Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates, wedi bod yn Genefa heddiw yn chwifio'r faner dros Gymru, ac yn siarad â'r sector modurol am yr heriau mae'r diwydiant yn eu hwynebu
Cafodd y Gweinidog olwg cynnar ar yr All-Terrain Concept, car trydan gan Lagona sy'n cael ei lansio'n ffurfiol yn y sioe. Dyma fydd y Car Batris Trydan cyntaf i gael ei wneud yn ffatri newydd Aston Martin yn Sain Tathan, gyda gwaith yn dechrau ar y car yn 2022.
Dywedodd Ken Skates o Genefa:
"Mae Sector Modurol Cymru yn rhan hanfodol o'n heconomi, gan gyflogi bron 19,000 o bobl yng Nghymru. Mae hefyd yn hanfodol i gadwyn gyflenwi'r Deyrnas Unedig, gyda dros 200 o gwmnïau sydd yn y gadwyn gyflenwi yn gwneud dros 30% o'r 2.7 miliwn o injans sy'n cael eu cynhyrchu yn y Deyrnas Unedig.
"Rydyn ni'n gwybod bod y diwydiant modurol yn mynd drwy gyfnod o newid cyflym, wedi'i beri gan newidiadau technolegol a safonau amgylcheddol uwch. Pan fydd hynny'n cael ei gyfuno â'r potensial ar gyfer tariffau a rhwystrau tariff newydd, a thensiynau a chostau os yw'r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb fynediad at Farchnad Sengl yr Undeb Ewropeaidd a'r Undeb Tollau, nid oes dwywaith nad yw'r adeg hon yn un ansicr a heriol ar gyfer y sector.
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda cwmnïau yn y sector bron yn ddyddiol, yn eu cynorthwyo mewn nifer o feysydd gweithredol a strategol gan gynnwys, er enghraifft, cynlluniau buddsoddi, anghenion hyfforddi, materion yn gysylltiedig â chystadleuaeth a gofynion y farchnad allforio.
"Yn ystod wythnos sydd, yn ôl pob golwg, yn allweddol ar gyfer Brexit, mae'r ymweliad hwn wedi rhoi cyfle gwych arall imi siarad â'r sector yn uniongyrchol a gwrando ar eu heriau a'u hansicrwydd.
"Rydyn ni'n gwybod bod ein sesiynau codi ymwybyddiaeth o Brexit a'n gweithdai – sy'n canolbwyntio ar y sector, ein Porth Brexit ar wefan Fusnes Cymru a'n Cronfa Cydnerthedd Brexit i gyd wedi cael eu croesawu gan y sector, a’u bod yn helpu cwmnïau i baratoi cystal ag y gallant ar gyfer dyfodol nad ydyn ni'n gwybod llawer amdano. Fel Llywodraeth sydd o blaid busnes, mae'n hanfodol ein bod yn gwrando a bod ein cymorth yn parhau i ddatblygu ac ymateb i anghenion.
“Byddwn ni'n parhau i annog Llywodraeth y DU i gytuno ar fargen sy'n rhoi'r cyfle gorau posibl i'n cwmnïau gweithgynhyrchu modurol i gystadlu o fewn y diwydiant byd-eang hwn, sy'n hanfodol i'r Deyrnas Unedig ac i economi Cymru.
"Roeddwn yn enwedig o falch gweld yr All-Terrain Concept, car trydan gwych a fydd yn cael ei gynhyrchu yn Sain Tathan. Mae ein perthynas ag Aston Martin yn enghraifft batrymol o'r hyn y gall ein hagwedd gadarnhaol tuag at fusnesau ei gyflawni, a byddwn yn parhau i weithio mewn modd adeiladol a rhagweithiol gyda'r sector yn y misoedd a'r blynyddoedd heriol sydd o'n blaen".