Bydd Gweinidogion Cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cyfarfod heddiw i drafod goblygiadau refferendwm yr UE.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford AC, yn croesawu ei gymheiriaid – Gweinidog Cyllid Gogledd Iwerddon Máirtín Ó Muilleoir ACD ac Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban dros Gyllid a’r Cyfansoddiad, Derek Mackay ASA – i Gaerdydd i gynnal trafodaethau allweddol.
Bydd y tri Gweinidog Cyllid yn trafod effaith y bleidlais yn y refferendwm fis diwethaf ac effaith bosibl hynny ar gyllid cyhoeddus.Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd yr Athro Drakeford:
“Rwy’n edrych ymlaen at groesawu Máirtín a Derek i Gaerdydd ar gyfer y trafodaethau pwysig hyn. Yn sgil canlyniad y refferendwm mae goblygiadau amlwg i’n gwledydd ac i’n cyllid cyhoeddus, gan gynnwys cyllideb Cymru. “Gan fod cymaint o ansicrwydd ar ôl y refferendwm, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn dod at ein gilydd i drafod sut y gallwn gydweithio i godi ein pryderon gyda Llywodraeth y DU a cheisio sicrhad i’n gweinyddiaethau datganoledig.”