Cynhaliwyd cyfarfod rhwng Gweinidogion Cyllid y Gweinyddiaethau Datganoledig heddiw yn Newry.
Gwahoddwyd Ysgrifennydd Cabinet Cymru dros Gyllid, Mark Drakeford AC ac Ysgrifennydd Cabinet yr Alban dros Gyllid a'r Cyfansoddiad, Derek Mackay MSP i drafod materion cyllidol allweddol cyn eu cyfarfod gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ddydd Llun.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gyllid, Mark Drakeford:
"Dyma'r ail dro i ni gwrdd ers canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, ac rydyn ni'n dal i fod mewn cyfnod anodd ac ansicr. Rydyn ni'n parhau i wynebu toriadau i'n Cyllideb, a dydyn ni ddim yn gwybod eto pa effaith fydd Datganiad yr Hydref y Canghellor ei chael ar ein rhagolygon ariannol.
"Dyna pam mae'r cyfarfodydd hyn mor bwysig, i roi cyfle i ni ddod at ein gilydd i drafod pryderon sy'n gyffredin i ni cyn ein cyfarfod gyda'r Trysorlys yr wythnos nesaf. Rydyn ni'n parhau i bwyso am eglurder a thrafodaeth ynghylch Datganiad yr Hydref, a'r hyn y bydd penderfyniad y Canghellor i ailosod y polisi cyllid yn ei olygu ar gyfer ein setliadau unigol."
Dywedodd Gweinidog Cyllid Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Máirtín Ó Muilleoir:
"Roedd yn bleser cynnal cyfarfod gweinidogol tairochrog heddiw yn ardal Newry am y tro cyntaf. Yn ystod y cyfarfod cafwyd cyfle i drafod nifer o faterion pwysig sy'n gyffredin i ni, gan gynnwys goblygiadau parhaus refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, yr ardoll brentisiaethau, datganoli mesurau cyllidol a sut i ysgogi ein heconomïau yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.
"Gyda'n gilydd, rydyn ni'n cynrychioli dros ddeng miliwn o bobl ar draws y rhanbarthau datganoledig, ac rwy'n parhau i gredu ein bod yn gryfach wrth siarad ag un llais. Rydyn ni'n galw ar y Canghellor Hammond i gynnwys ysgogiad yn Natganiad yr Hydref ar 23 Tachwedd er mwyn darparu cyllid cyfalaf sylweddol ar unwaith i gyflymu'r buddsoddiad yn ein seilwaith.
"O ran cyllid Ewropeaidd, dydyn ni ddim wedi cael unrhyw warant o hyd ynghylch sut y byddwn yn cael cyllid yn lle'r ffrydiau ariannu pwysig hyn yn y dyfodol."
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet yr Alban dros Gyllid a'r Cyfansoddiad, Derek Mackay MSP:
“Mae’n amlwg bod y llywodraethau datganoledig yn gytûn bod diffyg eglurder Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn niweidio’n gallu i gynllunio buddsoddiad yn ein heconomi, diogelu swyddi, cefnogi busnesau a chynnal gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel. O ganlyniad i ffordd Llywodraeth y Deyrnas Unedig o weithio, rydyn ni’n gweld mwy o ansicrwydd i gyllid cyhoeddus.
“Mae Llywodraeth yr Alban wedi galw’n gyson ar y Canghellor hwn a’i ragflaenydd i roi diwedd ar y cyni ac i fuddsoddi yn ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus – gan ariannu hynny drwy fenthyg yn hytrach na thoriadau – ffordd o weithio sy’n ceisio mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau yn ein cymdeithas yn hytrach na’u gwaethygu. Rwy’n falch o ymuno gyda’r ddau Weinidog o Gymru a Gogledd Iwerddon i alw am ddiogelu’n cyllidebau, sy’n bwysicach fyth yn y cyfnod hwn o ansicrwydd economaidd.”