyllidebau ar gyfer ail don bosibl. Bydd yr arian yn cael ei ddyrannu drwy broses hawlio.
Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James:
“Mae ein hawdurdodau lleol wedi ymateb yn ardderchog i heriau COVID-19, ond rydym yn cydnabod yr effaith ariannol y mae hyn wedi’i chael arnynt.
“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinwyr awdurdodau lleol i ddeall y pwysau a’r heriau sy’n eu hwynebu, a’r cymorth sydd ei angen i barhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus integredig o safon i gymunedau ledled Cymru.”
Ychwanegodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:
“Mae cynghorau lleol wedi bod wrth wraidd ein hymateb i COVID-19. Mae’r pecyn newydd hwn o gymorth ariannol yn cydnabod graddfa’r heriau digynsail sy’n wynebu awdurdodau ledled Cymru ac yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen arnynt i barhau i ymateb i’r argyfwng a pharatoi ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol.”
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd Cyllid ac Adnoddau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
“Mae cynghorau, a’r gwasanaethau lleol hanfodol yr ydym yn eu darparu, ar flaen y gad yn yr ymdrech i fynd i’r afael â’r pandemig hwn ac maent wedi bod o dan bwysau ariannol eithriadol. Bydd yr addewid cyllid hwn yn rhoi’r hyder iddynt gynllunio gyda mwy o sicrwydd ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol.
“Hoffwn ddiolch i Weinidogion Llywodraeth Cymru am weithio’n agos gyda llywodraeth leol ar y pecyn cyllid hwn, ac am gymryd yr amser i ddeall y pwysau sydd ar wasanaethau lleol.”