Heddiw, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi datgelu rhaglen lawn o deithiau masnach rhyngwladol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwanwyn 2023, gan gefnogi busnesau Cymru sy'n teithio'r byd yn ystod y misoedd nesaf i ddatblygu eu hallforion.
Gwneir y cyhoeddiad wrth i'r ddirprwyaeth fusnes ddiweddaraf o Gymru deithio i Dubai yn yr Emiradau Arabaidd Unedig (UAE) ar gyfer sioe fasnach feddygol fwyaf y Dwyrain Canol - Arab Health - ar y 28ain o Ionawr 2023. Bydd busnesau o sectorau amrywiol yn ymuno â’r busnesau Technoleg Feddygol sy’n chwilio am gyfleoedd yn yr hwb masnach byd-eang hwn.
Ym mis Mawrth bydd busnesau o Gymru yn ymweld â Dulyn i gyfarfod â darpar gleientiaid a phartneriaid newydd, fel rhan o gyfres o weithgareddau i hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol yng nghyfnod Dydd Gŵyl Dewi. Iwerddon yw'r 4ydd cyrchfan fwyaf poblogaidd i allforion Cymru, ac mae'n cynnig cyfle gwych i fusnesau ar draws pob sector.
Hefyd, mae asiantaeth Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi'r diwydiannau creadigol yng Nghymru, Cymru Greadigol, yn arwain cenhadaeth i gefnogi busnesau yn y Game Developers Conference (GDC) 2023 yn San Francisco. Bydd busnesau eraill o Gymru yn ymuno â'r ddirprwyaeth yn GDC sy'n gobeithio datblygu eu hallforion yn ardal Bae San Francisco, sy'n rhan o California gyda GDP o dros hanner triliwn o Ddoleri.
O fis Ebrill ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru yn arwain saith taith fasnach newydd i bum gwlad ar draws tri chyfandir. Dewiswyd y marchnadoedd ac arddangosfeydd yn y rhaglen i adlewyrchu'r datblygiadau rhyngwladol cyfredol sy'n cynnig cyfleoedd gwirioneddol i fusnesau Cymru.
Gall ymweld â'r farchnad allforio ei hun fod yn elfen hanfodol o ennill a chynnal busnes, boed hynny'n ymweld ag arddangosfa neu rwydweithio â chwsmeriaid posibl ac mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd allforwyr Cymru i gofrestru i fod yn bresennol.
Mae'r rhaglen newydd yn parhau gyda chenhadaeth fasnach i Atlanta, Georgia ar gyfer MRO Americas rhwng y 18fed a'r 20fed o Ebrill. Bydd cwmnïau hedfan, cynnal a chadw cludiant awyr masnachol, cyflenwyr trwsio ac atgyweirio, gweithgynhyrchwyr, rheoleiddwyr, ac arbenigwyr o'r diwydiant yn cwrdd ar gyfer digwyddiad mwyaf blaenllaw'r diwydiant yng Ngogledd America.
Rhwng y 25ain a'r 27ain o Ebrill, bydd busnesau'n mynychu JEC Paris, sy'n un o'r sioeau masnach mwyaf blaenllaw ar gyfer y diwydiant cyfansawdd, gan ddenu 1,300 o arddangoswyr a dros 45,000 o ymwelwyr.
Mae Teithiau Masnach wedi'u hyrwyddo o dan frand Cymru Wales yn cefnogi ymdrechion ehangach i godi proffil Cymru ar y llwyfan byd-eang. Gan adeiladu ar ymddangosiad Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA 2022, mae busnesau'n dychwelyd i Doha, Qatar ym mis Mai i ddatblygu cyfleoedd masnachol newydd.
Ym mis Mehefin bydd cyfnod prysur i allforwyr Cymru gyda nifer o deithiau masnach. Rhwng y 3ydd a'r 9fed, bydd dirprwyaethau'n mynd i Gonfensiwn Rhyngwladol BIO yn Boston, UDA. Mae Confensiwn Rhyngwladol BIO yn denu dros 14,000 o arweinwyr biotechnoleg a fferyllol am wythnos o rwydweithio dwys i ddarganfod cyfleoedd newydd a phartneriaethau addawol. Bydd dirprwyaeth aml-sector o fusnesau hefyd yn ymweld â Boston.
Yn ôl yn Ewrop, bydd Cymru'n anfon dirprwyaeth i Amsterdam, Yr Iseldiroedd ar gyfer Money 20/20 Europe rhwng y 5ed a'r 9fed o Fehefin. Mae'r digwyddiad hwn yn cynnig cyfle i gysylltu â lleisiau dewraf a disgleiriaf technoleg ariannol i ymchwilio i'r heriau presennol a llywio'r hyn sy'n dod nesaf i'r ecosystem arian yn Ewrop a thu hwnt.
Yna, bydd y rhaglen yn mynd ymlaen i Baris, Ffrainc ar gyfer Sioe Awyr eiconig Paris rhwng y 19eg a'r 25ain o Fehefin. Fe'i sefydlwyd yn 1909, dyma'r digwyddiad awyrofod mwyaf yn y byd a chyfle i rwydweithio â chwaraewyr allweddol yn y diwydiant awyrofod byd-eang.
Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughn Gething:
Mae allforio yn hanfodol i lawer o'n busnesau, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w cefnogi i ehangu a llwyddo.
"Wrth i'r ddirprwyaeth ddiweddaraf o fusnesau gwych deithio o Gymru i Dubai ddiwedd yr wythnos, rwy'n falch iawn o gadarnhau rhaglen lawn o deithiau masnach y gwanwyn hwn, gan gynnwys i Ogledd America, Ewrop a'r Dwyrain Canol. Mae'r rhain yn farchnadoedd allforio hanfodol i Gymru, ac rwy'n hyderus y bydd y teithiau'n helpu cwmnïau ledled Cymru i adeiladu ar eu llwyddiant o ran allforio.
"Wrth i ni gyflawni'r Cynllun Gweithredu Allforio, byddwn yn parhau i adeiladu ar y llwyfan cadarn sydd wedi ei osod yn ystod y deuddeg mis diwethaf wrth inni adfer o Covid. Mae mynychu arddangosfeydd a marchnadoedd masnach rhyngwladol wedi'u targedu yn hanfodol i ddatblygu allforion a gwella cystadleurwydd ein busnesau yng Nghymru. Rwy'n dymuno llwyddiant mawr i bob busnes sy'n cymryd rhan.
Bydd rhaglen lawn 2023/24 yn cael ei chyhoeddi ym mis Mawrth wrth i Gynhadledd Archwilio Allforio Cymru ddychwelyd i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 09 Mawrth a Gwesty'r Village, Ewlo, ar 16 Mawrth 2023.