Rhaid i Lywodraeth y DU osod cynlluniau i godi'r cap ar gyflogau sector cyhoeddus a gwyrdroi'r toriadau gwariant sy'n cael eu cynllunio yng Nghyllideb yr Hydref eleni.
Rhaid i Lywodraeth y DU osod cynlluniau i godi'r cap ar gyflogau sector cyhoeddus a gwyrdroi'r toriadau gwariant sy'n cael eu cynllunio yng Nghyllideb yr Hydref eleni.
Dyma neges Gweinidogion Cyllid Cymru a'r Alban i'r Trysorlys yn y Cyfarfod Pedairochrog ar Gyllid yn Llundain heddiw.
Anogwyd Llywodraeth y DU i newid cyfeiriad ynghylch cyni, a buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus drwy godi'r cap o 1% ar gyflogau sector cyhoeddus.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
"Rydyn ni'n llwyr gefnogi'n gweithwyr sector cyhoeddus ac wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gael gwared â'r cap ar gyflogau a gadael i weithwyr ar draws y Deyrnas Unedig i gael y codiad cyflog y maen nhw'n ei haeddu.
"Fodd bynnag, rydyn ni wedi dweud yr un mor glir bod rhaid i hyn gael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Rhaid i'r rhai a osododd y cap fod yn gyfrifol am ariannu ei ddileu.
"Rydyn ni eisoes wedi ymrwymo i ddefnyddio unrhyw symiau canlyniadol a gawn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o ganlyniad i godiadau cyflog sector cyhoeddus yn Lloegr i godi'r cap ar gyflogau gweithwyr sector cyhoeddus yng Nghymru.
"Rwy'n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud y peth iawn a chodi'r cap o 1% ar gyflogau'r holl weithwyr sector cyhoeddus, a rhoi'r cyllid i'r gweinyddiaethau datganoledig wneud hynny hefyd."
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, Derek Mackay:
"Rydyn ni'n credu ei bod yn bryd i weithwyr sector cyhoeddus, yn yr Alban ac ar draws y Deyrnas Unedig, gael y gydnabyddiaeth y maen nhw'n ei haeddu.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i godi'r cap o 1% ar gyflogau sector cyhoeddus ac yn y gyllideb sydd ar ddod byddwn yn cynnig polisi cyflog fforddiadwy, sy'n cydnabod gwir amgylchiadau ein gweision cyhoeddus.
"Fodd bynnag, bydd cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ffactor allweddol wrth bennu'r adnodd sydd ar gael i Lywodraeth yr Alban ei fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a chyflogau sector cyhoeddus.
"Felly rwy'n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddefnyddio unrhyw gyllid sydd ar gael wrth gefn i wyrdroi'r toriadau gwariant sy'n cael eu cynllunio, codi'r cap o 1% ar gyflogau pob un sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus a rhoi digon o arian i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus."