Bydd Gweinidogion Cymru a'r Alban yn cyfarfod yng Nghaerdydd heddiw i drafod yr angen i newid y Bil i Ymadael â'r UE er mwyn rhoi sicrwydd i fusnesau a dinasyddion ac amddiffyn datganoli.
Bydd Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford a Gweinidog Brexit yr Alban, Michael Russell yn cyfarfod i drafod y Bil i Ymadael â'r UE a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn ddiweddar.
Hefyd yn bresennol yn y cyfarfod bydd Arglwydd Adfocad Llywodraeth yr Alban, James Wolffe CF a Chwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw.
Bydd y cyfarfod yn canolbwyntio ar yr angen i ddiwygio'r Bil er mwyn i'r pwerau perthnasol gael eu cadw gan y gweinyddiaethau datganoledig, yn hytrach na chael eu cymryd yn ôl gan Lywodraeth y DU fel sydd yn cael ei gynnig yn y Bil ar hyn o bryd.
Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd yr Athro Drakeford:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud o'r cychwyn ein bod yn cytuno bod angen ymadael â'r Undeb Ewropeaidd mewn ffordd drefnus, ond bod angen i hynny fod ar sail cyfres o drefniadau sy'n rhoi sicrwydd i fusnesau ac i'n cymunedau, ac sy'n parchu'r setliad datganoli.
"Dydy'r Bil i Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ddim yn gwneud hynny o gwbl ar ei ffurf bresennol. All Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddim disgwyl cefnogaeth y gweinyddiaethau datganoledig ar y sail honno.
"Rydyn ni am helpu Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddod o hyd i ffordd allan o'r llanast yma. Fe fyddwn ni'n dod at y bwrdd mewn ysbryd adeiladol i drafod pa fframweithiau cyffredin fydd eu hangen o bosib ar draws y Deyrnas Unedig ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Rhaid i hyn ddigwydd drwy gytundeb, yn hytrach na gorfodaeth.
"Rydyn ni'n sôn am gyfrifoldebau sydd wedi bod gan Fae Caerdydd a Chaeredin ers 1999. Mae'n model ni o ddatganoli wedi ennill cefnogaeth y cyhoedd drwy amrywiol etholiadau a refferenda, felly does dim modd i hynny gael ei wyrdroi ar amrantiad gan Whitehall.
"Rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod Mr Russell heddiw i drafod ffyrdd o gydweithio er mwyn sicrhau parch i ddatganoli ar draws y Deyrnas Unedig."
Dywedodd Mr Russell:
"Yn syml iawn, mae'r Bil i Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn ymosodiad ar bwerau Senedd yr Alban ac egwyddorion datganoli, y gweithiwyd mor galed i'w hennill.
"Fedrwn ni ddim sefyll yn ôl a gadael i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd pwerau mewn meysydd datganoledig. Rhaid i'r Bil gael ei newid i barchu datganoli a'n senedd.
"Dydy'r Bil ddim yn dychwelyd pwerau i'r gweinyddiaethau datganoledig, fel yr addawyd. Yn hytrach, mae'n gosod cyfyngiadau newydd ar Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
"Rwy'n edrych ymlaen at gael trafod gyda’r Athro Drakeford i weld sut fedrwn ni amddiffyn datganoli a beth yw ein blaenoriaethau ar gyfer diwygio'r Bil.
"Gobeithio bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn dod at y bwrdd i drafod y Bil gan gydnabod ein bod yn bartneriaid cyfartal ar fater a fydd yn effeithio'n sylweddol ar ddyfodol ein heconomi a'n cymdeithas."