Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidogion Cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal trafodaethau brys cyn Cyllideb y DU ar 11 Mawrth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn llythyr at Brif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys, Stephen Barclay, mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans, Gweinidog yr Alban ar gyfer Cyllid Cyhoeddus a’r Economi Ddigidol, Kate Forbes, a Gweinidog Cyllid Gogledd Iwerddon, Conor Murphy, yn galw am gyfarfod ar y cyd i drafod effaith Cyllideb y Deyrnas Unedig ar y llywodraethau datganoledig ac i egluro’r cynlluniau ar gyfer yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant sydd i’w gynnal maes o law.

Maent yn dweud:

“Byddai cyfarfod brys yn rhoi’r cyfle i’r Prif Ysgrifennydd newydd roi awgrym cynnar o’r meysydd lle bydd goblygiadau i’r gweinyddiaethau datganoledig yn sgil Cyllideb y DU. Byddai hyn yn arbennig o dderbyniol o gofio’r amgylchiadau penodol a achoswyd eleni gan yr oedi cyn cyhoeddi Cyllideb y DU a’r newidiadau hwyr i’n cyllidebau ninnau ar gyfer 2019-20 o ganlyniad i hynny.

“Byddem hefyd yn gwerthfawrogi cael eglurder ynglŷn ag Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant y DU, yn enwedig yr amserlen debygol a pha ymgysylltu a fydd yn digwydd â’r llywodraethau datganoledig.”

Maent yn nodi hefyd bod cynnal trafodaeth a bod yn dryloyw ynglŷn â chyllid ar ôl ymadael â’r UE yn flaenoriaeth o ran y materion pwysig sydd i’w trafod.

“Bydd yn bwysig trafod yr heriau i wariant cyhoeddus o ganlyniad i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a thrafod hefyd sut yr ydym am weithio gyda’n gilydd i sicrhau ein bod yn gallu trosglwyddo’n esmwyth at fframwaith cyllido newydd ar ôl ymadael â’r UE – fframwaith sy’n cyflawni’r gofynion ar gyfer holl rannau’r DU ac yn adlewyrchu realiti datganoli.

“Un elfen allweddol fydd cwblhau ein gwaith ar y cyd i adolygu a gwella’r Datganiad Polisi Cyllido, sy’n hanfodol i’n gallu i gynllunio a rheoli cyllidebau, a rhoi statws ffurfiol i Gyfarfod Pedairochrog y Gweinidogion Cyllid fel fforwm rheolaidd i drafod a datrys materion cyllidol sy’n effeithio ar bob rhan o’r DU.”