Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig £3 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i Gyngor Sir Benfro i dalu am gostau dileu tollau Pont Cleddau, meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi.
Ym mis Hydref 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n cael gwared ar y tollau ar Bont Cleddau mewn ymgais i gynyddu cystadleuaeth economaidd a chysylltu pobl, cymunedau a busnesau yn well gyda'r swyddi, y marchnadoedd a'r cyfleusterau y maent eu hangen.
Bellach mewn llythyr at Brif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Benfro, mae Ysgrifennydd yr Economi wedi cynnig £3 miliwn yn flwyddyn i dalu am gostau refeniw yn ogystal â thaliadau unigol i dalu am ddymchwel seilwaith y toll ac i dalu costau colli swyddi y staff o ganlyniad i'r newid.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Mae cael gwared ar y tollau ar Bont Cleddau y penderfyniad iawn i Sir Benfro a'r ardal. Dwi'n hyderus y bydd yn cyflymu twf economaidd lleol, yn cysylltu ein busnesau a'n cymunedau yn well, ac yn ei gwneud yn haws ac yn rhatach i bobl deithio i gyrraedd y cyfleoedd am waith o safon y maent eu hangen.
"Yn wir, mae astudiaeth a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Benfro wedi dangos y byddai dileu y tollau yn cefnogi strategaeth datblygu economaidd yr ardal, yn hwb i'r economi leol, i'r Ardal Fenter a'r mentrau bach a chanolig yn yr ardal.
"Fodd bynnag rydym yn cydnabod yn llawn fod y penderfyniad i ddileu'r tollau yn dod â goblygiadau i gyllideb y Cyngor yn ogystal a gwaith y mwyafrif o'r gweithwyr sydd wedi bod yn casglu'r tollau.
"Gan ystyried hyn rydym wedi bod yn hael yn ein cynnig o £3 miliwn y flwyddyn i dalu am gostau refeniw yn ogystal â chyllid ychwanegol i dalu am gostau colli swyddi a dymchwel y seilwaith ar gyfer casglu'r tollau."
Gan dalu teyrnged i'r staff yr effeithir arnynt wrth ddileu y tollau, dywedodd Ken Skates:
"Dwi'n gwybod bod y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i ddefnyddio y staff yr effeithir arnynt gan y newid hwn, ond yn anffodus dwi'n deall y bydd yn rhaid i rai golli eu swyddi. Dwi'n sylweddoli pa mor anodd fydd hyn i'r gweithwyr a'u teuluoedd a hoffwn ddiolch iddynt am eu gwasanaeth i'r cyhoedd a dymuno pob llwyddiant iddynt wrth ddod o hyd i swyddi newydd."
Mae'r cytundeb dwy flynedd ar gyfer y Gyllideb gyda Plaid Cymru yn cynnwys £2 filiwn yn 2019-20 i ddileu y tollau ar Bont Cleddau. Mae tollau Pont Cleddau i gael eu dileu yn ystod Gwanwyn 2019.