Mae Gweinidogion Cyllid y tair gweinyddiaeth ddatganoledig wedi gofyn i’r Canghellor George Osborne am gyfarfod brys
Cytunodd y Gweinidogion Cyllid i barhau i weithio gyda’i gilydd ar faterion ariannol pwysig sydd o ddiddordeb i bob un ohonynt, ac yn arbennig yn erbyn toriadau pellach y gallai Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu hystyried yn dilyn y refferendwm. Mae’r Gweinidogion hefyd eisiau i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi addewid cadarn y bydd y ffrydiau cyllid sy’n gysylltiedig â’r Undeb Ewropeaidd yn parhau.
Dywedodd Mr Drakeford:
“Yn dilyn canlyniad y refferendwm, mae rhywfaint o ansicrwydd wedi codi sy’n berthnasol i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’n amlwg y bydd yn cael effaith ar sefyllfa gyllidol y Deyrnas Unedig ac, o ganlyniad, bydd ein cyllidebau ninnau hefyd yn cael eu heffeithio.
“Cawson ni gyfle yn y cyfarfod heddiw i ddod at ein gilydd i rannu ein pryderon ac i feddwl sut allwn ni siarad fel un yn y trafodaethau â San Steffan. Dyna pam rydyn ni wedi ysgrifennu at y Canghellor yn gofyn iddo am gyfarfod i drafod ein pryderon ni i gyd ac i ofyn hefyd am sicrwydd i’n pobl, ein cymunedau a’n busnesau.
“Gyda’r miliynau o bunnoedd rydyn ni’n eu cael i helpu pobl i gael gwaith a hyfforddiant, ac i gefnogi busnesau ac adfywio cymunedau, mae Cymru yn fuddiolwr net o’r Undeb Ewropeaidd. Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi sicrwydd nawr na fydd Cymru yn colli ceiniog o’r arian hanfodol hwn o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.”
Dywedodd Mr Mackay:
“Rydw i’n credu’n bendant mai bod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd sydd orau i’r Alban. Dyn pam mae Llywodraeth yr Alban yn benderfynol o fynd ar drywydd pob opsiwn posibl i gadw ein lle yn yr Undeb Ewropeaidd, i adlewyrchu’r ffordd y gwnaeth pobl yr Alban bleidleisio.
“Dydyn ni dal ddim yn gwybod beth yn union fydd canlyniad Brexit ar sefyllfa ariannol Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n gweld yn barod fod y Llywodraeth honno yn awgrymu newid cynlluniau gwariant yn y dyfodol, ac mae yna hefyd bryderon mawr am yr economi a lefelau buddsoddi.
“Mae angen i Lywodraeth y Deryrnas Unedig roi atebion ar frys i’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon; atebion am yr effaith y gallai’r bleidlais o blaid Brexit ei chael ar gyllidebau’r dyfodol. Dyna pam mae’n hanfodol ein bod ni’n cwrdd â Mr Osborne cyn gynted â phosibl.
“Rydw i hefyd wedi mynegi pryderon yn barod am yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar broses gyllideb yr Alban eleni. O ystyried yr ansicrwydd hwn, mae yna achos cadarn o blaid cyhoeddi cyllideb un flwyddyn yn hytrach nag un dair blynedd eleni.”
Dywedodd Máirtín Ó Muilleoir, Gweinidog Cyllid Gogledd Iwerddon:
“Mae’n hanfodol ein bod ni’n gweithio er budd y bobl ar draws Gogledd Iwerddon, Cymru a’r Alban a gweithio gyda’n gilydd ar faterion sydd o ddiddordeb i ni i gyd. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n chwilio am sicrwydd gan Lywodraeth San Steffan ynghylch cyllidebau a bod y lefelau sylweddol o fuddsoddiad yr Undeb Ewropeaidd rydyn ni’n elwa arnyn nhw nawr yn mynd i barhau.
“Mae’r effaith economaidd bosibl ar ardal y ffin, sydd wedi cael llawer o arian Ewropeaidd, yn fater sy’n amlwg yn achosi tipyn o bryder.
“Rydyn ni i gyd, ar draws yr ynysoedd hyn, am gynnig sefydlogrwydd yn wyneb yr ansicrwydd sydd wedi’i greu gan Refferendwm yr UE. Fel Gweinidogion Cyllid y gweinyddiaethau datganoledig, rydyn ni wedi cytuno i weithredu’n gadarn i ddiogelu buddiannau ein pobl, yn arbennig yn erbyn polisïau ariannol anodd pellach y gallai Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu cyflwyno o ganlyniad i’r refferendwm.”